Harry Baker: Pedwar yn euog o lofruddio, tri o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn a llanc yn ei arddegau wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth bachgen 17 oed gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafwyd tri dyn arall yn euog o ddynladdiad Harry Baker, 17, o Gaerdydd.
Dyfarnwyd Leon Clifford, 23, Leon Symons, 23, Peter McCarthy, 37, a llanc 17 oed na ellir ei enwi, yn euog o lofruddiaeth, a Raymond Thompson, 48, Ryan Palmer, 34, a Lewis Evans, 62, yn euog o ddynladdiad.
Clywodd y llys bod Harry Baker wedi cael ei "hela'n ddidrugaredd" cyn cael ei drywanu naw gwaith â chyllell mewn modd "gwaedlyd a didostur" mewn iard yn Nociau'r Barri ym Mro Morgannwg ym mis Awst 2019.
Yn ystod yr achos clywodd y rheithgor sut yr oedd gwerthwyr cyffuriau eraill wedi ei erlid am filltir ar ôl iddo ddechrau gwerthu yn eu hardal nhw.
Roedd Clifford, Thompson, Evans, Palmer a McCarthy, oll o'r Barri, Symons o Drelai yng Nghaerdydd, a'r llanc 17 oed wedi gwadu llofruddiaeth.
Roedd Clifford eisoes wedi cyfaddef dynladdiad, a dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi dringo i'r iard a thrywanu Mr Baker.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Casnewydd, clywodd y rheithgor sut bod y grŵp wedi penderfynu "y dylai Harry Baker farw, neu o leiaf ddioddef niwed difrifol iawn" ar ôl crwydro i'w hardal nhw i werthu cyffuriau.
Cafodd ei gornelu ar stryd, cyn cael ei erlid am filltir, gan y grŵp oedd yn cario arfau.
Dywedodd yr erlynydd Paul Lewis QC bod Mr Baker wedi bod yn "chwilio am fusnes" yn Y Barri gyda'i ffrind Louis Johnson wrth iddyn nhw ymweld â Poppy Davies a Michael Sparks, dau berson oedd yn defnyddio cyffuriau.
Clywodd y rheithgor bod Mr Baker wedi dod o hyd i loches mewn iard yn y dociau, cyn i'r grŵp ddod o hyd iddo, ei drywanu dro ar ôl tro, a'i adael i farw yn yr iard.
Dywedodd y patholegydd fforensig Dr Deryk James, a gynhaliodd archwiliad post mortem, bod Harry Baker wedi colli bron i ddau litr o waed yn dilyn yr ymosodiad.
Roedd wedi cael ei drywanu a'i dorri ar hyd ei wyneb, pen, gwddf, stumog a'i goesau, gyda rhai wedi mynd i mewn i'w ymennydd.
'Ciaidd a dideimlad'
Y Ditectif Brif Arolygydd Andy Miles oedd yn arwain yr ymchwiliad ar ran Heddlu De Cymru, a disgrifiodd y llofruddiaeth fel "ymosodiad ciaidd, dideimlad a bwriadol a gostiodd fywyd bachgen ifanc mewn modd trasig".
Ychwanegodd: "Er ei fod yn dod o deulu cariadus ac na welodd eisiau ddim byd erioed, dechreuodd Harry ar ffordd o fyw beryglus.
"Nid oedd yn haeddu'r gosb a gafodd y noson honno, ac mae ei farwolaeth dreisgar wedi cael effaith ofnadwy ar y teulu a'r ffrindiau y mae'n eu gadael ar ôl.
"Mae'n meddyliau gyda nhw wrth iddynt aros i glywed pa ddedfrydau y bydd ei lofruddwyr yn eu derbyn, ac wrth iddyn nhw ystyried ailadeiladu eu bywydau hebddo."
Bydd y saith yn cael eu dedfrydu ar 29 Mawrth.
Mae Martin Blakebrough, pennaeth y sefydliad camddefnyddio sylweddau Kaleidoscope, yn credu y dylai marwolaeth Harry Baker nawr annog gwleidyddion ac ymarferwyr i adolygu pa mor effeithiol y mae gwasanaethau yng Nghymru wedi bod wrth atal niwed sy'n cael ei achosi gan gyffuriau dosbarth A.
Meddai: "Byddwn yn gobeithio y bydd pobl yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y sefyllfa erchyll hon, ac ar un ystyr yn ceisio mynd yn ôl, o ran 'Iawn, felly beth ddigwyddodd i'r llanc hwn fel ei fod yn gwerthu cyffuriau?'
"'Beth ddigwyddodd mewn gwirionedd i'r grŵp a oedd yn ymwneud â chyffuriau? Beth ellid fod wedi'i wneud yn well?' Felly rhaid mynd yn ôl i'r camau cyntaf."
Ychwanegodd Mr Blakebrough: "Rwy'n credu, gydag unrhyw drasiedi, bod yn rhaid i ni bwyso a mesur: 'A oes unrhyw beth y gallem fod wedi'i wneud yn well?' Ac rwy'n credu mai'r realiti yw ydy - fe allech chi yn bendant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020