Cymru v Belg: Robson-Kanu a goliau bythgofiadwy eraill

  • Cyhoeddwyd
belg

Nos Fercher, 24 Mawrth, mae ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar yn dechrau.

Mae gwrthwynebwyr cyntaf Cymru'n dîm rydyn ni wedi ei wynebu sawl gwaith dros y blynyddoedd diweddar, Gwlad Belg.

Yn ôl detholion FIFA, Gwlad Belg ydy'r tîm rhyngwladol gorau yn y byd ar y funud, felly mae dipyn o dasg yn wynebu carfan Cymru.

Ond beth yw hanes y gemau rhwng Cymru a Gwlad Belg? Bydd yr erthygl yma'n siŵr o ddod â rhywfaint o atgofion yn ôl!

Ffynhonnell y llun, Visionhaus
Disgrifiad o’r llun,

Kevin De Bruyne a Craig Bellamy, 15 Hydref 2013

Canlyniadau

Mae Cymru a Gwlad Belg wedi chwarae ei gilydd 13 o weithiau, gyda phum buddugoliaeth i Gymru, pum buddugoliaeth i Wlad Belg, a thair gêm gyfartal.

Y gemau cyntaf

Roedd y gêm gyntaf rhwng y gwledydd ym mis Mai 1949 yn Liège, gyda'r Belgiaid yn ennill 3-1.

Daeth yr ail gêm rhyngddynt ym mis Tachwedd o'r un flwyddyn ar Barc Ninian, gyda Chymru'n ennill yn gyfforddus y tro yna, 5-1.

Ffynhonnell y llun, British Film Institute
Disgrifiad o’r llun,

Buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gwlad Belg ar 28 Tachwedd 1949

Y 1990au

Wedi'r gemau yna yn 1949 roedd rhaid aros dros 40 o flynyddoedd nes i'r gwledydd gwrdd eto, ac fe aeth y gwledydd ben-ben saith o weithiau yn y 90au.

Fe enillodd Cymru 3-1 yn erbyn Gwlad Belg yn 1990, gyda'r goliau'n dod i Ian Rush, Dean Saunders a Mark Hughes.

Yn 1993 fe sgoriodd Ryan Giggs, a oedd yn 19 oed ar y pryd, gôl gofiadwy o gic rydd wrth i Gymru guro Gwlad Belg 2-0 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1994.

Disgrifiad o’r llun,

Cic rydd enwog Ryan Giggs yn erbyn Gwlad Belg, 31 Mawrth 1993

Colli ddwywaith wnaeth carfan Bobby Gould yn erbyn Gwlad Belg yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd Ffrainc 1998. 2-1 oedd hi ar Barc yr Arfau, a 3-2 oedd hi ym Mrwsel.

Yn yr un ymgyrch yma oedd un o ddyddiau tywyllaf hanes pêl-droed Cymru, sef y golled 7-1 yn erbyn yr Iseldiroedd yn Eindhoven ar 9 Tachwedd, 1996.

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

George Grun a'r diweddar Gary Speed yn brwydro am y bêl

Y 2010au

Roedd Cymru a Gwlad Belg yn yr un grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014 ac ar gyfer Pencampwriaethau Euro 2016. Yn y bedair gêm dros y ddwy ymgyrch roedd buddugoliaeth yr un i Wlad Belg a Chymru, yn ogystal â dwy gêm gyfartal.

Yn 2012 fe wnaeth cerdyn coch cynnar i James Collins bethau'n anodd ar Gymru, gyda Gwlad Belg yn ennill 0-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn eu hail gêm o'r ymgyrch yna, 1-1 oedd hi ym Mrwsel, gyda gôl hwyr Aaron Ramsey yn ennill pwynt gwych i Gymru, ac roedd y canlyniad yn ddigon i anfon Belg i Gwpan y Byd 2014 ym Mrasil.

Ffynhonnell y llun, Dean Mouhtaropoulos
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Ramsey, a sgoriodd yn yr 88fed munud yn y gêm gyfartal 1-1 yn Stadiwm Brenin Baudouin, Brwsel

Erbyn ymgyrch gemau rhagbrofol Euro 2016 roedd y ddwy garfan yn gyfarwydd iawn â'i gilydd.

Di-sgôr oedd hi ym Mrwsel ar 16 Tachwedd 2014, ond yn y gêm gartref Gareth Bale oedd y gwahaniaeth wrth i Gymru gael buddugoliaeth hollbwysig ar eu taith i gyrraedd Euro 2016.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn dathlu'r gôl enillodd y gêm yn erbyn Gwlad Belg, 12 Mehefin 2015

Euro 2016

Ond wrth gwrs y gêm enwocaf rhwng y ddau dîm yma, a fydd yn cael ei gofio gan bob cefnogwr pêl-droed Cymru, oedd yr achlysur arbennig yn rowndiau'r chwarteri yn Euro 2016.

Fe roddodd Radja Nainggolan y Belgiaid ar y blaen wedi 13 munud, ac roedd pethau yn argoeli'n ddrwg ar Gymru. Ond wedi hanner awr o chwarae fe sgoriodd capten Cymru, Ashley Williams, gyda pheniad o gic gornel.

Yna daeth moment fythgofiadwy, wrth i Hal Robson Kanu wneud Cruyff turn yn y cwrt cosbi a thwyllo tri amddiffynnwr Gwlad Belg a rhwydo heibio Thibaut Courtois.

Ychwanegodd Sam Vokes gôl hwyr i'r Cymry gyda llai na phum munud o'r gêm ar ôl i'w gwneud hi'n 3-1 ar y noson.

Ffynhonnell y llun, MIGUEL MEDINA
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru'n dathlu gôl Sam Vokes a seliodd y fuddugoliaeth a lle Cymru yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Portiwgal

Detholion y byd

Mae Gwlad Belg ar frig rhestr detholion y byd FIFA ar hyn o bryd a dydyn nhw heb golli gêm bêl-droed yn y grwpiau rhagbrofol ers i Gymru eu curo nhw ym mis Mehefin 2015.

Mae Cymru yn y 18fed safle, sydd yn barchus iawn, ac wedi bod ar rediad da iawn yn ddiweddar.

Sêr Gwlad Belg

Mae carfan Gwlad Belg yn llawn enwau mawr sy'n chwarae i dimau gorau'r byd yn Lloegr, Sbaen, Yr Eidal, Yr Almaen a Ffrainc.

Ymysg y prif chwaraewyr mae Kevin De Bruyne o Manchester City, Romelu Lukaku o Inter Milan, y golwr Thibaut Courtois o Real Madrid, Dries Mertens o Napoli ac Yannick Carrasco o Atlético Madrid. Mae'r capten arferol, Eden Hazard o Real Madrid, wedi ei anafu.

Ffynhonnell y llun, MIGUEL MEDINA
Disgrifiad o’r llun,

Romelu Lukaku o Inter Milan, un o ymosodwyr gorau Ewrop y tymor gyda 25 gôl mewn 34 gêm dros ei glwb

Does dim dwywaith y byddai hi'n ganlyniad gwych i gael gêm gyfartal ym Mrwsel, ond o gofio hanes y ddau dîm yma pwy a ŵyr beth all ddigwydd...

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig