Niferoedd y rhai sy'n cael eu brechu yn amrywio o sir i sir

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mary KeirFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Tan nos Fercher roedd 1,034,141 o bobl wedi cael eu dos cyntaf yng Nghymru - 32.8% o'r boblogaeth

Dim ond un preswylydd mewn cartref gofal sydd wedi cael ei frechu'n llawn yng Ngheredigion a naw o rai dros 80 yn Sir Benfro, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae hanner o rai dros 80 oed yn Nhorfaen wedi cael dau ddos o'r brechlyn - yn Sir Benfro mae'r nifer yn 0.1% a 0.4% yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod bwlch o dros wyth wythnos yn rhoi "gwell amddiffyniad".

Mae'r data newydd yn nodi'r ffigyrau fesul awdurdod lleol a hynny am y tro cyntaf.

Mae'r nifer sydd wedi cael yr ail ddos yn amrywio'n fawr ar draws Cymru ond dyw hi ddim yn ymddangos mai byw mewn ardal wledig sy'n gwneud y gwahaniaeth - mae sir Powys wedi brechu 41% o breswylwyr cartrefi gofal yn llawn a thraean o'r rhai dros 80.

Dywed Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli dros 450 o gartrefi gofal yng Nghymru, bod y ffigyrau yma yn "ddyrys" er bod y cynllun brechu yn llwyddiant.

"Mae'n bwysig," medd Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, "bod pobl yn cael yr ail ddos er mwyn cael amddiffyniad llawn ac mae hynny'n benodol wir am fobl dros 80 oed.

Dywed y bydd yn gofyn am gael sicrwydd yn y dyfodol na fydd y gwahaniaeth yma yn parhau ar draws Cymru.

Vaccination doses being given out in CwmbranFfynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Ry'n yn hynod falch ein bod wedi gallu rhoi y dos cyntaf o'r brechlyn i draean ein poblogaeth - yr ail raddfa uchaf yng Nghymru.

"Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae canolfannau brechu torfol y bwrdd iechyd wedi bod yn canolbwyntio ar roi'r ail ddos i grwpiau blaenoriaeth 1 a 2 gan ddefnyddio brechlyn Pfizer.

"Mae ffigyrau sydd wedi'u cofnodi yn lleol yn dangos bod 57% o staff cartrefi gofal, 70% o weithwyr gofal iechyd a 56% o weithwyr gofal cymdeithasol wedi'u brechu'n llawn.

"Mae'n meddygon teulu hefyd yn gweithio'n galed drwy frechu ein cymunedau. Ar hyn o bryd rhoi'r frechlyn i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd rhwng 16 a 64 oed a gofalwyr di-dâl yw'r flaenoriaeth."

Dywedodd y bydd meddygon yn cynnig ail ddos o frechlyn AstraZeneca o fewn 12 wythnos i'r dos cyntaf.

"Mae tystiolaeth," meddai, "bod cael bwlch hwy nag wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail o frechlyn AstraZeneca Rhydychen yn rhoi gwell amddiffyniad."

1px transparent line

Betsi Cadwaladr sydd wedi rhoi y nifer mwyaf o'r cwrs llawn (dau ddos) - 43,535 erbyn 7 Mawrth ond Powys sydd â'r gyfartaledd uchaf.

Mae Hywel Dda wedi brechu traean o'i boblogaeth gyda'r dos cyntaf - yr ail nifer uchaf yng Nghymru - ond nhw ar gyfartaledd sydd wedi rhoi y lleiaf o'r ail ddos (4.1%).

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi brechu'n llawn bron i hanner eu preswylwyr gofal - ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda 1.6% yw'r ganran.

Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe wedi brechu oddeutu chwarter o'r rhai rhwng 75 a 79 mlwydd oed yn llawn - 0.5% yw'r nifer ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda a 1.5% ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi brechu y rhan fwyaf o bobl rhwng 70 a 74 oed yn llawn - sef 15.1%.

Mae dros 2,000 o breswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal ar draws Cymru wedi'u brechu'n llawn - ym Merthyr mae'r nifer yn 158 (67.1%), 384 yn Rhondda Cynon Taf (48.2%) a dim ond un yng Ngheredigion (0.3%).

Mae deg y cant o'r rhai rhwng 75 a 79 oed wedi cael dau ddos ar draws Cymru - ond mae yna gryn wahaniaeth yn y niferoedd mewn amrywiol siroedd - 43% yn Nhorfaen, 34.5% yng Nghaerffili, 0.3% yng Ngheredigion a 0.4% yn Sir Benfro.

Mae'r data yn dangos bod Cymru ar y blaen i wledydd eraill y DU o ran cyfartaledd dyddiol y rhai sydd wedi cael y ddau ddos.