Nifer isaf o gleifion gofal critigol ers chwe mis
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y cleifion coronafeirws sy'n cael gofal critigol neu ar beiriannau anadlu yn ysbytai Cymru ar ei lefel isaf ers chwe mis.
Ar 23 Mawrth, 25 o bobl oedd yn cael gofal o'r fath wedi amheuaeth neu gadarnhad eu bod â Covid-19.
Mae hynny'n fwy na 80% yn llai nag yng nghanol Ionawr, a'r nifer isaf ers 26 Medi.
Roedd dros hanner y cleifion coronafeirws mwyaf difrifol wael yn ysbytai'r gogledd, yn ôl ystadegau GIG Cymru.
Doedd dim cleifion Covid yn cael gofal critigol ddydd Llun yn ysbytai byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda.
Roedd 729 o gleifion coronafeirws yn cael triniaeth yn ysbytai Cymru ar 23 Mawrth ac roedd y nifer dyddiol ar gyfartaledd - 832 - yn is nag ar unrhyw adeg ers 19 Hydref.
Mae nifer yr achosion posib neu bendant wedi gostwng 88% o'r uchafbwynt ddiwedd Rhagfyr, ac yn debycach i lefelau mis Medi.
Ni fu'n rhaid danfon yr un claf i ysbytai ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn y dau ddiwrnod diwethaf.
Roedd mynediadau ysbyty dyddiol, ar gyfartaledd dros saith diwrnod, yn 48 ar 23 Mawrth, ond mae hynny'n debygol o fod yn is.
Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau bwriad i ddatgomisiynu tri o'r ysbytai maes a sefydlwyd mewn ymateb i'r pandemig.
Bydd Ysbyty Enfys Scarlets, ym Mharc Y Scarlets, Llanelli; Ysbyty Enfys Carreg Las, yn Arberth, Sir Benfro, ac Ysbyty Enfys Plascrug, yn Aberystwyth, yn dychwelyd i'w defnydd arferol o 31 Mawrth.
Ond bydd Ysbyty Enfys Selwyn Samuel, yn Llanelli, yn parhau fel "cyfleuster ymchwydd pe bai trydedd ton bosibl o coronafeirws" tan 2022.
Bydd Canolfan Hamdden Aberteifi yn cael ei chadw fel cyfleuster profi, olrhain a brechu torfol.
Mae'r bwrdd yn "atgoffa aelodau o'r cyhoedd bod y pandemig yn parhau i fod yn weithredol, ac ni ddylai pobl dybio bod ein penderfyniadau cynllunio yn arwydd o ddychwelyd i normalrwydd ar unwaith".
"Yn benodol, rydym yn annog trigolion a chymunedau lleol yn gryf i barhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol ar bellhau cymdeithasol, hylendid dwylo a defnyddio gorchudd wyneb i helpu i atal Covid-19 rhag lledaenu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021