Covid: Swyddogion heddlu Cymru 'methu ennill'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
heddwasFfynhonnell y llun, PA Media

Dywed swyddogion heddlu Cymru fod yr her o orfodi rheolau Covid a delio gyda throseddau yn y pandemig yn dod ar gost i'w hiechyd a'u lles.

Mae cannoedd wedi dal Covid-19 wrth gyflawni dyletswyddau neu wedi gorfod hunan-ynysu oherwydd cyswllt â'r feirws.

Mae wedi ysgogi un llu o Gymru i gyflwyno ple i'r cyhoedd i gadw at y rheoliadau.

Ond dywed arweinydd Ffederasiwn yr Heddlu nad yw ei swyddogion "yn gallu ennill".

"Ni all swyddogion heddlu rheng flaen mewn gwisgoedd weithio gartref, ni allant anwybyddu galwad 999 pan ddaw i mewn," meddai Mark Jones, sy'n ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn yr Heddlu yng ngogledd Cymru.

"Yn rhinwedd yr hyn y mae'r heddlu'n ei wneud, rydych chi'n dod yn agos ac yn bersonol gyda phobl nad ydyn nhw wir yn poeni am reolau a rheoliadau.

"Os oes ganddyn nhw coronafeirws, fyddan nhw ddim yn meddwl ddwywaith - rydyn ni wedi cael digwyddiadau lle mae pobl wedi pesychu yn fwriadol a phoeri ar ein swyddogion."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd fod swyddogion yn cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd bob dydd, gan fod gofyn iddyn nhw blismona "rheolau tameidiog" ar Covid sy'n newid "yn ddyddiol".

"Maen nhw weithiau'n ceisio gorfodi rheolau amhoblogaidd iawn," meddai Mr Jones.

"Ond mae ganddo bwrpas. Os gallwn ni gadw'r cyhoedd yn ddiogel, yna mae hynny'n lleihau'r baich ar y GIG, sydd wedi bod yn hollol anhygoel yr holl ffordd trwy hyn."

Ond dywedodd ar ôl naw mis o gyfyngiadau fod pobl "ar ben eu tennyn".

"Mae'n wirioneddol anodd, ac mae'n gadael ei hoel ar rai swyddogion heddlu nawr," ychwanegodd.

"Rydych chi'n gweld lefelau straen yn swyddogion Cymru yn codi.

"Mae'n rhaid iddyn nhw orfodi'r rheolau hyn sy'n amhoblogaidd, cadw pawb yn ddiogel, ond ar yr un pryd mae troseddau'n parhau, mae damweiniau ceir yn dal i ddigwydd.

"Mae rôl yr heddlu yn hyn i gyd yn un na allan nhw ei hennill."

Codwyd pryderon ynghylch Covid gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes, a gafodd ei holi gan aelodau o banel heddlu a throsedd y rhanbarth yn gynharach yn yr wythnos.

Dywedodd pennaeth yr heddlu wrth y panel fod eleni wedi profi i fod yn "anodd iawn, iawn" i'r heddlu, ond ei fod yn credu bod ei swyddogion a'i staff wedi "camu i'r adwy" i'r heriau.

Dywedodd fod achosion o Covid ymhlith swyddogion yn parhau i fod yn gymharol isel.

Ond roedd achos diweddar ym mhencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn, meddai, wedi golygu bod yr heddlu wedi "colli cryn dipyn o swyddogion" o'r gwaith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond dywedodd hefyd wrth y panel fod ei swyddogion yn symud o egluro ac annog y cyhoedd i barchu rheolau ar Covid, i orfodi.

Dywedodd fod bron i 600 o ddirwyon cosb sefydlog wedi'u cyhoeddi ers dechrau'r pandemig ledled gogledd Cymru, gan gynnwys dau ddirwy o £10,000 am rêfs a digwyddiadau cerdd.

Dywedodd y prif gwnstabl fod mwyafrif y dirwyon wedi eu rhoi i unigolion sy'n teithio i Gymru pan oedd cyfyngiadau teithio mewn grym.

"Mae pobl yn gwybod beth ddylen nhw ac na ddylen nhw fod yn ei wneud, maen nhw'n gwybod beth yw'r pethau iawn i'w gwneud," meddai Mr Foulkes.

Apêl gan lu a dau gyngor

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi gweld tua 350 o swyddogion a staff yn cael eu gorfodi i gymryd absenoldeb salwch neu hunan-ynysu oherwydd Covid ers i'r pandemig ddechrau.

Rhybuddiodd datganiad ar y cyd gan yr heddlu a chynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg bod nifer o heddweision wedi gorfod hunan-ynysu, yn aml iawn, am "torri i fyny digwyddiadau anghyfreithlon".

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy'n arwain ymateb yr heddlu i Covid-19: "Mae trosglwyddiad cymunedol a nifer yr achosion a gadarnhawyd yn parhau i gynyddu ac mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithredu nawr.

"Trwy wneud y peth iawn, gallwn ni i gyd helpu i amddiffyn ein gwasanaethau rheng flaen - yn bwysicaf oll ein GIG - a helpu i achub bywydau."

Pynciau cysylltiedig