Ymgeisydd Torïaidd yn ffugio cyfweliadau ar YouTube

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Natasha AsgharFfynhonnell y llun, YouTube/Natasha Asghar
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Natasha Asghar fod ganddi "gyfweliad ecsgliwsif" gyda'r cricedwr enwog Sachin Tendulkar

Mae ymgeisydd etholiad y Ceidwadwyr Cymreig wedi tynnu fideo yn arddangos ei gwaith teledu oddi ar YouTube lle bu'n esgus cyfweld â ffigyrau chwaraeon blaenllaw.

Roedd fideo Natasha Asghar yn cynnwys clipiau o gyfweliadau gyda'r cricedwr Sachin Tendulkar a'r pêl-droediwr David Beckham.

Cadarnhaodd BBC News, a recordiodd gyfweliad Sachin Tendulkar yn 2013, nad oedden nhw wedi rhoi caniatâd i'w ddefnyddio.

Dywedodd Ms Asghar mai bwriad y fideo oedd i ymarfer ei sgiliau golygu.

Mae hi yn yr ail safle ar restr y Ceidwadwyr ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru ar gyfer etholiad y Senedd ar 6 Mai.

Beth oedd yn y fideo?

Mae'r fideo yn cynnwys peth o'i gwaith fel cyflwynydd. Roedd wedi ei weld mwy na 1,000 o weithiau cyn iddi ei wneud yn breifat ar ei sianel bersonol ddydd Mawrth.

Yn y clip, mae Ms Asghar yn dweud: "Dyma ychydig enghreifftiau o fy ngwaith a gobeithio eich bod chi'n hoffi'r hyn rydych chi'n ei weld."

Tua munud i mewn, mae'n torri i fideo o Ms Asghar, sydd wedi'i gosod ar gefndir ac yn cyflwyno cyfweliad.

"Rydw i wedi ymuno â'r dyn sydd newydd gyhoeddi ei ymddeoliad ac sy'n rhoi cyfweliad arbennig i ni - sef y dyn ei hun Sachin Tendulkar," meddai.

"Sachin, pam ydych chi'n ffarwelio â gêm ry'ch yn ei charu, a'ch bod chi'n amlwg yn ei charu hefyd?"

Mae'r fideo yn torri i glip o'r chwaraewr criced rhyngwladol o India a ffilmiwyd gan y BBC ar adeg ei ymddeoliad yn 2013.

Sachin TendulkarFfynhonnell y llun, YouTube/Natasha Asghar/BBC News
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y fideo yn cynnwys clip o Sachin Tendulkar a gafodd ei ffilmio gan BBC News

Mae'r lluniau gwreiddiol, sydd hefyd ar gael ar YouTube, yn dangos bod Mr Tendulkar yn cael ei gyfweld gan rywun arall.

Yn ddiweddarach, mae'r fideo yn honni bod Ms Asghar yn cyfweld â David Beckham, gan ofyn iddo sut yr hoffai gael ei gofio gan ei gefnogwyr.

Yna mae'r fideo yn dangos clip o gyfweliad â David Beckham, gyda logo ar gyfer yr asiantaeth newyddion Associated Press i'w weld yn y gornel.

Mae lluniau gwreiddiol o'r clip, adeg ymddeoliad Mr Beckham yn 2013, hefyd ar gael ar YouTube. Mae'r disgrifiad o'r fideo yn dweud ei fod yn cael ei gyfweld gan y cyn bêl-droediwr Gary Neville.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod y cyfweliad gwreiddiol wedi cael ei wneud gan Sky Sports News.

'Arddangos fy sgiliau golygu'

Mewn ymateb i gais gan BBC Cymru am sylw, dywedodd Ms Asghar: "Nid yw'n gyfrinach fy mod i'n gweithio ym myd teledu ac mae gen i gwmni cynhyrchu lle dwi'n creu cynnwys.

"Am dros flwyddyn rydw i wedi bod yn dysgu golygu lluniau.

"Rhywbeth nad oeddwn i byth yn gwybod sut i wneud o'r blaen a chreais y demo hwn i arddangos fy sgiliau golygu.

"Am flynyddoedd rydw i wedi bod yn talu eraill i wneud fideos yn arddangos fy ngwaith yn y cyfryngau, a gan bod chi'n gweithio yn y cyfryngau eich hun, byddwch yn ymwybodol eu bod yn ddrud.

"A dweud y gwir, wnes i ddim hyd yn oed sylweddoli ei fod yn weladwy gan fy mod i'n ei rannu gyda chyn-gydweithiwr i mi a oedd yn fy nysgu sut i ddefnyddio Final Cut Pro.

"Nid y bwriad oedd eu defnyddio at unrhyw bwrpas anghywir nac erioed i'w dangos i eraill.

"Fel y dywedais, dim ond ar gyfer fy natblygiad fy hun oedd hwn," ychwanegodd.