Dyn anabl yn galw am gyllid personol i gael annibyniaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhys BowlerFfynhonnell y llun, Rhys Bowler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Bowler am gael cyllideb iechyd personol er mwyn cael mwy o annibyniaeth

Bydd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a chyflwyno cyllideb iechyd personol yn cael ei drafod gan bwyllgor y Senedd yr wythnos hon.

Mae'r ymgyrchydd Rhys Bowler, sydd yn byw yn Nhrefforest ger Pontypridd, yn galw am newid y system gyllido er mwyn rhoi mwy o ryddid i bobl fel fe sydd yn byw ag anabledd ac angen gofal.

Yn 33 oed, mae Rhys yn byw â nychdod cyhyrol (muscular dystrophy) - cyflwr lle mae'r cyhyrau yn gwanhau yn raddol gydag amser. Mae'n ddibynnol ar gadair olwyn, yn dibynnu ar beiriant i anadlu a dim ond yn gallu symud ei fys bawd.

Er ei fod angen cymorth gan ofalwyr, mae e'n mynnu ei fod am fyw yn annibynnol. Ar hyn o bryd, mae'n derbyn 104 awr o ofal. Ond mae'n dweud bod hynny'n gadael hyd at bump awr mewn diwrnod lle mae e'n ddiymadferth.

"Os fi moyn mynd mas neu 'neud rhywbeth mor syml â mynd i'r tŷ bach...fi'n methu mynd i'r tŷ bach, fi'n gorfod aros i'r gofalwr nesaf ddod. Fi ddim yn meddwl bod hwnna'n acceptable i fod yn onest," meddai.

'Mae'n rhaid i hyn newid'

Llynedd, fe luniodd Rhys ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a chyflwyno cyllidebau iechyd personol i bobl mewn sefyllfa debyg iddo fe. Yn ôl Rhys, byddai hynny'n rhoi mwy o ryddid iddo fe ddewis pwy a sut fyddai gofal yn cael ei ddarparu.

Ffynhonnell y llun, Rhys Bowler
Disgrifiad o’r llun,

'Dydw i ddim yn gallu byw 10 mlynedd arall fel hyn,' medd Rhys Bowler

"Mae'r pandemig yma wedi dangos pa mor anodd yw hi i fod yn garcharor yn eich tŷ eich hun."

"Os byddai'r llywodraeth yn rhoi arian fel hyn i fi, there's no end i beth fyddwn i'n gallu neud. Byddwn i'n gallu cael job, falle cael perthynas. Jesd y pethau mae pobl yn cymryd yn ganiatáol."

"Mae'n rhaid i hyn newid. Dydw i ddim yn gallu byw 10 mlynedd arall fel hyn".

'Gwneud penderfyniadau ar fy rhan'

Un arall sydd yn cefnogi galwad Rhys Bowler yw Helen Fincham o Ben-y-bont. Yn 21 oed, cafodd ei pharlysu'n sydyn bum mlynedd yn ôl oherwydd cyflwr iechyd prin transverse myelitis.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae pobl wastad wedi gwneud penderfyniadau ar fy rhan,' medd Helen Fincham

Mae hi bellach â pheth defnydd o'i dwylo a'i breichiau ond mae hi hefyd yn ddibynnol ar gadair olwyn ac angen cymorth gofalwyr i gwblhau tasgau oedd yn arfer dod yn hawdd.

"Gyda chyllideb iechyd personol, allwch chi ddewis beth i wneud o ran eich gofal. Chi sydd yn cael dylunio rhaglen, a phenderfynu sut mae'r arian yn cael ei wario a chael eich llais chi o ran sut mae eich bywyd chi yn cael ei fyw.

"Ond yng Nghymru, er bod pawb yn dweud 'ni'n annog annibyniaeth, mae yn y ddeddf gofal cymdeithasol, ry'n ni am i chi gael dweud eich dweud o ran eich gofal' dw'i erioed wedi cael hynny, mae pobl wedi gwneud penderfyniadau ar fy rhan," meddai.

Edrych ar wahanol opsiynau

Mewn llythyr at gadeirydd y pwyllgor deisebau, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Y disgwyliad clir a diamwys yng Nghymru yw y dylai'r ddarpariaeth o ofal iechyd a gofal cymdeithasol fod yn ddi-dor, yn integredig ac wedi ei bersonoli, mewn modd sydd yn galluogi'r unigolyn i barhau i gael llais a rheolaeth lle bynnag y bydd yn dymuno gwneud hynny.

"Fodd bynnag, fe wyddom, o'r profiadau personol sydd wedi eu rhannu gan Rhys Bowler ac eraill, fod pryderon yn parhau ynghylch gallu pobl i gael llais a rheolaeth dros eu gofal."

Aeth ymlaen i ddweud bod "y llywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar wahanol opsiynau sy'n ymwneud â'r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a thaliadau uniongyrchol".

Mae hefyd wedi estyn cynnig i Rhys Bowler fod yn rhan o weithgor i drafod yr opsiynau posib "unwaith yr ydym wedi adfer digon o'r pandemig i ganiatáu inni ailddechrau ar y gwaith hwn".

Bydd pwyllgor deisebau'r Senedd yn trafod galwad Rhys Bowler fore Mawrth ac mae e'n galw am weithredu ar fyrder:

"Fi ddim moyn bod yn garcharor yn fy nhŷ fy hun. Fi moyn mynd mas a byw fy mywyd. Fi wedi byw deg mlynedd fel hyn ac yn lockdown. Mae'n rhaid i rywbeth newid."