Aaron Ramsey ddim yn chwarae oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd
Fydd Aaron Ramsey, chwaraewr canol cae Cymru, ddim yn chwarae yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd oherwydd anaf.
Cafodd Ramsey ei enwi yn sgwad Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg ar 24 Mawrth ac yna gartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar 30 Mawrth.
Mae Ramsey, sydd yn 30 oed, wedi methu chwarae i Juventus yn erbyn Cagliari a Benevento oherwydd anaf i'w glun.
Mae rhai sylwebyddion yn yr Eidal wedi awgrymu na fydd yn chwarae am dair wythnos.
Bydd Ramsey hefyd yn colli gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Mecsico ar 27 Mawrth.
Ganol Mawrth enwodd Robert Page, rheolwr cynorthwyol Cymru, sgwad o 31 ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd, gyda Ramsey wedi ei gynnwys er i reolwr Juventus, Andrea Pirlo, ddweud bod ganddo "broblemau anaf".
Prin iawn mae Ramsey wedi chwarae i Gymru yn ddiweddar oherwydd nifer o anafiadau - dim ond tair o'r 20 gêm ddiwethaf ac unwaith mae wedi chwarae ers i Gymru gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Euro 2020.
Mae rhai o gefnogwyr Cymru yn amau ymroddiad Ramsey i Gymru, ond yn ôl Page does neb yn fwy rhwystredig na cyn-chwaraewr Arsenal.
Wrth gyhoeddi'r garfan, mynnodd Page: "Rwy'n deall pam fod cefnogwyr yn teimlo fel hyn ond anaf yw anaf.
"Fydd neb yn fwy rhwystredig nag Aaron ar hyn o bryd.
"Ond fyddwn i ddim yn amau ei ymroddiad, a phan mae'n chwarae mae'n cryfhau'r tîm."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021