Ffarwelio â’r stafell ddosbarth ar ôl 46 o flynyddoedd o ddysgu
- Cyhoeddwyd
"Un o'r pethau cynta' nes i oedd cael peiriant llungopïo... waw!"
Mae Llinos Mary Jones ar fin ymddeol o'i swydd fel pennaeth Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, ar ôl 46 o flynyddoedd ym myd addysg
Mae yna lawer yn gallu newid mewn bron i hanner canrif, ac mae Llinos wedi bod yn dyst i lawer o newidiadau dros y blynyddoedd, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond wrth wraidd y cwbl, meddai, mae lles a datblygiad y disgyblion.
Dechreuodd Llinos ar ei gyrfa yn syth o'r Coleg Normal, Bangor, a hynny yn 1975. Ar ôl cyfnod yn Ysgol Gynradd Llanfyllin, dechreuodd fel pennaeth yn Ysgol Gynradd Gwyddelwern yn 1984.
Ond yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, y treuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa, a hynny fel pennaeth am 24 o flynyddoedd.
"Nes i gychwyn 1 Ebrill 1997 - diwrnod Ffŵl Ebrill... siŵr fod hwnna'n arwyddocaol! A dwi'n cofio cerdded i mewn i'r ysgol ac roedd 'Croeso Miss Jones' ar wal y neuadd. Dod i'r swyddfa, a meddwl 'bobl bach, dyma fi. Mae gen i gyfrifoldeb rŵan am yr ysgol fawr yma... lle dwi'n dechrau?'
"Pan ddos i yma gynta', fi oedd yr ieuenga'; erbyn hyn fi ydi un o'r rhai hyna' ar staff yr ysgol."
Dwi 'di bod yn eithriadol o lwcus ac wrth fy modd yn gweld y plant yn datblygu."
Newidiadau
Mae yna newidiadau di-ri wedi bod ym maes addysg dros y blynyddoedd, ac mae Llinos yn cofio nifer o rai arwyddocaol a oedd yn newid byd.
"Un o'r pethau cynta' nes i pan es i i Wyddelwern, oedd cael peiriant llungopïo. Waw! O'dd hynny'n symud pethau 'mlaen yn arw iawn, achos am yr wythnosau cynta', o'n i'n defnyddio'r hen Banda; ysgrifennu efo llaw ar y papur porffor, a'i roi o drwy'r peiriant ac yn gorfod rhoi rhywbeth fatha methylated spirits nes bod y lle'n arogli, cyn bo' chi'n gallu gwneud copïau o lythyrau i rieni neu weithgareddau i'r plant."
Mae'r stafell ddosbarth wedi newid hefyd, meddai. Pawb â'i ddesg ei hun oedd hi ar ddechrau gyrfa Llinos, yn hytrach na nifer o blant o amgylch yr un bwrdd, ac mae hi hefyd yn cofio'r bwrdd du oedd yn cael ei rolio i lawr, a gafodd wedyn ei gyfnewid am fwrdd gwyn, ac yna'n fwy diweddar, y bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Ac mae yna fwy nag un cwricwlwm wedi bod mewn lle dros ei chyfnod yn addysgu, wrth i ddulliau dysgu ddatblygu.
"Doedd 'na ddim ffasiwn beth â gwaith grŵp yr adeg hynny," eglurodd, "doedd 'na ddim gwaith ymarferol. Yn sicr, mae pethau wedi newid yn y ffaith bod addysg wedi dod yn llawer mwy anffurfiol, ac erbyn hyn mae'r dewis gan y plant eu hunain i ba drywydd maen nhw isho'u gwaith ymchwil neu waith prosiect i fynd.
"A gymaint mwy o adnoddau wrth gwrs. Pan gychwynnais i ddysgu, roedd y nifer o lyfrau oedd 'na ar gael yn y Gymraeg yn gyfyngedig iawn. Fel mae'r blynyddoedd wedi pasio, mae 'na gymaint mwy o lyfrau ac offer, nid yn unig at ddefnydd y plant, ond y staff addysgu hefyd."
Cofio canmol
Wrth gwrs, un peth sydd wedi newid fawr ddim ydi'r plant - nhw sydd yn parhau yn ganolbwynt unrhyw benderfyniadau mewn ysgol. Mae Llinos wedi cyfrifo ei bod hi wedi bod yn dysgu am 137 o dymhorau, ac wedi 'cael y fraint' o weithio gyda channoedd, os nad miloedd, o blant, rhieni a staff dros y blynyddoedd.
"Dwi 'di bod yn eithriadol o lwcus ac wrth fy modd yn gweld y plant yn datblygu.
"Beth sydd yn plesio rhywun ydi fod yr hen blant yn dal i'ch cofio chi. Dwi 'di gweld rhain yn cychwyn o pan oedden nhw yn y meithrin, ac maen nhw dal i'ch cofio chi.
"Mor bwysig ydi hi fod y traddodiad yn parhau; fod y plant rheiny yn datblygu yn rhieni eu hunain ac yn dod â'u plant i barhau gyda'r addysg Gymraeg, oherwydd eu bod nhw wedi elwa gymaint o fod yn ddwyieithog ac yn gweld y gwerth o gyflwyno'r Gymraeg i'w plant.
"Wrth gwrs, dwi yn cofio pan dwi 'di gorfod dweud y drefn wrth ambell un hefyd! Ond yn bwysicach byth, dwi'n cofio pan o'n i'n cael canmol. Ar ddiwedd y dydd, 'da ni eisiau cofio pethau pwysig, y llwyddiannau 'ma.
"Mae pob un plentyn yn wahanol. Fel dwi'n ei ddweud yn y gwasanaeth, mae pob un ohonon ni'n gallu gwneud rhywbeth yn dda. Wrth i ni ganmol, dyna yn aml iawn sut mae plentyn yn blodeuo."
Argyfwng Covid-19
A hithau'n tynnu at derfyn ei gyrfa addysgu, mae'n siŵr y byddai Llinos wedi gobeithio am flwyddyn ddiwethaf distaw, ond wrth gwrs, rhoddodd y pandemig stop ar hynny. Mae ysgolion wedi wynebu cyfnod heriol iawn, na welwyd ei fath erioed.
"Dydi'r ysgol ddim wedi bod yr un fath ers blwyddyn bellach," eglurodd Llinos. "Dwi'n amau os fydd yr ysgol fyth yr un fath.
Dwi'n teimlo rŵan ei bod hi'n amser i mi roi'r fantell drosodd i rywun arall..."
"Dynes pobl ydw i a dwi'n colli hynna yn fawr. Dydi cadw pellter ddim yn fy ngreddf i chwaith, ond dyna mae rhywun yn gorfod ei wneud.
"Dwi'n edmygu'r staff yn ddirfawr, ffordd maen nhw wedi ymgodymu gyda'r dysgu; mae o wedi bod yn anodd iawn.
"Dwi wir yn gobeithio am y pythefnos ola' cyn i mi orffen y bydda i'n cael gweld pawb yn dod nôl, a fydda 'na'm byd yn rhoi mwy o foddhad i mi wrth i mi orffen fy ngyrfa na gweld pawb."
Pasio'r fantell ymlaen
Felly sut mae Llinos yn teimlo wrth i'r dyddiad nesáu pan y bydd hi'n gorfod ffarwelio â'r swydd sydd wedi bod yn rhan mor enfawr o'i bywyd hi ers bron i hanner canrif?
"Rhyw deimladau digon cymysg sydd gen i yn gorffen, wrth gwrs, ond teimlo mod i 'di cael braint aruchel o fod yn y swyddogaeth arbennig 'ma.
"Dwi wedi gweld gymaint o newidiadau. Mae rhywun wedi gorfod wynebu pob un gyda hyder, ond dwi'n teimlo rŵan ei bod hi'n amser i mi roi'r fantell drosodd i rywun arall.
"Mi fydda i'n ei weld o'n andros o rhyfedd, ond dwi yn edrych ymlaen am wneud y pethau rheiny nad oedd gynna i mo'r amser i'w gwneud nhw cynt.
"Ac ar ôl 46 o flynyddoedd yn codi toc wedi 6, dwi'n edrych ymlaen at fod yn fwy ymlaciol yn ystod yr wythnos, a bod bob dydd fel penwythnos!"
Hefyd o ddiddordeb: