Rhybudd i bobl Caergybi ac Ynys Cybi i aros adref

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaergybiFfynhonnell y llun, David Goddard

Mae Cyngor Ynys Môn yn gofyn i bobl sy'n byw yn ardaloedd Caergybi ac Ynys Cybi i aros adref yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o Covid-19 yno.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd 54 o achosion Covid positif yng Nghaergybi yn ystod y saith niwrnod diwethaf, o gymharu ag 89 ar gyfer yr ynys gyfan.

Roedd gan y dref gyfradd achosion ar gyfartaledd o 503.8 fesul 100,000 dros y cyfnod hwnnw o'i chymharu â 127.1 ar gyfer Ynys Môn gyfan.

Ynys Môn sydd â'r ail gyfradd uchaf o achosion fesul poblogaeth yn ôl y ffigyrau diweddaraf, wrth i lefelau'r feirws syrthio yn y rhan fwyaf o Gymru.

Nos Wener fe rannodd y cyngor neges ar wefannau cymdeithasol yn gofyn i bobl ar Ynys Cybi a Chaergybi i aros adref.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyngor Sir Ynys Môn #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyngor Sir Ynys Môn #DiogeluCymru

Ar 13 Mawrth codwyd rheolau aros gartref yn y wlad a'u disodli gan neges "aros yn lleol".

Disgwylir i bobl gadw at reol teithio pum milltir, er bod hyblygrwydd i'r rheini mewn ardaloedd gwledig.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, bod yna "bryder sylweddol" am "nifer cynyddol" o achosion yn ardal Caergybi, a bod mesurau i reoli'r achosion yn cael eu hystyried.

"Mae'r trafodaethau wedi dechrau hefo ysgolion yr ardal i weld be' 'di'r posibiliadau", meddai.

"Oes 'na gyfnod clo arbennig yn mynd o gwmpas Caergybi - da ni'n edrych ar yr holl opsiynau."

Er hynny, dywedodd bod rhaid ystyried "pa mor realistig ydi eu gweithredu nhw achos da ni'n ddibynnol ar bobl yn ymateb i'r gofynion a chydymffurfio".

Pryderu am y cynnydd

Wrth siarad yn y sesiwn friffio coronafeirws ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod llywodraeth Cymru yn "bryderus" am gyfraddau cynyddol y firws ym Merthyr Tudful, Conwy ac Ynys Môn.

Dywedodd yn achos Ynys Môn yn benodol, ei bod yn bwysig dod i ddeall pam roedd nifer yr achosion yn cynyddu.

"Rydyn ni'n poeni am y tri awdurdod hynny yn benodol, oherwydd rydyn ni'n ymwybodol mai nhw sydd â'r cynnydd mwyaf gweladwy mewn cyfraddau achosion," meddai.

"Pe byddent wedi dilyn y duedd genedlaethol yn gyffredinol yna byddem wedi gweld gostyngiad pellach, felly maent yn gwneud gwahaniaeth i'r ffigwr cyffredinol.

"Yn yr un ystyr, mae'n ei gwneud yn llawer mwy gweladwy, oherwydd mae gweddill Cymru wedi gallu ymddwyn gyda'n gilydd yn y fath fodd lle rydyn ni wedi gallu cadw cyfraddau coronafeirws yn isel."