Hel atgofion am y ffilm eiconig, Grand Slam

  • Cyhoeddwyd
grand slam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cast yn cynnwys Siôn Probert, Dewi Pws a Windsor Davies

Mae hi'n benwythnos lle rydyn ni'n gobeithio am ddiweddglo ffafriol i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac y bydd tîm rygbi Cymru yn dychwelyd o Baris gyda'r Gamp Lawn.

Dros ddeugain mlynedd yn ôl, cafwyd Grand Slam go wahanol, sef ffilm yn dilyn hanes criw o gefnogwyr rygbi Cymru ar benwythnos gêm dyngedfennol ym Mharis. Roedd y ffilm - sydd wedi datblygu statws gwlt ymhlith ei ffans - yn cynnwys rhai o hoff actorion Cymru, fel Windsor Davies a Dewi Pws, ynghyd â'r seren Hollywood, Hugh Griffith.

Bu Cymru Fyw yn hel atgofion gyda rhai aelodau o'r cast.

'Pawb yn gobeithio cael rhan'

"Gwelodd [y cyfarwyddwr] John Hefin fi yn Pobol y Cwm ac fe ofynnodd e i mi os fyswn i'n hoffi rhan mewn ffilm gomedi," meddai Dewi Pws, oedd yn actio'r cymeriad Glyn Lloyd Evans.

"Nes i ffeindio mas bod Huw Griffith a Windsor Davies ynddi ac o'n i'n meddwl 'wow, mae hon yn mynd i fod dipyn bach yn wahanol'.

"Beth oedd yn neis oedd bod Gwenlyn [Parry] wedi gwneud sgerbwd sgript eithaf manwl yn Gymraeg, ac wedyn cafodd ei drosi i'r Saesneg.

"Doedd 'na ddim stress o gwbl o weithio gyda John Hefin, roedd e'n gadael chi ad libio, yn enwedig lot o linellau gyda Siôn Probert.

"Ar un adeg dyma John jest yn rhoi ni mewn tacsi ar gyfer golygfa a hala Siôn (Probert), Windsor (Davies) a fi off gan fod 'na ddim lle iddo fe a dweud: 'Jest actiwch, gwnewch leins lan'."

Disgrifiad o’r llun,

Dewi Pws a Siôn Probert yng nghefn y tacsi ym Mharis

Mae Mici Plwm hefyd yn cofio'r awch o fod yn rhan o brosiect mor gyffrous.

"Roedd pawb yn gobeithio 'sa nhw'n cael rhan ynddo fo," meddai.

"Be' sy'n rhyfeddol ydy bod 'na bron dim o budget iddo fo.

"Dwi'n siŵr os fysa fo wedi ei wneud gan y BBC yn Llundain fysa'r budget drwy'r to, ond 'sa fo'n gynhyrchiad mawr ac ella'n colli'r diniweidrwydd 'na."

Disgrifiad o’r llun,

Ffilmio golygfa'r maes awyr yng nghyntedd hen bencadlys y BBC yn Llandaf. O'r chwith i'r dde: Windsor Davies, Dewi Pws, Dilwyn Owen a Siôn Probert, gyda Mici Plwm yn cuddio

Tanio matsys ar ben ôl Oscar

Roedd un o actorion mwyaf Cymru ar y pryd, y diweddar Hugh Griffith, hefyd yn rhan o'r ffilm - ond doedd cyd-weithio ag o ddim wastad yn hawdd.

"Roedd gweithio 'da fe'n wahanol," meddai Dewi Pws dan chwerthin.

"Os nad oedd e'n lico chi, oedd e'n gallu mynd yn gas iawn.

"Ond fel ma'n digwydd, am 'mod i'n siarad Cymraeg, o'dd e'n dod 'mlaen 'da fi. Roedd ganddo fe enw ar fy nghyfer i - bydde fe'n gweiddi 'lle mae'r bastad bach 'na rŵan?!'

"Dwi'n cofio fe'n troi lan i ffilmio am 6.30am a thynnu case mas, ac ynddo fe oedd bob math o ddiodydd - brandi, wisgi, mixers... 'Be' tisho i yfad ta?!'

"Aeth John Hefin lan i Lundain i gyfarfod Hugh. Roedd ganddo fe Rolls Royce gwyn, crand ac roedd e'n siarad Cymraeg fel y cymeriad Arabaidd roedd e'n chwarae yn Ben-Hur.

"Bob hyn a hyn oedd Hugh yn cynnig sigâr. Wedi'r drydedd sigâr sylwodd John Hefin bod Hugh yn defnyddio pen ôl ei Oscar er mwyn tanio'r matsys!"

Disgrifiad o’r llun,

Hugh Griffith (chwith) a Windsor Davies. Roedd Griffith yn enw mawr, ac fe enillodd Oscar yn 1959 am ei rôl yn Ben-Hur

Daeth chwaraewyr rygbi'r genedl i wybod am ei ffyrdd unwaith hefyd, meddai Dewi Pws.

"Roedden ni'n aros yn yr un gwesty â thîm rygbi Cymru ym Mharis, a dwi'n cofio'r noson wedi'r gêm [pan gollodd Cymru] ac roedd y garfan yn cael ambell ddiod ac roedd dipyn o sŵn.

"Yna, ar y minstrels' gallery lan llofft roedd 'na sŵn mawr - 'Bang! Bang! Bang!' - a dyna le oedd Hugh Griffith gyda'i ffon yn ei law yn galw am dawelwch.

"Aeth y lle'n dawel gyda phawb yn edrych ar Hugh, yna fe bwyntiodd ei ffon at y tîm a gweiddi 'Tossers!' - dyma fe'n troi rownd a cherdded mas gyda phawb yn chwerthin."

'Heb golli ei hiwmor'

A hithau dros ddeugain mlynedd ers rhyddhau'r ffilm, ydy Grand Slam wedi dyddio'n dda o edrych 'nôl?

"Mae pawb yn gallu uniaethu â'r cymeriadau ac yn gwybod am y math o hwyl sydd ar y tripiau 'na," meddai Dewi Pws.

"Mae e'n hen ffasiwn erbyn nawr ond dyw e heb golli ei hiwmor - mae'n onest iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Y criw oedd yn gyfrifol am greu Grand Slam

Roedd y ffilm yn un cyfoes ar y pryd, meddai Sharon Morgan, a chwaraeodd Odette: "Yn y 1960au daeth y bilsen ac offer atalgenhedlu i fodolaeth a doedd bod yn hoyw bellach ddim yn anghyfreithlon.

"Felly roedd e'n mynegi'r ysbryd o'r rhyddid newydd o ran rhywioldeb, heb fod yn rhy risqué - roedd cynulleidfa Gymreig yn dal i deimlo'n eithaf saff ond eto bod y peth yn eithaf dewr ac yn torri rhyw waliau lawr.

"Dyna'r gyfrinach i ryw raddau, achos mae 'na anwyldeb a diniweidrwydd anhygoel ynglŷn â rhyw ac agweddau pawb ynddo fe, a lot fawr o hiwmor. Hefyd roedd e fel 'sa fe'n gwthio'r ffiniau ac yn parhau mor Gymreig.

Disgrifiad o’r llun,

Sharon Morgan a Dewi Pws yn y gwely yn gwylio'r gêm

"Mae'n rhyfeddol pa mor boblogaidd yw'r ffilm ac yn drist mewn ffordd ei fod dal yn boblogaidd, achos bydden i wedi gobeithio y byddai lot fawr o ffilmiau poblogaidd wedi dod mas o Gymru dros y blynyddoedd.

"Mae pobl dal i 'nabod fi weithie, er 'mod i mor hen bellach - 26 o'n i pan wnes i wneud e a fi dros 70 nawr!

"Mae rhai pobl yn gallu dyfynnu'r sgript gyfan - fi 'di hen anghofio fe bellach!"

Cafodd yr erthygl ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Mawrth 2018

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig