Sul y Mamau: Cyfnod o dristwch a dathlu

  • Cyhoeddwyd
Sul y MamauFfynhonnell y llun, Epiximages
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Sul y Mamau ddim yn ddiwrnod o lawenydd i bawb

Ddydd Sul bydd nifer o bobl ar hyd y wlad yn agor cardiau ac anrhegion i ddathlu Sul y Mamau ond i bobl eraill mae'r diwrnod yn y calendr yn atgof o golled a thristwch.

I bobl sydd wedi colli eu mamau, pobl sydd wedi colli plant, pobl sydd eisiau cael plant a phobl sydd â pherthnasau heriol mae'r achlysur yn gallu bod yn her.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae rhaglen Dros Frecwast wedi bod yn siarad â nifer sydd wedi profi colled a galar.

Wrth gyfeirio at Sul y Mamau cyntaf ar ôl colli ei mam dywedodd un ferch: "Dwi'n cofio sbïo ar y cyfryngau cymdeithasol a beichio crio a lluniau pawb efo'u mamau."

Yn ôl y cwnselydd, Llinos Nelson, mae'r diwrnod yn emosiynol am amryw o resymau.

"Beth sydd wrth wraidd hwn i gyd yw bod pob un ohonom gyda mam a thad - efallai eu bod nhw ddim yn fyw, efallai bo' chi ddim yn 'nabod nhw, efallai bo' chi ddim yn dod 'mlaen 'da nhw - ond ma' pob un ohonom gyda mam, yn y gorffennol neu'r presennol.

"Yn y byd sydd ohoni, mae'r diwrnod yn fwy amlwg na'r arfer," meddai Llinos.

"Mae teuluoedd wedi eu gwahanu a ry' ni'n byw drwy gyfnod o golled a phryder yn sgil y pandemig.

Stori Kate

Mae Kate a'i phartner Rhys wedi bod yn trio beichiogi dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yn mis Medi 2017, dechreuais i a fy mhartner drio am fabi. Fi ddim yn hen ond geriatric mother - na be' dwi'n dod o dan - achos bo' fi'n 35.

"Wrth gwrs, pedair blynedd yn ôl o'n i yn 31. O'n i yn ymwybodol fod e yn mynd yn fwy anodd wrth iti fynd yn hŷn ond o'n i yn eithaf sicr oedd e'n mynd i ddigwydd.

"Dyma ni nawr, mae'n 2021, a sdim babi 'da ni. Dyw e jyst ddim wedi digwydd."

Yn ôl Kate, mae Sul y Mamau yn heriol oherwydd yn rhannol bod y diwrnod wedi ei amgylchynu gan negeseuon a hysbysebion.

"Ni'n gwybod bod e'n dod ac maen 'neud i fi deimlo wedyn bo' fi ddim moyn dathlu gyda Mam chwaith. Fi'n meddwl 'o, ma' rhaid i fi fynd mas a phrynu cerdyn a ma' rhaid i fi ffeindio anrheg.

"Mae'n swno yn awful, mae'n swno'n eitha' hunanol bo' fi ddim moyn prynu rhywbeth i Mam, ond ma' e jyst yn ypsetio fi.

"Mae e dros Facebook i gyd ar hyn o bryd. Ma' pethau yn dod lan gan gwmnïau gwahanol. Dyna beth sydd yn atgoffa fi bod e'n dod lan a fi jyst yn meddwl 'o, ie, another year."

Ffynhonnell y llun, Lightfield Studios
Disgrifiad o’r llun,

'Un o'r problemau yw bod yna gannoedd o luniau ar y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion ymhobman'

Yn ôl Llinos Nelson, mae'r hysbysebion yn creu disgwyliadau mawr i nifer adeg yma'r flwyddyn.

"Mae e bob man. Mae e ar hysbysebion, mae e ar gloriau cylchgronau, mae e ar y teledu. Mae e'n creu disgwyliadau cymdeithasol afrealistig i lawer o bobl."

Er gwaethaf heriau Kate, ei gobaith hi yw y bydd hi'n gallu dechrau ei thriniaeth IVF unwaith bydd y cyfyngiadau yn llacio.

"O'n i fod i briodi flwyddyn ddiwethaf felly mae e wedi teimlo fel colled o flwyddyn.

"Mae e wedi bod yn mynd 'mlaen am gyfnod mor hir nawr ry' ni wedi dechrau dod drosto fe. Ni'n dechrau gweld y golau nawr gyda'r cyfnod clo yn, gobeithio, dod i ben."

'Mi all ychydig o empathi fynd ymhell'

Dyw stori Kate ddim yn anarferol. Mae nifer o bobl, menywod yn enwedig, yn ei chael hi'n anodd ar ddydd Sul y Mamau.

Yn ôl un ferch sydd wedi colli babi, ac na sydd eisiau cael ei henwi, mae'r hysbysebion cyson yn ysgogi amryw o atgofion a theimladau.

Mae hi'n croesawu'r ffaith fod nifer o fusnesau yn dechrau cydnabod hynny a chynnig y cyfle i beidio cael negeseuon ac e-byst am nwyddau ac anrhegion.

Yn ôl Carys McKenzie, sydd wedi rhannu ei phrofiad hi o feichiogi a cholli plant ar ei chyfrif Instagram Cylchoedd, dolen allanol, mae siarad yn medru helpu normaleiddio nifer o'r emosiynau mae cymaint yn eu profi.

Ffynhonnell y llun, Carys McKenzie
Disgrifiad o’r llun,

'Byddai newid agwedd cymdeithas yn help,' medd Carys McKenzie

"Dwi'n teimlo bod hi'n bwysig, i ni fel cymdeithas, i gydnabod bod llawer o ddigwyddiadau hapus i'r mwyafrif, fel Sul y Mamau, yn gallu bod yn ddiwrnod reit anodd i lawer o bobl eraill.

"Mae'n hawdd i rywun sydd eisiau bod yn fam, yn fwy na dim byd arall, deimlo'n unig ac yn anobeithiol ar ddiwrnod sydd yn amlygu'r hyn maen nhw'n colli allan arno fo," meddai.

Er y tristwch a'r boen mae nifer yn dioddef, does neb yn disgwyl i eraill beidio dathlu. Yn hytrach, meddai Carys, empathi yw'r ateb.

"Mae pawb yn gwybod bod e'n hollol naturiol i ni fel pobl ymgolli yn hapusrwydd ar ddiwrnod fel Sul y Mamau ond mi all ychydig o empathi fynd ymhell.

"Os allwn ni newid agwedd ni fel cymdeithas a chymryd munud neu ddau o'n diwrnod i ddweud wrth rywun bo' ni'n meddwl amdanyn nhw a chydnabod bod e'n ddiwrnod anodd iddyn nhw, dwi rili yn credu sa hyn yn gallu 'neud y byd o wahaniaeth."

Pynciau cysylltiedig