Pris cyfartalog tŷ dros £200,000 am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru dros £200,000 am y tro cyntaf, yn ôl Mynegai Prisiau Tai'r Principality.
Dywedodd cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru fod cyfnodau clo wedi sbarduno "ras am ofod" gyda phobl yn prynu cartrefi mwy gyda gerddi mwy.
Roedd 18 o'r 22 sir yng Nghymru wedi gweld y prisiau uchaf erioed yn nhri mis olaf 2020.
Fodd bynnag, roedd gwerthiannau wedi gostwng 21% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.
Gwelodd pob un cyngor gynnydd mewn prisiau yn ystod 2020.
Y pris cyfartalog am gartref yng Nghymru yw £209,723.
Nid yw mynegai'r Principality yn ystyried chwyddiant dros flynyddoedd felly dyma'r "gwerth enwol" yn hytrach na'r "gwerth gwirioneddol".
Cododd prisiau 8.2% yn 2020, y gyfradd uchaf o gynnydd mewn 15 mlynedd.
Er hynny, mae pryderon y bydd rhai pobl methu ag ymuno â'r farchnad dai oherwydd y cynnydd mewn prisiau.
Nid yw pris pob math o eiddo'n cynyddu'n gyfartal, gyda'r galw am dai ar wahân yn uwch nag am unrhyw gartrefi eraill a phris fflatiau'n "gwegian ers mis Ebrill 2020".
Mae mynegai'r Principality yn seiliedig ar ffigyrau gwerthiant Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi.
Roedd cynnydd mewn prisiau blynyddol o 16% yn Ynys Môn, 14% yn siroedd Conwy a Mynwy, 13% yn Sir Y Fflint a12% yng Nghasnewydd.
Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Gwynedd a Bro Morgannwg oedd yr unig siroedd na welodd y prisiau uchaf erioed, ond roedd yna dal gynnydd yno ers 2019.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu'r Dreth Trafodiadau Tir - y dreth ar brynu tai - ar werthiant pob eiddo dan £250,000 rhwng Gorffennaf y llynedd a Mawrth eleni. Gall hynny arbed bron i £2,500 mewn treth i brynwyr fesul gwerthiant.
Profiad darpar brynwr ifanc
Dychwelodd Elfed Wyn Jones i fyw ar y fferm deuluol ger Trawsfynydd yng Ngwynedd y llynedd ar ôl colli ei swydd yn Aberystwyth yn sgil y pandemig.
Mae'n dymuno prynu cartref gyda'i gymar, Anwen Duncan, yn yr ardal, gydag o leiaf ddwy ystafell wely.
Gall y cwpwl fforddio prynu tŷ hyd at £110,000, ond mae tai'n aml yn gwerthu am dros £200,000.
"Pan ma' 'na gyfle prin a rhywbeth yn dod ar y farchnad sydd o fewn cyrraedd i ni, mae'n cael ei werthu'n gyflym," meddai.
Mae'n awgrymu cyfyngu nifer y llety gwyliau mewn ardaloedd penodol i'w hatal rhag "gyrru prisia' i fyny".
"Dwi'n gw'bod am tua saith neu wyth o gypla' yn Nhrawsfynydd fydde wrth eu bodde'n prynu tŷ a dechra' teulu ond, eto, mae'r prisia' fedran nhw fforddio yn tueddu i werthu'n sydyn."
Pobl wedi 'mynd amdani'
Roedd prysurdeb y farchnad dai wedi'r cyfnod clo cyntaf yn syndod i'r gwerthwr tai Dafydd Hardy.
Roedd yn gyfle, meddai i bobl benderfynu "be oeddan nhw isio a mynd amdani i brynu", a maint y galw'n golygu fod "prisiau gofyn, mwy neu lai, yn cael eu cyrraedd".
Dim ond tua un o bob tri o'r prynwyr oedd yn bobl yn symud o du hwnt i Gymru, meddai, a'r rhan fwyaf o'r gweddill yn bobl hŷn eisiau tŷ llai neu'n deuluoedd angen cartrefi mwy.
Ychwanegodd bod y farchnad wedi arafu eto yn y cyfnod clo presennol, ond mae yna ddarogan o fewn y sector y bydd "yn fwrlwm yn y misoedd i ddod - efallai ddim yn y chwarter yma ond tua'r haf a'r hydref".
Dywedodd Tom Denman, prif swyddog ariannol Cymdeithas Adeiladu'r Principality fod "cryfder adferiad prisiau tai yn ail hanner 2020 yn drawiadol".
"Mae hyn yn adlewyrchu'r ysgogiad gan Lywodraeth Cymru o ran gwyliau'r Dreth Trafodiadau Tir dros gyfnod cyfyngedig, galw mawr a bentyrrodd yn ystod y cyfnod clo cyntaf a'r ras am ofod i brynu eiddo mwy gyda gerddi mwy," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'r galw uwch hwn wedi'i ysgogi gan arbedion mwy mewn llawer o aelwydydd yn ystod y cyfnodau clo ynghyd â chyfraddau morgais isel hanesyddol parhaus.
"Mae'n debyg bod rhywfaint o alw ychwanegol gan brynwyr dros y ffin â Lloegr, gyda phrisiau tai'n fwy fforddiadwy yng Nghymru."
Cododd prisiau tai ledled y DU 6.5% y llynedd yn ôl Nationwide, ond awgrymodd Halifax eu bod wedi gostwng rhwng Rhagfyr ac Ionawr.
Dywed mynegai'r Principality: "Ar amrywiaeth o fesurau - ymholiadau gan brynwyr, cyfarwyddiadau i werthu, gwerthiannau y cytunwyd arnynt, gweithgarwch fesul syrfëwr a chymhareb gwerthiant i stoc, roedd Cymru'n gyfartal i ranbarthau mwyaf prysur Lloegr, neu'n perfformio'n well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2020