Rhai siroedd â 'dim diddordeb' taclo tipio sbwriel
- Cyhoeddwyd
Does "dim diddordeb" mewn mynd i'r afael â thipwyr sbwriel mewn rhai siroedd er y nifer uchaf erioed o erlyniadau yng Nghymru, yn ôl un swyddog cyngor.
Roedd yna 128 o erlyniadau am dipio sbwriel yn 2018-19, ond roedd dros hanner yr achosion hyn yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Yn ôl cyngor y sir honno, mae'r cynnydd yn rhannol oherwydd ymdrechion i ddelio â phentwr o achosion, ond maen nhw hefyd - yn wahanol i awdurdodau lleol eraill - wedi defnyddio pwerau cyfreithiol neilltuol.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau'n cymryd y mater o ddifri.
Roedd 67 o erlyniadau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2018-19, yn rhannol wrth ddelio ag achosion oedd wedi cronni. Ond mae'r awdurdod yn gyfrifol am o leiaf 30% o'r holl erlyniadau am dipio sbwriel yng Nghymru ymhob un o'r pedair blynedd diwethaf.
Ym mis Gorffennaf, cafodd dyn orchymyn i dalu dros £1,100 mewn costau a dirwyon am adael pwll padlo, teganau a hen deledu mewn cilfan yn Resolfen.
Dywedodd arweinydd tîm tipio Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Leighton Case, mai rhan o'r rheswm dros nifer uwch o erlyniadau oedd bod swyddogion pwrpasol yn manteisio i'r eithaf ar bwerau newydd o ran ceir sydd wedi eu gadael neu heb eu trethu.
"Ar ôl bod ymhlith y prif ddadleuwyr dros newid y ddeddfwriaeth, ein hathroniaeth yw y dyliwn ni ddefnyddio pob cam sy'n agored i ni," meddai.
"Rydym wedi bod yn eu defnyddio ers nifer o flynyddoedd. Mae'n rhoi'r llaw uchaf i chi ar y sawl rydych yn eu hymchwilio.
"Unwaith mae eich cerbyd gyda chi, maen nhw'n llawer yn fwy tebygol o ddweud wrthych chi'r hyn ry'ch chi angen gwybod. Mae'n bŵer defnyddiol i'w gael."
'Dim diddordeb'
"Does gan awdurdodau lleol [eraill] ddim diddordeb, i fod yn onest," ychwanegodd. "Mae awdurdodau cyfagos yn gwneud dim o gwbl yn nhermau tipio.
"Weithiau pan rydyn ni'n gofyn am gefnogaeth neu wybodaeth, dydyn ni ddim yn ei gael, sy'n wirioneddol rwystredig.
"Does dim rheswm iddyn nhw beidio neud e. Mae angen iddo gael ei yrru'n wleidyddol yn y lle cyntaf, ac yna mae angen dod â thîm pwrpasol ynghyd."
Heb law am erlyn, gall awdurdodau lleol gymryd nifer o gamau eraill i fynd i'r afael â thipio.
Mae'r ffigyrau diweddaraf, ar gyfer 2018-19, yn cofnodi:
tua 27,000 o gamau gorfodaeth ar draws Cymru;
tua 19,800 o ymchwiliadau arweiniodd at 3,000 o lythyrau rhybudd;
1,700 o rybuddion statudol;
1,000 o hysbysiadau cosb benodedig a thri rhybudd ffurfiol.
'Difetha cymunedau'
Dywedodd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru: "Mae tipio a sbwriel yn difetha ein cymunedau, ac yn rhywbeth y mae pob awdurdod lleol yn ei gymryd o ddifri.
"Mae pob awdurdod lleol yn ceisio defnyddio'r ystod o bwerau sydd ganddyn nhw i ddelio gyda'r broblem. Yn anffodus, mae troseddau gwastraff yn gynyddol yn droseddau trefnedig ac yn aml does dim tystiolaeth pwy yw'r troseddwyr ac, o ganlyniad, dim cyfle i roi dirwy.
"Mae'n hanfodol, felly, fod preswylwyr yn sicrhau eu bod yn gwybod beth sy'n digwydd i unrhyw wastraff wrth drefnu i'w waredu, ac y gallen nhw wynebu dirwy os yw'n cael ei dipio'n nes ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019