'Cwympo fel dominos': Perfformwyr yn y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Perfformwyr

Un o'r diwydiannau sy' wedi ei tharo waethaf gan y pandemig yw'r byd perfformio. Flwyddyn ar ôl i'r cyfnod clo cyntaf gychwyn mae nifer o actorion a chantorion yn dal heb waith ac wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd i gynnal eu hunain.

Sut maen nhw wedi ymdopi yn y cyfnod digynsail yma? Dyma straeon rhai ohonynt.

Ffynhonnell y llun, Dyfed Cynan

Wrth i flwyddyn o waith gael ei ganslo ym Mawrth 2020 o fewn wythnos o'r cyfnod clo yn cychwyn, trodd yr actor Dyfed Cynan o Gaerdydd at ddosbarthu nwyddau Amazon.

Mae'n anodd credu fod rhai ohonon ni wedi gorfod newid y ffordd ni'n byw ein bywydau a'n gwaith yn llwyr.

'Oedd e'n amlwg bod neb yn gallu rhagweld bod Covid-19 yn mynd i ddigwydd ond yn fwy na dim o'n i bach yn naïf, o'n i ddim wedi rhagweld bydden ni dal yn y sefyllfa 'ma blwyddyn ar ôl iddo ddigwydd.

Mae'n agoriad llygad o ran y byd perfformio, pa mor fregus yw e. Unwaith natho nhw gau y stiwdios a'r theatrau i lawr, mae popeth arall yn cwympo fel dominos wedyn.

'Na pam mae'n rhaid fod pobl fel yr actor Richard Harrington yn troi at Deliveroo a fi 'di neud yn debyg iawn - fi 'di bod yn gyrru dros Amazon ers mis Medi.

A fi wedi bod yn neud gwaith delivery gyda Parc Deli yn Nhreganna hefyd. Ac oni bai am hwnna bydden i 'di bod yn stwc achos gath tua blwyddyn o waith ei ganslo o fewn wythnos oherwydd Covid.

'Oedd e'n agoriad llygad ac yn rili, rili scary ar y dechrau achos o'n nhw'n dweud 'dyw'r project yma ddim wedi cael ei ganslo, mae jyst wedi cael ei arallgyfeirio tuag at amser arall'. Mae rhai projectau wedi eu canslo erbyn hyn.

Siom

Oeddech chi'n mynd trwy stages - y stage cynta' oedd panig llwyr. Unwaith bod chi 'di delio gyda'r panig oeddech chi'n dod i dderbyn y sefyllfa. Y trydydd peth oedd ystyried beth chi'n mynd i neud yn y cyfamser.

Wedyn oedd jyst rhaid i ni newid y ffordd ni'n gweithio. 'Oedd Jess, fy mhartner, yn lwcus achos mae hi'n dysgu - aeth ei busnes hi i gyd arlein so o leia' oedd hi'n cael rhyw fath o incwm.

Fi'n neud lot o drosleisio. O'n i ddim yn gallu mynd mewn i recordio mewn stiwdio so brynais i offer fel meicroffon i recordio adref. Nes i greu stiwdio fy hunan ac mae'r gwaith trosleisio wedi bod yn achubiaeth arall dros y locdown.

Oni bai am hwnna a'r gwaith delivery Amazon bydden i 'di bod mewn lle lot, lot gwaeth. Fi'n 'nabod lot o ffrindie sy' ddim 'di bod mor lwcus ac wedi cael problemau lot gwaeth na fi.

Erbyn hyn fi'n credu dewn ni mas o hyn yn unigolion lot fwy cyflawn ac fyddai'n berson sy'n gallu neud fwy o bethau nag o'n i pan aethon ni mewn i'r locdown gynta.

Maen amlwg bod ein diwydiant ni'n mynd i newid yn eitha' radical. Ers Ionawr mae 'na lygedyn o obaith fod pethau'n ailddechrau castio eto. Dw i ddim yn gweld ffilmio'n ailddechrau tan yr haf.

Ni'n fwy resilient a dwi'n credu fod y pandemig 'di rhoi ysgwyd i bobl i feddwl - ydw i wir moyn bod yn y proffesiwn yma?

Mae'n brawf o'ch dycnwch chi.

Er bod ni wedi bod yn lwcus i gael grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Llywodraeth i ryw raddau, ni dal yn mynd i weld effaith y pandemig am falle y pum mlynedd nesaf. Mae incwm pawb sy'n hunangyflogedig yn mynd i fod lawr am y ddwy flynedd nesaf beth bynnag sy'n digwydd.

Fi 'di gorfod bod yn amyneddgar iawn ac mae'n rhaid i fi barhau i fod yn amyneddgar. Fe ddaw y gwaith.

Ffynhonnell y llun, Mari Beard

Trodd yr actores a'r ysgrifennwr Mari Beard at greu mygydau wyneb yn ystod y pandemig.

I fi, 'odd 2020 yn flwyddyn od tu hwnt. Ar un llaw fe wnes i ddechrau busnes newydd a chodi dros fil o bunnoedd i elusennau gwahanol ond ar y llaw arall nes i prin gadael y tŷ na gweld fy ffrinidau a teulu.

Dwi'n teimlo, fel dwi'n siŵr bod pawb, bo' fi wedi cael blwyddyn gyfan wedi'i ddwyn gena'i.

Mae natur gwaith actio yn golygu bod gwaith yn beth ansefydlog, ond fe wnaeth y pandemig ddiffodd hyd yn oed y posibilirwydd o unrhyw waith.

Roedd setiau ffilmio yn cau lawr a theatrau yn cau. Felly roedd hi'n edrych yn eitha' llwm mis Mawrth diwethaf.

Fel arfer i ennill arian rhwng gwaith actio, byswn i yn tempio mewn swyddfa ond roedd hyd yn oed hynny yn amhosib.

Gwaith newydd

Ar ddechrau y pandemig o'n i moyn prynu mwgwd lliwgar ond dim ond rhai hynod o ddrud neu plaen iawn o'n i'n gallu ffeindio. Yn y cyfamser, nath ffrind i fi roi peiriant gwnio i fi a nath fy Mam ddanfon defnydd i fi i ddechrau ar brosiect gwnio.

O'n i ddim wedi gwnio ers ysgol blynyddoedd yn ôl, ond nes i wylio fideo ar YouTube yn dangos y broses.

Ar ôl gwneud mygydau i fy nheulu a ffrinidau a gwella fy sgiliau nes i benderfynu ddechrau siop ar blatfform Etsy arlein a dechrau gwerthu y math o fygydau o'n i eisiau gwisgo i allu cynnal fy hun yn ariannol ac i godi arian i elusen yr un pryd.

Ffynhonnell y llun, Mari Beard
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi mor ddiolchgar i bob un person nath brynu mwgwd, bag neu potyn planhigyn"

'Oedd yr ymateb yn eitha' syfrdanol, ar un pwynt o'n i methu cadw fyny gyda'r archebion a phobl yn danfon negeseuon yn gofyn pryd fyse 'na fwy o fygydau ar gael.

Wrth gwrs erbyn hyn, mae'n hawdd i brynu mwgwd rhad a lliwgar felly does dim gymaint o ofyn. Dwi'n falch mewn ffordd gan bod gwisgo mygydau yn beth pwysig iawn, felly y mwya' o bobl sy'n gwisgo nhw y gorau!

Dwi mor ddiolchgar i bob un person 'nath brynu mwgwd, bag neu potyn planhigyn, 'nath bob archeb wneud i fi deimlo bach yn fwy gobeithiol mewn cyfnod anodd iawn.

Dwi hefyd yn lwcus iawn fy mod i wedi gallu darganfod ffynhonell ariannol gwahanol dros y cyfnod yma a fy mod i wedi gallu codi arian i elusennau.

Ffynhonnell y llun, Trystan Llŷr Griffiths

Mae'r canwr Trystan Llŷr Griffiths wedi troi at hen hobi, sef gwaith saer, i'w gynnal wedi i'r gwaith opera ddod i ben.

O'n i mas yn Nancy yn nwyrain Ffrainc gyda cwmni opera National Deloraine pan gychwynnodd y pandemig. Wnaethon ni'r noson agoriadol a gath popeth ei ganslo wedyn. So chwe wythnos o waith ac wedyn dim ond un sioe yn y diwedd.

Mae cantorion opera dim ond yn cael ein talu am y sioeau ni'n neud. Ni'n cael base wage a ffi rihyrsal ond ffioedd y sioe sy'n dod â'r arian mewn.

'Oedd e'n gutting - eleni oedd fod i fod y blwyddyn orau a'r flwyddyn mwya' prysur dw i wedi cael hyd yn hyn.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Trystan Griffiths

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Trystan Griffiths

O'n i byth wedi meddwl fydde fe'n mynd 'mlaen mor hir a hyn. O'n i fod mas yn Dijon yn Ebrill ond gath hwnna ei ganslo a gath y gwaith opera dros yr haf ei ganslo hefyd. O mis Medi a dros yr hydref o'n i fod yn yr Alban am dri mis a gath hwnna ei ganslo hefyd.

O'n i'n derbyn y ffaith wrth bod ni'n dysgu mwy am Covid bod gwaith yr haf yn mynd ond o'n i'n clingio 'mlaen i'r gwaith gyda'r Scottish Opera ar gyfer yr hydref.

Ond amser aeth hwnna o'n i'n meddwl, 'o diflas'. Oedd mynd o'r flwyddyn orau o'n i erioed yn mynd i gael i'r flwyddyn waethaf yn eitha' hit.

Ymdopi

Se i'n lico stresio gormod am bethe se i'n gallu rheoli. Dwi 'di ymdopi'n ol reit achos mae pethe gwaeth yn digwydd yn y byd. Dwi'n kept man gyda Gwen, fy ngwraig, yn gweithio. Aeth hi nôl pump diwrnod yr wythnos i'r gwaith. Mae un bach 'da ni, Efa, sy' newydd troi'n ddwy.

Y silver lining yw o'n i fod bant wyth mis a hanner llynedd ond mae wedi gweitho mas bod fi wedi gweld Efa'n tyfu lan.

Ffynhonnell y llun, Trystan Llŷr Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi wedi ymddiddori mewn gwaith coed ers sbel a mae 'di rhoi bach o deleit i fi"

Gwaith saer

Potshan dw i'n galw hwnna. Dechreuais i 'da project bach fy hunan, yn neud flower beds. A wedyn welodd rhywun nhw ac oedden nhw eisiau un. Word of mouth a dw i 'di dechre cymryd reclaimed scaffolding boards a troi nhw mewn i silffoedd bach rustic a gwerthu nhw rownd pobl dwi'n nabod yng Nghaerdydd.

Mae sawl order da fi. Dwi'n cadw'n hunan yn fishi.

Mae rhywbeth 'da fi i neud, s'ym o Gwen rhy bles am y dwst yn dod i'r tŷ ond mae'n bach o arian i helpu i brynu bwyd.

Gwaith coed o'n i moyn neud pan o'n i yn y chweched dosbarth a dwi wedi ymddiddori mewn gwaith coed ers sbel a mae 'di rhoi bach o deleit i fi.

Effaith y clo

Dwi wedi rhoi pethe mewn i perspectif mwy a dwi'n gweld pa mor bwysig yw gorllewin Cymru i ni - achos bod ni ddim wedi gallu mynd nôl gymaint.

Dwi mor falch mod i wedi cael amser 'da Efa.

Ups a downs ond dw i ishe mynd nôl i ganu nawr. Dwi 'di gweld ishe'r strwythur. Mae gweld y dyddiadur yn wag yn eitha scary.

Y peth fi wedi colli yw, amser mae pobl yn gweld yr opera maen nhw'n gweld ti ac yn bwcio mlaen. 'Sdim o hynna wedi digwydd. Mae dal yn gyfnod bregus i actorion a chantorion achos mae pobl opera yn cael eu bwcio 'mlaen yn gynt na actorion.

Sei'n gweld lot yn digwydd i gantorion eleni ond blwyddyn nesa' falle... Bydd rhaid fi neud mwy o waith shelffo.

Hefyd o ddiddordeb