'Teimlo'n obeithiol' wrth i Gymru nodi blwyddyn o Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn cofio am y bobl sydd wedi colli eu bywydau yn ystod cyfnod pandemig Covid-19.
Am hanner dydd fe wnaeth sefydliadau, busnesau, ysgolion, siopau, ysbytai ac eraill gynnal munud o dawelwch er mwyn nodi'r achlysur.
Mae 23 Mawrth yn nodi union flwyddyn ers i bobl gael eu cynghori i aros adref wrth i gyfyngiadau llym gael eu cyflwyno.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod Cymru yn canolbwyntio ar y "nifer arswydus o uchel" o unigolion sydd wedi colli eu bywydau.
Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal ar risiau'r Senedd brynhawn Mawrth hefyd, ac mae nifer o adeiladau ledled Cymru yn cael eu goleuo'n felyn i nodi'r garreg filltir.
Mewn araith ar risiau swyddfa'r Llywodraeth ym Mharc Cathays dywedodd Mr Drakeford: "Heddiw, rydyn ni'n nodi carreg filltir bwysig iawn wrth i'r pandemig barhau.
"Flwyddyn yn ôl, dechreuodd pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd ar gyfnod o gyfyngiadau llym.
"Rydyn ni'n canolbwyntio'n bennaf heddiw ar y nifer arswydus o uchel o unigolion sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig - ac mae'n briodol ein bod ni'n gwneud hynny.
"Fel rydyn ni wedi gwneud gydol y pandemig, rydyn ni'n meddwl am bob teulu sy'n galaru ar ôl iddyn nhw golli rhywun a oedd yn annwyl iddyn nhw. Rydyn ni'n cofio am yr unigolion sydd y tu ôl i'r ffigyrau sy'n cael eu hadrodd bob dydd.
"Byddan nhw'n cael eu cofio yng nghalonnau a meddyliau pawb oedd yn eu hadnabod a'u caru."
Ychwanegodd Mr Drakeford bod pawb yn nodi'r garreg filltir hon "gan deimlo'n obeithiol".
Ychwanegodd bod y rhaglen frechu yn "diogelu miloedd o bobl bob dydd ac rydyn ni'n llacio'r cyfyngiadau yr ydyn ni wedi byw gyda nhw ers mor hir".
"Wrth i'r gwanwyn ddechrau egino, gallwn ni i gyd fod yn obeithiol y bydd eleni yn flwyddyn llawer gwell na'r llynedd."
Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei bod yn iawn bod y galar y mae teuluoedd yn ei deimlo ledled Cymru gyfan "yn cael ei adlewyrchu heddiw gan holl aelodau'r Senedd, ond hefyd pob cymuned ar hyd a lled Cymru".
"Ond rydyn ni hefyd wedi gweld gweithredoedd enfawr o garedigrwydd sydd wedi bod mor ysbrydoledig, yn ysbryd cymunedol, yn garedigrwydd ac yn dosturi gyda'i gilydd, sydd wedi bod o gymorth enfawr i lawer o bobl trwy'r argyfwng hwn," meddai.
Cyn y munud o ddistawrwydd cenedlaethol, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Heddiw, flwyddyn yn ddiweddarach, mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi colli anwyliaid i'r feirws ofnadwy hwn a newidiodd ein bywydau i gyd am byth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021