Dirwyo cefnogwyr am dorri rheolau Covid
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth yr heddlu ddirwyo 14 o gefnogwyr rygbi am dorri rheolau Covid drwy gynnal parti wrth wylio'r gêm rygbi rhwng Cymru a Ffrainc nos Sadwrn.
Dywed Heddlu De Cymru fod hwn yn un o 1,500 o alwadau iddynt ymateb iddynt ddydd Sadwrn - "un o'r diwrnodau prysuraf yn 2021" meddai un swyddog wrth drydar.
Cafodd o leiaf 32 o ddirwyon eu rhoi yn ardal Castell-nedd Port Talbot lle daeth yr heddlu o hyd i gefnogwyr yn gwylio'r gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Does gan wahanol aelwydydd ddim hawl i gymysgu dan do yn ôl rheolau Covid.
Dywed yr heddlu yn Abertawe iddynt hefyd dderbyn galwadau am bartïon yn cael eu cynnal yn ystod y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Roedd cefnogwyr rygbi wedi cael eu hatgoffa cyn y gêm ar gyfer y Gamp Lawn i aros adre i wylio er mwyn osgoi ymledu'r haint.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2021