Diweithdra yn y cyfnod cyn Covid-19 yn cynyddu

  • Cyhoeddwyd
Poster Credyd Cynhwysol, CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru wedi cynyddu 3.7%, ond mae'r ffigwr yn is na'r cyfartaledd am weddill y Deyrnas Gyfunol o 4%.

Mae ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Rhagfyr y llynedd a mis Chwefror - cyn i'r argyfwng coronafeirws daro.

Maen nhw'n dangos bod 10,000 yn fwy o bobl yn chwilio am waith yng Nghymru nag oedd yn y tri mis cyn hynny, ond 15,000 yn llai na'r un cyfnod y llynedd.

Mae cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y bobl sydd ddim yn gweithio ac yn methu gweithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd 8,000 yn rhagor o bobl yn cael eu hystyried yn anweithredol yn economaidd rhwng mis Medi a mis Tachwedd - 43,000 yn fwy na'r un cyfnod llynedd.

Mae nifer y bobl sy'n gweithio yng Nghymru wedi lleihau gan 24, 000 o gymharu â'r tri mis blaenorol ac mae 36,000 yn llai o bobl yn gweithio yng Nghymru na llynedd.

Mae'r ffigyrau'n canolbwyntio ar y tri mis cyn y daeth y cyfyngiadau cymdeithasol i rym oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Does dim ffigyrau swyddogol eto am nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi gorfod cymryd seibiant cyflog o'u gwaith, na chwaith faint sydd wedi ymgeisio am y CredydCcynhwysol ers i'r argyfwng ddechrau.

Gogledd Ddwyrain Lloegr sydd gyda'r cyfraddau uchaf o ddiweithdra.