AS Ceidwadol, Nick Ramsay, i dalu £19,000 i'r blaid leol

  • Cyhoeddwyd
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Nick Ramsay yn sefyll ar ran y blaid Geidwadol yn yr etholiad ym mis Mai

Mae'r Uchel Lys wedi dweud wrth Aelod Ceidwadol y Senedd dros Fynwy am roi £19,200 i'w blaid yn lleol - yr eildro iddyn nhw ofyn iddo dalu eu costau cyfreithiol.

Mae Mr Ramsay eisoes wedi talu £25,000 yn dilyn anghydfod cyfreithiol ar ôl iddo gael ei dad-ddewis.

Dim ond yn ystod yr wythnos ddiwethaf y mae Mr Ramsay wedi talu Cymdeithas Geidwadol Mynwy, ar ôl iddi ddechrau camau cyfreithiol i'w gael i ufuddhau i orchymyn llys.

Dywedodd Mr Ramsay ei fod yn canolbwyntio ar gynrychioli ei etholwyr.

Wrth eistedd mewn gwrandawiad llys rhithwir, fe ddyfarnodd Mr Ustus Marcus Smith y dylai Mr Ramsay dalu £16,000 i gadeirydd y gymdeithas, Nick Hackett-Pain, ynghyd â TAW, o fewn 21 diwrnod.

Roedd cyfreithwyr ar ran Mr Ramsey wedi dweud wrth y Gymdeithas y llynedd na fyddai'n talu'r iawndal gwreiddiol.

Er mwyn ei gael i dalu'r ffioedd fe ffeiliodd y gymdeithas gais i farnwr gyhuddo Mr Ramsay o ddirmyg llys.

Aeth yr aelodau yn eu blaen i ddad-ddewis Mr Ramsay y llynedd, a thynnodd yr AS ei hun yn ôl o gyfarfod ail-ddewis a gynhaliwyd ddydd Gwener diwethaf, pan gyhoeddodd hefyd y byddai'n talu ffioedd y gymdeithas.

Clywodd y llys fod tîm cyfreithiol Mr Ramsay wedi dweud mewn llythyr ddydd Gwener diwethaf na fyddai'n mynd a'r mater ymhellach, ac ar ôl iddo dalu'r costau tynnodd y gymdeithas ei chais am ddirmyg llys yn ôl.