Joe Allen yn dychwelyd i garfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr dros dro Cymru, Robert Page wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer y tair gêm ryngwladol nesaf gyda Joe Allen yn dychwelyd wedi absenoldeb o dros flwyddyn.
Yn ogystal â Joe Allen mae'r chwaraewr canol cae Aaron Ramsey hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan, er bod amheuaeth am ei ffitrwydd.
Bydd Cymru yn dechrau ar eu hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022 gyda gêm oddi cartref yng Ngwlad Belg ar 24 Mawrth.
Tridiau'n ddiweddarach bydden nhw'n wynebu Mecsico mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd cyn chwarae gartref yn erbyn y Weriniaeth Siec ar 30 Mawrth yn ei hail gêm ragbrofol.
'Cadw golwg' ar Ramsey
Robert Page fydd yn arwain Cymru yn ystod y dair gêm, ar ôl i gyfnod mechnïaeth Ryan Giggs gael ei ymestyn ar ôl iddo wadu cyhuddiad o ymosod ar ei bartner ym mis Tachwedd.
Ond, pwysleisiodd Page fod Ryan Giggs wedi bod yn "ran allweddol" o ddewis y garfan.
"Bydd hi'n union fel mis Tachwedd, gyda'r staff i gyd yn trafod y tîm. Does dim byd wedi newid o'r safbwynt yna, fydd popeth yr un fath," meddai.
Wrth drafod ychwanegiad Aaron Ramsey i'r garfan, er gwaetha'r ffaith ei fod wedi cael ei adael allan o garfan Juventus dros y penwythnos oherwydd anaf, dywedodd Page: "Rydym yn cadw golwg ar y sefyllfa.
"Fe hoffwn ei gael yma yn rhan o'r garfan er mwyn i ni allu ei asesu ein hunain.
"Ar hyn o bryd mae'n rhan o'r garfan ac fe hoffwn ei gael yma ddydd Sul a chael golwg iawn arno. Os bydd unrhyw beth yn newid cyn hynny, yna mae hynny allan o'n rheolaeth," meddai.
Mae Chris Gunter hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan gyda'r cefnwr dde yn gobeithio chwarae yn o leiaf un o'r gemau a sicrhau ei 100fed cap i'w wlad.
Ond mae'r asgellwr David Brooks yn absennol yn dilyn anaf.
Carfan Cymru'n llawn
Golwyr:
Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Tom King:
Amddiffynwyr:
Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Tom Lockyer, Joe Rodon, Chris Mepham, James Lawrence, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango.
Canol Cae:
Joe Allen, Aaron Ramsey, Jonny Williams, Harry Wilson, Daniel James, Matthew Smith, Joe Morrell, Dylan Levitt, Brennan Johnson, Josh Sheehan.
Ymosodwyr:
Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Tom Lawrence, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Rabbi Matondo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2020