Covid: Tipio sbwriel yn fwy o gur pen i'r cynghorau sir

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tipio
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 5,378 o achosion tipio eu cofnodi yng Nghaerdydd rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020

Mae dal pobl sy'n tipio gwastraff yn anghyfreithlon yn anoddach yn ystod y pandemig, meddai corff sy'n taclo'r broblem.

Daw hyn oherwydd bod adnoddau yn cael eu symud i gefnogi gweithgareddau eraill yn ystod argyfwng Covid-19.

Ardal Caerdydd oedd ar y brig o ran achosion o dipio anghyfreithlon yn ôl y ffigyrau diweddaraf, gyda dros 5,000 achos wedi eu cofnodi yn y flwyddyn cyn y cyfnod clo cyntaf.

Mae swyddog gyda'r cyngor yn dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu yn y brifddinas, a bod gweld achosion yn "gallu torri calon".

Yn ôl rheolwr gwasanaethau stryd Cyngor Gwynedd, Peter Simpson, mae'r pandemig wedi effeithio ar y gallu i ddal y rheiny sy'n gyfrifol am dipio yn anghyfreithlon.

"'Ni'n meddwl bod y pandemig wedi cael effaith ar yr adnoddau sydd ar gael gan fod rhai swyddogion yn gweithio ar bethau eraill sy'n gysylltiedig â'r pandemig", meddai Mr Simpson, sydd hefyd yn rhan o bartneriaeth Taclo Tipio Cymru.

"Pethau fel gweithio ar arwyddion pellter cymdeithasol drwy'r dydd felly ma' hwnna wedi cael effaith hefyd.

"Efo'r cynnydd [mewn achosion] a dipyn bach o ddiffyg adnoddau mae o'n 'neud pethau'n anoddach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Aled Evans fod y sefyllfa'n gallu bod yn ''dorcalonnus'

Mae Aled Evans yn swyddog addysg a gweithredu gwastraff gyda Chyngor Caerdydd.

Fel rhan o'i swydd, mae'n gyfrifol am glirio unrhyw domenni o dipio o'n strydoedd, yn ogystal â cheisio dal a chosbi'r bobl sy'n gyfrifol.

"Mae'n dorcalonnus. Ma' hwn yn gallu digwydd bob dydd neu bob yn ail ddydd.

"Mae'n gallu bod yn eitha' rhwystredig, yn enwedig os wyt ti wedi clirio'r stryd y diwrnod cynt a wedyn dros nos ma' 'na alwad i ddod 'nôl... yr un peth bob dydd.

"Fi'n meddwl wedyn, 'o be ma' pobl sy'n dod yma [yn meddwl]?' Yn enwedig ymwelwyr pan ma' nhw'n gyrru mewn i'r ddinas mae'n gallu torri calon. Mae'n bach o siom."

Caerdydd sy'n arwain yr ystadegau o ran nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Roedd 5,378 achos wedi eu cofnodi rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020.

Mae'r niferoedd yn amrywio gyda nifer isel o achosion yng nghefn gwlad - o fewn yr un cyfnod 159 achos oedd yna yng Ngheredigion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion yn gobeithio y bydd y sefyllfa yn gwella ar ôl y cyfnod clo

Does 'na ddim ffigyrau sy'n cynnwys y cyfnod clo wedi eu rhyddhau eto.

Ond yn ôl Mr Evans mae 'na fwy o dipio anghyfreithlon wedi bod yn y brifddinas ers dechrau'r pandemig.

"Dyw'r pandemig ddim wedi helpu pethau. 'Oedd y canolfannau ailgylchu ar gau a wedyn mwy o bobl yn gwneud gwaith tŷ a dod mas o'r arfer o ailgylchu yn gyson.

"Fe wnaethon ni newid ein trefniadau casglu ac efallai fod pobl yn araf bach yn dod nôl i'r arfer gyda hwnna."

Cynnydd yn y cyfnod clo

Mae Taclo Tipio Cymru yn hyderus y bydd nifer yr achosion yn cwympo a'r sefyllfa'n gwella os na welwn ni gyfnod clo arall.

Dywedodd Mr Simpson: "'Da ni yn mynd i weld cynnydd mewn achosion dros y cyfnod clo, ond 'da ni yn rhagweld y bydd y niferoedd yn disgyn pan fydd pethau yn mynd 'nôl i'r arfer.

"Ond 'da ni ddim yn gwybod pryd y bydd hwnna, ac fe allwn ni fod yn gweithredu am gyfnod reit hir eto."