Cynnal gwylnosau yn dilyn marwolaeth Sarah Everard

  • Cyhoeddwyd
Sarah Everard
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd Sarah Everard ar 3 Mawrth ar ôl cerdded o dŷ ffrind yn ardal Clapham, Llundain

Bydd gwylnosau tawel yn cael eu cynnal yng Nghymru y penwythnos yma i ganiatáu i ferched "ddod o hyd i gysur yn ei gilydd".

Daw ar ôl i'r heddlu gadarnhau mai gweddillion Sarah Everard yw olion a gafodd eu canfod mewn coetir yn Ashford, Caint.

Ond mae'r digwyddiad oedd i fod i ddigwydd yng Ngaerdydd ddydd Sadwrn wedi cael ei ganslo a bydd nawr yn cael ei gynnal ar-lein.

Roedd hynny wedi i drefnwyr gwylnos yn Llundain golli her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn erbyn gwaharddiad heddlu.

Mae'n fwriad hefyd i gynnal gwylnos yng Nghaerfyrddin.

Cyhoeddodd trefnwyr gwylnos Caerdydd ar Facebook nos Wener "gyda siom enfawr" eu bod wedi gwneud penderfyniad "anodd" i drefnu digwyddiad ar-lein.

Roedd y digwyddiad wedi denu "niferoedd llawer uwch na'r disgwyl" ac roedd "rhaid parchu ein bod yn dal dan gyfyngiadau mewn pandemig, a does yr un ohonon ni eisiau i unrhyw un peryglu eu hiechyd neu iechyd eu hanwyliaid".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod achos Ms Everard "wedi ysgogi ymateb cryf ac angerddol" a bod hanesion menywod sydd wedi profi ymddygiad treisgar ac amhriodol "yn ein hatgoffa'n glir pam bod cryn dipyn eto i'w wneud."

Ond yn sgil yr "argyfwng iechyd cyhoeddus", ychwanegodd y dylai pobl sy'n dymuno mynychu digwyddiadau "ddilyn y rheolau sydd wedi ein hamddiffyn rhag y coronafeirws ac ystyried digwyddiadau ar-lein nes bod modd cyfarfod mewn grwpiau mwy".

'Yr un negeseuon ers degawdau'

Y bwriad yn wreiddiol oedd cynnal taith gerdded a gwylnos Reclaim the Streets yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Roedd y trefnwyr wedi awgrymu i'r bobl oedd am ymuno aros mewn swigod cartref, gwisgo masgiau a defnyddio glanweithydd dwylo.

Wrth siarad â BBC Radio Wales, dywedodd llywydd UCM Cymru, Becky Ricketts, bod menywod ledled y DU yn teimlo ymdeimlad o "alar", ond nid yw'n syndod, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad, medd Becky Ricketts, oedd rhoi "cyfle distaw i ferched ddod o hyd i gysur yn ei gilydd"

"Mae'r gorymdeithiau hyn wedi bod yn digwydd ers 20, 30, 40 mlynedd," meddai.

"Rydyn ni'n dal i gael yr un negeseuon. Rydyn ni'n dal i gael gwybod i gysylltu â'n ffrindiau pan 'dyn ni'n cyrraedd adref, gan sicrhau ein bod ni'n gwisgo dillad llachar, gan sicrhau nad ydyn ni'n cerdded mewn ardaloedd tywyll, rydyn ni'n cerdded adref mewn grwpiau.

"Mae'r sgwrs ynghylch diogelwch menywod yn canolbwyntio gymaint ar fenywod fel nad ydym yn meddwl am y rôl y mae'n rhaid i ddynion ei chwarae yn hyn hefyd."

Ychwanegodd mai'r bwriad oedd trefnu "gwylnos gannwyll dawel i ferched sy'n brifo, yn galaru, yn dioddef..."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 20% o ferched a menywod rhwng 14 a 21 oed wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus ers dechrau'r cyfnod clo, yn ôl Cerys Furlong

Nid yw'r mwyafrif o ferched "yn adnabod menyw sydd heb wynebu rhyw fath o gamdriniaeth neu drais rhywiol yn eu bywyd", yn ôl Cerys Furlong, prif weithredwr yr elusen cydraddoldeb rhywiol, Chwarae Teg.

Dywedodd fod un o bob pump o ferched a menywod rhwng 14 a 21 oed wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus ers dechrau'r cyfnod clo.

"Rhaid i ni edrych yn gyflym ac yn glir ar pam mae cyn lleied o gollfarnau a pham fel cymdeithas nid oes gennym ni hyder mewn menywod a'u credu pan maen nhw'n siarad allan," meddai Ms Furlong wrth Radio Wales.

Galwodd Ms Furlong ar ddynion i "sefyll i fyny a'i alw allan pan fyddwch chi'n ei weld neu'n ei glywed a herio'r norm hwn ei fod yn 'dipyn o dynnu coes'".

Bu rhai galwadau gan rai i ddynion gael cyrffyw yn sgil diflaniad Ms Everard.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, nad oedd yn ystyried mesurau o'r fath.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Pwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru wedi newid y rheolau dros y gaeaf er mwyn caniatáu i bobl ymarfer gydag un person arall i helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Roedd Heddlu'r De wedi awgrymu y buasen nhw'n cymryd camau yn erbyn trefnwyr unrhyw ddigwyddiad.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud y bydd swyddogion yn bresennol yn yr wylnos yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn.

"Byddem yn annog pobl i beidio â mynychu cynulliadau fel hyn, a allai roi iechyd y cyhoedd mewn perygl, a gofyn iddynt ystyried ffyrdd eraill y gallwch chi gefnogi'r achos," meddai llefarydd.

"Ond os oes rhaid i chi fod yn bresennol, yna arhoswch yn ddiogel, arsylwch bellter cymdeithasol a gwnewch unrhyw brotest yn heddychlon."