Fan heddlu newydd i helpu swyddogion yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi mabwysiadu cerbyd newydd fydd yn cefnogi eu swyddogion wrth iddyn nhw ddelio â digwyddiadau.
Y llu ydy'r cyntaf yng Nghymru i gael "fan les", sy'n cynnig lloches, cegin fach a thoiled i heddweision.
Cafodd ei brynu gan gangen Ffederasiwn yr Heddlu yn y rhanbarth, sy'n ei ddisgrifio fel "cam mawr ymlaen".
'Nôl ym mis Rhagfyr, rhybuddiodd y Ffederasiwn bod ysbryd yn isel ymhlith staff yr heddlu.
Roedd 65% o'r rheiny a ymatebodd i'w harolwg yn dweud bod y pandemig wedi cael effaith negyddol arnyn nhw yn eu gwaith.
Yn ôl Trystan Bevan, un o swyddogion y Ffederasiwn yn y gogledd, mae'r cerbyd pwrpasol yn arwydd o newid mewn agweddau.
"Mae'n gam mawr ymlaen o lle 'dan ni wedi bod o'r blaen," meddai. "Oes, mae gynnon ni faniau yn yr heddlu - ond dim un efo toiled ynddo fo.
"Mae'n dangos ein bod ni'n edrych mwy ar edrych ar ôl ein swyddogion a bod eu hiechyd a'u lles yn dŵad ymlaen."
Cyn y pandemig, byddai swyddogion mewn ardaloedd gwledig weithiau yn gorfod cnocio ar ddrysau pobl leol i ofyn am ddefnyddio'u toiled, meddai.
"Mewn damwain, lle mae rhywun wedi ei ladd ar y ffordd, am 03:00, does 'na unlle i gael rhywbeth cynnes i'n swyddogion ni, does 'na ddim toiled ar gael, does 'na ddim lloches i wneud gwaith papur. Be' mae'r cerbyd yma'n gwneud ydy gwneud hynny i gyd."
Dim ond ers pythefnos mae'r fan yn rhan o'r llu ond mae wedi cael defnydd yn barod, gan ddilyn swyddogion i archwiliad yn ardal Wrecsam yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y Rhingyll Arwel Hughes, sy'n gweithio yng ngorsaf Bangor, bydd yn galluogi swyddogion i weithio'n well ac yn gynt.
"Dwi'n cofio achlysuron lle oeddan ni'n siarad efo pobl ar bwys y lôn mewn gwynt a glaw," meddai.
"Rŵan, os medran ni gael y fan yno, mae'n rhywle i ddod â thyst i fewn - rhywle cynnes i roi lloches i'r tyst, cynnig paned ac efallai toiled - ac yn rhywle i siarad.
"Os ydy rhywun yn oer ac yn wlyb, dydy rhywun ddim yn meddwl am ei waith gystal ag y byddai rhywun mewn amgylchiadau fel sydd yn y fan 'ma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020