Ceidwadwyr yn addo dileu treth ar dai cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud na fyddai unrhyw un yng Nghymru yn gorfod talu treth pan yn prynu eu tŷ cyntaf os ydyn nhw mewn pŵer yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai.
Fe fyddan nhw hefyd yn gosod "targed uchelgeisiol" o adeiladu 100,000 o gartrefi dros y degawd nesaf.
Byddai'r blaid hefyd yn gwrthdroi'r penderfyniad i atal tenantiaid rhag prynu eu tai cyngor.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies y byddai'r cynlluniau yn gwneud y "freuddwyd" o fod yn berchen ar dŷ yn "realiti i deuluoedd ledled Cymru".
"Er mwyn adeiladu Cymru well, byddwn yn gweithio gyda phobl leol er mwyn sicrhau fod 100,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn y llefydd cywir, gan gyd-fynd â'r gymuned a chydag ystyriaeth o'r amgylchedd, a bod tai fforddiadwy i bawb sydd ei angen," meddai.
Ychydig dros 5,700 o dai newydd gafodd eu cwblhau yn 2018/19 - 13% o ostyngiad o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Dydy Cymru ddim wedi adeiladu dros 10,000 o dai mewn blwyddyn ers 1997.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i'r Dreth Trafodiadau Tir yn ystod y pandemig, gan ymateb i newidiadau i'r system Treth Stamp yn Lloegr.
Ar y funud does dim rhaid talu unrhyw dreth ar gartrefi hyd at £250,000, ac mae hynny wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar nes diwedd Mehefin.
Wedi hynny bydd y system yn dychwelyd i'r hen drefn, dolen allanol - ble na fydd angen talu treth ar gartrefi hyd at £180,000, a bydd 3.5% o dreth ar unrhyw swm rhwng £180,000 a £250,000.
62% o dan y trothwy
Does dim gostyngiad yn y dreth i'r rheiny sy'n prynu am y tro cyntaf, ond yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 roedd 62% o'r holl dai a brynwyd yng Nghymru wedi costio £180,000 neu lai - ac felly ddim wedi gorfod talu unrhyw dreth.
Ym mis Tachwedd 2020, pris tŷ cyntaf i bobl yng Nghymru oedd £155,000 ar gyfartaledd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnu ar y cynllun Hawl i Brynu yn Ionawr 2019, ac roedd nifer o gynghorau wedi gwneud hynny eisoes.
Ond mae'r Ceidwadwyr yn addo adfer y cynllun, gan ddweud na fyddai hawl gwerthu'r tai hynny am ddegawd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2020