Lle oeddwn i: Shane Williams a Champ Lawn 2005

  • Cyhoeddwyd
shaneFfynhonnell y llun, David Rogers

Mae Cymru'n wynebu Iwerddon mewn gêm dyngedfennol yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Mawrth 16. Os bydd Cymru'n fuddugol bydd y cochion yn ennill y Gamp Lawn am y deuddegfed tro.

Mae'n sefyllfa debyg i'r hyn ddigwyddodd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, pan wynebodd Cymru'r Gwyddelod i ennill y cyfan yn Stadiwm y Mileniwm.

Un oedd yn chwarae dros Gymru'r diwrnod hwnnw oedd y cyn-asgellwr a gafodd ei enwi'n chwaraewr gorau'r byd yn 2008, Shane Williams.

Dyma'i atgofion o'r diwrnod arbennig yna ar Fawrth 19, 2005.

Dwi jest yn cofio mai dyna oedd y tro cynta' i fi fod yn llwyddiannus gyda Chymru, ac ennill rhywbeth. Dwi'n cofio yn yr wythnos cyn y gêm roedd chwaraewyr fel fi a Gavin Henson yn eitha' nerfus, ond roedd 'na fois profiadol efo ni ac roeddwn i'n gallu gweld bod nhw'n edrych 'mlaen at y gêm.

Rwy'n cofio edrych ar bobl fel Stephen Jones, Martyn Williams a Gethin Jenkins ac roedden nhw'n edrych yn hyderus, ac o'n i'n meddwl "ni'n mynd i ennill heddi, dwi'n gwbod hynny". Aethon ni mas gyda hyder a chwarae'n dda.

Y siwrne i'r gêm

O'n i'n gwybod bod miloedd o bobl yng Nghaerdydd a oedd heb docynnau, ac yn gwylio'r gêm ar y sgriniau mawr o amgylch y ddinas. Roedd 'na lot o sylw yn amlwg gan fod Cymru heb ennill y Gamp Lawn ers 1978, felly roedd 'na dipyn o bwysau ar y bois.

Ond dwi jest yn cofio gweld y dorf o amgylch y bws ar y ffordd i'r gêm, ac roedd hi hyd yn oed yn fwy hectic ar ôl y gêm - anhygoel o dorf! A dwi'n cofio meddwl "esgyn, mae hyn yn golygu lot i bobl Cymru".

'Gêm anodd'

Oedd, roedd e yn gêm anodd. Shane Horgan, a oedd yn chwarae'n dda iawn ar y pryd, fydde wedi bod yn fy erbyn i ar yr asgell y dydd hwnnw ond oedd e mas gyda anaf. Felly ar yr asgell i'r Gwyddelod oedd Girvan Dempsey a Denis Hickie.

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

Dwayne Peel â'i freichiau yn yr awyr i ddathlu chwiban ola'r dyfarnwr, Chris White

Daeth Iwerddon i Gaerdydd i daflu popeth aton ni. Roedd ein hamddiffyn ni'n reit dda ar y pryd, ond yr ymosod oedd yn sefyll mas yn y bencampwriaeth 'ny - roedd bechgyn yn y garfan oedd yn gallu sgorio o rywle.

Dwi'n cofio o'n ni dan lot o bwyse, ac wedyn Gethin Jenkins yn chargio lawr cic ROG (Ronan O'Gara) a sgorio cais - roedden ni angen hynny er mwyn codi'r pwyse!

Roedd bois fel Gethin lan yn wyneb Ronan ac yn trio'i roi bant ac fe weithiodd - roedd ei nerfs wedi cymryd drosodd.

Dwi'n cofio roedd yn gêm anodd i fi yn bersonol achos o'n i ffili dod mewn i'r gêm. Roedd yn gêm dynn gyda'r blaenwyr yn dala 'mlaen i'r bêl. Sgoriodd Kevin Morgan gais neis, ond o'n i'n teimlo'n rhwystredig iawn fy hun achos o'n i'n methu cael fy nwylo ar y bêl. Ond yn y diwedd o'n i jest yn falch i gael chwaraewyr fel Gethin yn y tîm.

Cais cynta'r ymgyrch

Y gêm bwysicaf yn y Chwe Gwlad yw'r gêm gyntaf. Dwi'n cofio mynd i'r gêm agoriadol yn 2005 yn erbyn Lloegr a meddwl bo' ni ddim cweit digon da i guro nhw - o'n safbwynt i beth bynnag.

Rhoddodd y bois berfformiad arbennig i mewn, nes i sgorio yn y gornel, ac wedyn Gavin Henson yn cael un o'r gemau gorau a gafodd yng nghrys coch Cymru.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Cais cynta'r ymgyrch; Shane yn mynd rownd Mark Cueto i sgorio yn y gornel yn erbyn Lloegr

Ar ôl hynny roedden ni'n meddwl efallai am y bencampwriaeth, dim y Chwe Gwlad, gan bod ni wedi curo'r tîm gorau yn y gystadleuaeth - fe ddaeth yr hyder wedi hynny. Mae'r garfan yma yn 2019 wedi mynd mewn i'r bencampwriaeth yn credu bod nhw ddigon da i ennill, a falle dyna'r gwahaniaeth mwyaf rhwng y tîm nawr a 2005.

Camp Lawn yn 2019?

Ydw dwi'n meddwl gwneith Cymru ennill y Gamp Lawn. Rwy'n credu bod nhw'n gallu chwarae lot gwell na be 'dyn ni wedi'i weld, ac mi wnawn nhw fynd mas a dangos hynny.

Bydd rhaid codi eu lefel rhywfaint. Yn anffodus bydda i ddim yng Nghaerdydd, dwi mas yn Rhufain yn sylwebu ar gyfer Yr Eidal v Ffrainc. Os gofynnwch chi am sgôr, af i am fuddugoliaeth 23-16 i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Pool
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas a Michael Owen yn codi tlws y Chwe Gwlad a dathlu'r Gamp Lawn gyntaf mewn 27 mlynedd

Hefyd o ddiddordeb: