Iechyd Meddwl: Disgwyl cynnydd yn nifer y cleifion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
bronglais

Mae gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn paratoi i dderbyn mwy o gleifion nag erioed o'r blaen.

Dros y tri mis diwethaf mae staff wedi gweld cynnydd mewn unigolion sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth, ac wrth i'r cyfnod clo lacio mae disgwyl llawer iawn mwy.

Mae'r 12 mis diwethaf wedi gorfodi gwasanaethau cymunedol i addasu.

Yn ôl gweithwyr iechyd, bydd "sawl blwyddyn" nes bod iechyd meddwl pobl yn gwella, gyda rhai yn delio gydag effeithiau'r pandemig am "weddill eu hoes".

Mae Canolfan Gorwelion yn Aberystwyth yn annog pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i alw heibio.

Fis Mawrth diwethaf bu'n rhaid addasu'r ffordd o weithio dros nos.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bleddyn Lewis fod y gwasanaeth iechyd wedi llwyddo i addasu

Cred Bleddyn Lewis, sy'n Uwch Nyrs Iechyd Meddwl ar gyfer Ceredigion, y bydd "sawl blwyddyn cyn bod ni'n dod dros y pandemig a dwi'n credu bydd yr olion yna am weddill ein bywydau ni".

"O ran nifer y referrals sy'n dod i mewn, mae hynny wedi cynyddu, ond y peth pwysig i ddweud yw ein bod ni fel gwasanaeth wedi addasu i ddelio gyda'r cynnydd yna mewn cyfeiriadau sy'n dod i mewn."

Pwysau pandemig

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cydnabod y galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, gyda 40% yn fwy o gleifion ar draws Cymru.

"Er mwyn atal problemau iechyd meddwl gydol oes, mae angen i ni wario mwy ar wasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl," meddai Mr Gething.

"Mae angen i fyrddau iechyd hefyd wneud mwy i sicrhau mynediad hawdd i gymorth iechyd meddwl a bod hynny ar gael yn lleol."

Dyma'r maes lle mae'r gwariant unigol mwyaf o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Ond mae Llywodraeth Cymru am weld y byrddau iechyd yn gwneud mwy i gynnig gwasanaethau ar lawr gwlad.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud mai'r pandemig sydd wedi arwain yn uniongyrchol at y cynnydd gyda thwf mewn cleifion newydd yn gofyn am help am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Aled Wyn Jones: 'Bydd yr effeithiau'r pandemig i'w teimlo am beth amser'

Dywed Aled Wyn Jones, Nyrs Iechyd Meddwl yng Nghanolfan Gorwelion, fod y cyfnod wedi bod yn un anodd i nifer o bobl.

"Mae pethau yn agor lan tamed bach nawr ond fi dal yn meddwl bydd gyda ni tipyn o hangover am sbel, o'r cyfnod clo hir ni wedi cael dros y flwyddyn.

"Ond mae'n fwy na'r lockdown, achos bod pobl ddim yn gwybod beth sy'n digwydd a heb gael profiad o broblemau iechyd meddwl o'r blaen.

"Gyda gorbryder a pethau fel yna, mae hynny'n cynhyrfu lot fawr o emosiwn mewn pobl."

Mae cryfder a chydweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd ac o fewn cymunedau wedi profi'n llwyddiant dros y 12 mis diwethaf.

Er hynny, mae mwy o bobl yn teimlo'r straen a'r her fwyaf, o bosib, eto i ddod.

Y pandemig 'wedi tanlinellu'r brys'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth bod y pandemig "wedi tanlinellu'r brys i gryfhau gwasanaethau iechyd meddwl".

"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn trin problemau iechyd meddwl a chorfforol yn gyfartal, yn buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, yn hyfforddi a recriwtio 6,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol, ac yn sicrhau bod gan feddygon teulu fynediad at adnoddau yn lleol i gyfeirio pobl yn briodol," meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds bod ei phlaid eisiau cynyddu'r gwariant ar iechyd meddwl i 13% o holl wariant y GIG erbyn 2028, fyddai'n cynnwys creu "gwasanaeth iechyd meddwl 24/7 a lleihau amseroedd aros".

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Angela Burns "bod rhaid rhoi sylw blaenllaw i iechyd meddwl - yn sicr wedi Covid.

"Mae'r haint wedi cael effaith andwyol ar les pobl a bydd mwy o alw am wasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru.

"Rhaid cael arweiniad cadarn i ddelio â'r mater - fe fyddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau bod yr un driniaeth yn cael ei roi i iechyd meddwl ag iechyd corfforol."