Llywodraeth 'heb ariannu Credyd Cynhwysol yn ddigonol', medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi "gwasgu gormod" ar Gredyd Cynhwysol, yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Preseli Penfro.
Dywed y cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Stephen Crabb, nad ydy'r llywodraeth Geidwadol "wedi ei ariannu'n ddigonol".
Rhewodd y cyn-ganghellor Ceidwadol George Osborne fudd-daliadau i bobl sy'n gweithio ym mis Ebrill 2016 a daeth hynny i ben ym mis Ebrill 2020.
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau, gyda'r codiad dros dro o £20, eu bod yn "helpu miliynau o deuluoedd sydd wedi eu heffeithio yn ariannol gan y pandemig".
"Cyhyd â bod gennym gyflogau isel yn ein cymdeithas, bydd angen i'r system ychwanegu at incwm pobl," meddai Stephen Crabb.
"Mae'r system wedi'i chynllunio i wneud hynny ac i helpu pobl i wella eu sefyllfa, cynyddu eu horiau ac i symud ymlaen.
"Rwy'n credu'n angerddol yn y system Credyd Cynhwysol ac rydw i eisiau iddo weithio, ond y gyfrinach i'w lwyddiant yw pa mor dda y mae'n cael ei ariannu.
"Dros y pum mlynedd diwethaf, dwi wedi dod i'r casgliad ein bod wedi ei wasgu gormod ac nid ydym wedi ei ariannu'n ddigonol iddo gyflawni ei holl nodau."
Pleidleisiodd Stephen Crabb yn erbyn y llywodraeth yn gynharach eleni pan ofynnodd i'r £20 yn ychwanegol i Gredyd Cynhwysol gael ei ymestyn am flwyddyn gan ei fod yn "teimlo yn gryf" bod cynllun y trysorlys i ddod â'r taliad i ben am "achosi caledi i deuluoedd".
Cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak, y byddai'n cael ei ymestyn am chwe mis yn y gyllideb.
Yn ôl Ellie Harwood o Child Poverty Action Group, mae'r system fudd-daliadau angen gwneud mwy i atal pobl rhag cyrraedd pwynt argyfwng yn y lle cyntaf.
"Beth sydd wir ei angen arnom yw system budd-daliadau sydd yn dal pobl cyn iddyn nhw ddisgyn mewn i greisis," meddai.
"Fe ddylai o fod yno ar gyfer pobl sydd ei angen ac mae hynny fel arfer yn digwydd pan mae rhywbeth mawr yn digwydd yn eu bywyd fel colli swydd, tor-perthynas neu chael plentyn."
'Teimlo'n ddi-ddiwedd'
Cafodd Louise Hall o Gasnewydd ei hun yn ôl ar Gredyd Cynhwysol oherwydd na allai weithio yn ystod y pandemig.
Fe wnaeth cost offer i gydffurfio â rheoliadau Covid-19 ei gadael hi a'i mab wyth oed mewn argyfwng.
"Cyrhaeddodd y pwynt bod yn rhaid i mi fynd i ofyn am gymorth gan fanc bwyd, er mwyn gallu ariannu mynd yn ôl i'r gwaith a gallu gofalu amdanom, sy'n wirioneddol anodd ac nid yn rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud," meddai.
Cyn y pandemig, golygai tor-priodas bod yn rhaid i Louise ddibynnu ar y system nawdd cymdeithasol.
Ond roedd hi wedi dechrau sefyll ar ei thraed ei hun diolch i fenthyciad am hyfforddiant pellach gan elusen, Purple Shoots.
Dywedodd fod gorfod dibynnu'n llawn unwaith eto ar Gredyd Cynhwysol yn "dorcalonnus" ac mae'n dweud ei bod hi'n ofni na fydd hi byth yn gallu goresgyn tlodi.
"Mae'n teimlo'n ddi-ddiwedd, mae'n teimlo dorcalonnus ar brydiau," meddai.
"Gyda'r arian Credyd Cynhwysol, mae'n anhygoel, hebddo yn y pandemig, ni allwn fod wedi fforddio byw a thalu rhent na bwyta ond mae'n anodd iawn byw oddi arno yn y tymor hir.
"Mae'n taro eich iechyd meddwl ac mae'n golygu na allwch chi gynllunio ar gyfer y dyfodol ac nid ydych chi'n breuddwydio. Rydych chi'n mynd o fis i fis yn pendroni a ydych chi'n mynd i gael digon y mis hwnnw ai peidio."
Nid yw Louise ar ei phen ei hun. Mae canran y boblogaeth Gymreig sy'n hawlio Credyd Cynhwysol bron wedi dyblu ers dechrau'r pandemig.
Hawliodd 150,527 o bobl Gredyd Cynhwysol ym mis Chwefror y llynedd - 4.8% o'r boblogaeth.
Bu cynnydd sylweddol ar ddechrau'r pandemig - erbyn Ebrill 2020 roedd 219,683 o bobl yng Nghymru ar Gredyd Cynhwysol.
Mae wedi parhau i godi yn araf hyd at uchafbwynt o bron i 280,000 ym mis Ionawr eleni, sef bron i 9% o boblogaeth Cymru.
Dywed sylfaenydd Purple Shoots, yr elusen a roddodd fenthyciad i Louise am hyfforddiant, fod bron pob un o'r bobl maen nhw'n eu helpu ar Gredyd Cynhwysol.
Yn ôl Karen Davies, gall Credyd Cynhwysol gadw pobl mewn tlodi oherwydd eu bod yn lleihau'n rhy gyflym pan fydd rheini sy'n ei hawlio yn dechrau ennill mwy o arian.
"Mae'n broses sy'n ddinistriol iawn i hunan-barch. Rydych chi'n cael swm sylfaenol o arian sydd i fod i dalu am eich costau byw a'ch rhent ond does dim arian ar gyfer unrhyw beth arall.
"Rydych chi yn y trobwll yma na allwch chi ddod allan ohono. Nid yw'r swm o arian yn ddigon i chi adeiladu unrhyw beth arall i symud ymlaen, nid yw hyd yn oed yn ddigon i wneud cwrs hyfforddi.
"Mae Credyd Cynhwysol yn helpu pobl i oroesi ond nid yw'n helpu pobl i symud ymlaen. Er nad yw'n dod i ben y funud y maen nhw'n cychwyn busnes neu swydd, mae'n lleihau fel nad ydyn nhw'n gwella eu sefyllfa, maen nhw'n sefyll yn eu hunfan."
Dyluniwyd Credyd Cynhwysol i gymell mwy o bobl i weithio, fel y byddwch yn colli 63c mewn Credyd Cynhwysol i bob £1 yn ychwanegol o enillion.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Gydag estyniad y codiad Credyd Cynhwysol dros dro o £20, a'r swm cyfatebol ar gyfer y rhai ar Gredydau Treth Gweithio, rydym yn helpu miliynau o deuluoedd y mae'r pandemig wedi effeithio ar eu hincwm.
"Wrth i'r economi ailagor, byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi pobl yn ôl i weithio trwy ein cynllun cynhwysfawr ar gyfer swyddi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020