Diogelwch merched: 'Yr ofn o glywed sŵn traed tu ôl i ni'

  • Cyhoeddwyd
Sarah Everard
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd Sarah Everard ar 3 Mawrth wrth gerdded o dŷ ffrind yn ardal Clapham, Llundain

Mae diogelwch merched yn cael ei drafod yn helaeth ar hyn o bryd, yn dilyn diflaniad Sarah Everard yn Llundain.

Rhybudd yr heddlu i ferched oedd yn byw yn ardal Clapham, lle cafodd Sarah ei gweld ddiwethaf, oedd i beidio cerdded ar eu pen eu hunain ar ôl iddi dywyllu.

Ond mewn ymateb i hynny, mae negeseuon di-ri ar y cyfryngau cymdeithasol yn pwysleisio y dylai fod merched yn gallu mynd allan gyda'r nos heb fod neb yn ymosod â nhw, a'r hashnod #ReclaimTheNight yn cael ei rannu yn helaeth.

Dyma oedd un o'r pynciau trafod ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ddydd Iau 11 Mawrth.

Ddeg mlynedd yn ôl, cafodd Ceri Gethin brofiad o aflonyddu rhywiol.

"O'n i jyst ar y ffordd adra o'r gwaith," meddai. "O'dd o'n ystod y gaeaf, felly roedd hi 'di tywyllu. Ac o'n i'n cerdded adra ar y brif lôn pan nes i gerdded heibio dau ddyn mawr tal. Wrth i mi gerdded heibio nhw, dyma un ohonyn nhw'n rhoi llaw i fyny'n sgert i.

"Yn amlwg, nes i ddychryn. Doedd dim byd fel'na erioed wedi digwydd i mi o'r blaen.

"Dyma nhw jyst yn dal i gerdded i'r cyfeiriad arall. Yn lwcus, o'n i'n eitha' agos i adra, felly nes i jyst rhuthro adra."

Ffynhonnell y llun, Ceri Gethin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Gethin wedi newid ei harferion ar ôl y digwyddiad ddeg mlynedd yn ôl, meddai

Fel yr eglurodd Ceri, mae hi'n teimlo ei bod wedi newid ei ffordd o fyw ers y digwyddiad, ac yn 'fwy ymwybodol' o bethau os oedd hi'n cerdded ar ei phen ei hun. Mae ganddi arferion bellach er mwyn ceisio sicrhau ei diogelwch.

"Cwpwl o fisoedd wedyn, nes i gyfarfod fy ngŵr i, ac o'dd o wastad yn ofalgar - o'dd o'n gwybod am y digwyddiad, wastad yn cerdded fi adra. Mae o hyd yn oed rŵan yn gofyn i mi os dwi'n mynd allan ar fy mhen fy hun, 'sgen ti dy larwm?', a dwi wastad yn rhannu fy lleoliad ar y ffôn, so bod unai fy ngŵr i neu rywun yn gwybod lle ydw i.

"I fi'n bersonol, dim ond fi sy'n medru edrych ar ôl fi, felly dwi'n mynd i 'neud beth bynnag fedra i i wneud fy hun mor saff â phosib. Er bod 'na ofyn i ni fel cymdeithas i edrych ar elfennau eraill, mae o i lawr i unigolion i edrych ar ôl eu hunain gymaint â medran nhw, yn fy marn i."

Angen cosbi

Dywedodd Ceri nad aeth hi at yr heddlu i riportio'r achos - 'nath o ddim croesi'n meddwl i,' meddai - ac mae hi'n teimlo mai un o'r prif resymau am hynny ydi oherwydd cyn lleied o achosion fel hyn sydd yn cyrraedd y llys.

Yn ôl Nerys Evans, sydd yn gyn Aelod o'r Senedd ac yn ymgyrchydd hawliau merched, nid yw'r gosb am droseddau fel yma ddigon uchel.

"Fi'n gwybod, yn bersonol, llond llaw o ferched fi'n 'nabod [sydd] wedi cael eu treisio - dim un wedi mynd i'r heddlu, dim un wedi trial cael cyfiawnder drwy'r system gyfiawnder.

"A s'dim rhyfedd. Yn yr achosion bach sydd yn cael eu hadrodd, 1% sy'n mynd i'r llys, ac yn amlwg llai na'r 1% yna sy'n cael euogfarn yn yr achos llys.

Ffynhonnell y llun, Andrew Hazard
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nerys Evans yn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru o 2007-2011

"Ni 'di gweld adroddiadau ynglŷn â'r deddf newydd ynglŷn â stelcian. 3,000 o achosion wedi cael eu hadrodd i'r heddlu o fewn y 12 mis diwethaf, a dim ond dau achos sydd wedi cael eu hadrodd i'r llys.

"Dyw'r cosb ddim yn ddigon o deterrent i atal y pethau 'ma i ddigwydd."

Gorfod 'addasu ein hymddygiad'

Yn ôl arolwg diweddar, mae digwyddiadau o aflonyddu rhywiol, a gwaeth, yn erbyn merched yn gyffredin tu hwnt, meddai Nerys.

"Nath arolwg UN Women UK gael ei gyhoeddi wythnos 'ma ddangos bod 97% o ferched rhwng 18 a 24 wedi cael profiad o aflonyddu yn rhywiol. Mae hwnna bron â bod 100%. Ac 80% o fenywod o bob oedran wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol mewn lle cyhoeddus.

"Mae hwnna wedi arwain aton ni yn addasu ein hymddygiad ni fel menywod, a'r realiti yw, ni gyd wedi cael y profiadau 'ma; profiadau o gael eu treisio, cael eu stelcio, ymosodiadau yn gyhoeddus, sylwadau ar y stryd. A dim jest unwaith neu ddwywaith - mae hwn yn rhan normal o'n bywyd ni.

"Dwi'n credu beth mae'r drafodaeth yn dangos i ni yw bod menywod wedi cael eu dad-sensiteiddio i beth sy'n digwydd bob dydd i ni, yn anffodus.

GETTY
Profiad o aflonyddu rhywiol

  • 97%o fenywod rhwng 18 a 24 oed

    Ffynhonnell: YouGov a UN Women UK

    "Mae'r holl bethau 'ma yn normal nawr; bod ni ddim yn rhedeg yn y nos, bod ni'n cymryd y ffordd hir adra os mae mwy o olau, bod ni'n dal ein allwedd ni rhwng ein bysedd rhag ofn fod angen ei ddefnyddio fe, bod ni'n cael tacsi lle ni'n gallu, yr ofn ni'n ei gael o glywed sŵn traed tu ôl i ni."

    Llais y dyn ar goll o'r drafodaeth

    Yn lle bod pwyslais ar y ferch i newid ei hymddygiad, beth mae Nerys yn ei gredu sydd ei angen yw bod dynion yn dod yn rhan o'r trafodaethau yma ynglŷn ag achosion sydd yn effeithio ar ganran mor fawr o'r boblogaeth.

    "Beth mae'r drafodaeth dros y 24 awr diwetha' wedi synnu fi bod yna syndod ymhlith hanner y boblogaeth bod y pethe 'ma yn digwydd. Mae menywod wedi siarad mas am eu profiadau; beth sydd ar goll yw lleisiau dynion yn yr holl drafodaeth 'ma.

    "Ymddygiad dynion tuag at fenywod sydd wrth wraidd yr issue yma. Dim bob dyn wrth gwrs, ond pam 'yn ni'n dysgu merched ifanc i fod yn ofalus a diogel? Pam nag 'yn ni'n dysgu dynion, y bechgyn yn yr ysgol, o ran parchu menywod a fel i ymddwyn yn barchus?

    "'Ni fenywod wedi gorfod teilwra fel 'yn ni'n ymddwyn bob dydd. Mae hwn yn rhywbeth cyffredin, rhywbeth sy'n digwydd bob dydd, a beth sy'n syndod yw fod hyn yn syndod.

    "Mae'n rhaid i ni shifftio'r drafodaeth 'mlaen i neud yn siŵr fod pethau yn newid, a bod ni ddim yn gweld straeon fel Sarah Everard unwaith eto."

    Hefyd o ddiddordeb:

    Pynciau cysylltiedig