Covid a'r GIG: 'Pethau byth am fynd nôl i sut oedden nhw'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Diolch NHSFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Neges i ddiolch i weithwyr y GIG ym Mhenarth, Bro Morgannwg

Flwyddyn ers y cyfnod clo cyntaf dywed gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru nad yw'r gwasanaeth wedi gorfod delio â chymaint o heriau ers ei sefydlu.

Mae ysbytai wedi bod dan straen aruthrol, meddygfeydd wedi gorfod mabwysiadu dulliau newydd o weithio ac wrth i driniaethau gael eu gohirio er mwyn blaenoriaethu gofal brys mae rhestrau ac amseroedd aros wedi cynyddu'n aruthrol.

Mae Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC, wedi bod yn holi tri o bobl rheng flaen y GIG am y newidiadau a'r heriau.

Dr Llinos Roberts - Meddyg Teulu

Dywed Dr Llinos Roberts fod y 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod erchyll a bod nifer wedi dioddef yn ddifrifol.

"Rwy'n cofio cael cyfarfod practis reit ar y dechrau nôl ym mis Mawrth. Yn sydyn mi ddaeth yn amlwg bod rhaid newid pethau ar frys.

"Fe fyddai newid systemau fel hyn a chyflwyno apwyntiadau o bell, a dros y ffôn fel arall wedi cymryd misoedd lawer," meddai.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

'Bydd nifer o heriau wedi Covid,' medd Llinos Roberts

"I rai pobl ma'r newid wedi gwella mynediad a gwneud apwyntiad yn fwy hwylus, ond mi rydw i'n poeni nad ydyn ni'n cyrraedd y bobl mwyaf bregus... rwy'n siŵr y gwnawn ni gadw rhai arferion a chyfuno elfennau o'r system hen a newydd.

"Ar ôl i ni weld cefn Covid byddwn ni'n wynebu heriau enfawr - mae nifer o driniaethau wedi eu canslo, ac ry'n ni fel meddygon teulu wedi gweld pwysau cynyddol. Fydd hyn ddim yn cael ei ddatrys dros nos. Dyw hi ddim yn amhosib ond fe fydd yn cymryd amser.

"Mae'r cyfnod wedi amlygu pa mor anghyfartal yw cymdeithas ond ma' hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Ma' lle i ni ddysgu - mae'r Gwasanaeth Iechyd i fod yno i bawb ond rwy'n teimlo nad yw hynny'n wir bob tro. Ond rhaid i ni ddysgu o hynny.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pobl wedi teimlo'n browd iawn o'r Gwasanaeth Iechyd a gobeithio bydd hynny yn annog rhagor i fynd yn nyrsys, ffisiotherapyddion a doctoriaid ac yn ymuno â'r gweithlu.

"Mae 'di bod yn her o ran dysgu myfyrwyr yn ystod y cyfnod, gan ddefnyddio Zoom ac ati .....ond ma' myfyrwyr wedi gweld â'u llygaid eu hunain sut oedd y Gwasanaeth Iechyd ar flaen y gad yn delio â'r pandemig. Ac er gwaetha'r holl rwystredigaeth y flwyddyn ddiwetha' bydd hynny yn aros yn eu cof am byth."

Steffan Rhys John - Fferyllydd Cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog

"Mae' di bod yn flwyddyn galed - llawn sialensiau newydd. Ry'n ni 'di gorfod 'neud mwy a mwy dros y ffôn a dros video conferencing yn hytrach na wyneb yn wyneb.

"Y sialens yn gyffredinol yw parhau â'r Gwasanaeth Iechyd ond ei ddelifro mewn ffordd wahanol ac hefyd mae'r heriau o gadw pellter cymdeithasol yn y fferyllfa, a gweithio mewn PPE ac yn y blaen," medd Steffan Rhys John.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'r pandemig wedi bod yn enghraifft dda o sut mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi tynnu at ei gilydd,' medd y fferyllydd Steffan Rhys John

"Yn gyffredinol mae fferyllwyr a meddygon teulu wedi bod yn gweld cleifion ond yn ddiweddar ry'n ni wedi gwneud lot dros y ffôn a ma' hynny wedi helpu amseroedd aros - felly ma' 'na le i barhau i wneud hynny.

"Mae'r pandemig wedi bod yn enghraifft dda o sut mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi tynnu at ei gilydd... yma ym Mlaenau Ffestiniog rydym ni yn gymuned glós ac ry'n ni wedi gorfod newid y ffordd o ddelifro presgripsiwns, er enghraifft, ac roedd yn wych gweld pobl yn gwirfoddoli i wneud hynny.

"Neith pethau byth fynd nôl i sut oedden nhw cyn y pandemig. 'Da ni wedi dysgu lot... a ma' lot o'r pethau allwn ni gario mlaen â nhw."

Dr Paul Misen - Cyfarwyddwr Gofal Brys, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

"Dan ni wedi cael blwyddyn anodd iawn - mi neuthon ni newid pethau yn gyflymach nag erioed - newid yr ysbyty, adeiladu ardaloedd Covid newydd a gwneud hynny mewn llai nag wythnos," meddai Dr Paul Misen.

Disgrifiad o’r llun,

'Bydd angen amser ar staff i ddod dros y pandemig,' medd Dr Paul Misen

"Roedd pethau ar eu gwaethaf adeg y Nadolig a mis Ionawr - mae'r ail don wedi bod yn anoddach na'r don gyntaf. Ond 'dan ni wedi dysgu cymaint ac mae unedau dros Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn treialon i ddatblygu triniaethau newydd.

"Mae'n bwysig i ni ddysgu sut i beidio cael coronafeirws yn yr ysbyty - ni'n gwneud yn well ar infection control ond mae'r feirws yn un sy'n lledaenu yn rhwydd iawn ac ma' hynny'n her anferth mewn hen ysbytai lle mae'r gwelyau yn agos iawn i'w gilydd.

"Bydd angen amser ar staff i ddod dros hwn ac ymdopi â'r hyn mae nhw wedi ei weld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - dyw hyn ddim wedi gorffen eto.

"Bydd rhaid i ni ddal lan â'r hyn ry'n ni ddim wedi gallu ei wneud yn ystod y flwyddyn. Do's dim lot o amser i edrych yn ôl, rhaid i ni edrych ymlaen a dechrau symud at gyfnod y bydd pethau ychydig yn fwy arferol.

"Ond fydd hi'n cymryd nifer o flynyddoedd i ni ddal lan - tair neu bedair o flynyddoedd efallai i ddal lan gyda'r gwaith i gyd."