Ehangu cymorth iechyd meddwl i bob gweithiwr iechyd

  • Cyhoeddwyd
Meddyg mewn PPEFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall gweithwyr iechyd rheng flaen ddioddef PTSD yn sgil y pandemig, medd arbenigwyr

Mae parafeddygon a nyrsys sydd wedi ymddeol yn cael eu recriwtio er mwyn ehangu llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr rheng flaen GIG Cymru, wrth i'r pryder am eu hiechyd meddwl gynyddu.

Dim ond meddygon oedd a chyfle i alw'r llinell gymorth tan nawr, ond bellach gall nyrsys, parafeddygon, ffisiotherapyddion, myfyrwyr a gweithwyr rheng flaen eraill yn cynnwys staff gweinyddol gael mynediad i'r gwasanaeth.

Yn ôl pennaeth gwasanaethau lles un o fyrddau iechyd Cymru, mae meddygon yn wynebu straen aruthrol, yn cynnwys gwneud penderfyniadau moesol anodd tu hwnt wrth ddelio a'r argyfwng coronafeirws.

Hyd yma, mae dros 2,000 o gyn-feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill wedi ailymuno â'r GIG i helpu trin cleifion coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi £1m ychwanegol i'r cynllun Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol.

Bydd yr arian yn mynd at gyflogi mwy o seiciatryddion a chynghorwyr meddygol, cynnal sesiynau cwnsela a helpu unigolion gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Daw'r cyhoeddiad wrth i fyrddau iechyd recriwtio ymgynghorwyr i gefnogi staff yn ystod y pandemig.

Mae rhai hefyd wedi sefydlu llinellau cymorth, tra bod eraill yn cynnig gwefannau neu sesiynau wyneb-yn-wyneb i wrando ar bryderon staff a chynnig cefnogaeth seicolegol.

Bydd gwasanaeth oedd yn wreiddiol yn cefnogi 10,000 o feddygon ar draws Cymru yn ehangu i gefnogi 60,000 o weithwyr iechyd rhwng 09:00 a 17:00, yn ôl cyfarwyddwr Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol.

"Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i weithwyr gofal iechyd sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19," meddai'r Athro Debbie Cohen.

Ffynhonnell y llun, Debbie Cohen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hanfodol i staff y GIG gael cyfle i drafod gofidion yn gyfrinachol, medd yr Athro Debbie Cohen

"Felly, rydyn ni'n ehangu ein cynllun cymorth i feddygon fel bod pawb yn gallu cael yr un cymorth seicolegol, waeth pa rôl maen nhw'n ei chwarae yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru nac ym mha ran o Gymru maen nhw wedi'u lleoli.

"Efallai eu bod nhw'n teimlo'n euog nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r gwaith pan fo eraill yn gallu mynd.

"Mae'n bosib eu bod yn teimlo trawma ar ôl gweld yr hyn maen nhw'n ei weld bob dydd ar y rheng flaen.

"Mae'n hollol hanfodol fod gan y gweithwyr hyn le cyfrinachol i fynd iddo lle maen nhw'n teimlo eu bod yn gallu siarad gyda'u cydweithwyr a chael cymorth a chefnogaeth mewn ffordd sy'n gyfleus iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff yn wynebu pwysau wrth ofalu am nifer cynyddol o gleifion sy'n ddifrifol wael gyda'r feirws

Cafodd llinell gymorth ei lansio yn yr wythnos ddiwethaf ar gyfer gweithwyr iechyd GIG Lloegr.

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru'n dangos fod 1,376 o feddygon a 417 o nyrsys wedi dychwelyd i'r gweithle.

Ers dechrau'r haint, mae dros 460 o achosion wedi eu cofnodi yng Nghymru ble roedd y sawl a fu farw wedi cael prawf positif am Covid-19.

Mae'r meirw'n cynnwys nyrsys a meddygon.

Fe allai llawer o weithwyr iechyd ymatal rhag gofyn am gymorth am fisoedd, wrth ddod i delerau â'u gwaith ar y rheng flaen, gan gynnwys trin ffrindiau neu gydweithwyr sydd â'r feirws, yn ôl pennaeth gwasanaeth lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Ychwanegodd Dr Adrian Neal, sy'n seicolegydd clinigol ymgynghorol, fod yna elfen "foesol" i'r niwed posib i staff yn sgîl y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Adrian Neal yn rhagweld straen corfforol ac emosiynol ar weithwyr iechyd yn sgil y pandemig

"Mae llawer o'n staff yn byw ac yn gweithio yn yr ardal, felly mae'r gor-gyffyrddiad rhwng gofalu am gydweithwyr, pobl rydych chi yn eu nabod neu'n perthyn iddyn nhw, yn sefyllfa sydd yn gallu codi mewn gwirionedd," meddai.

"Methu, ar ben hynny, rhoi'r gofal i deuluoedd fysach chi'n ei ddymuno... bydd y pethau hyn oll yn cael effaith."

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn gwybod am yr effaith hirdymor, ond yn llwyr ymwybodol y bydd yna effaith.

"Rwy'n meddwl bydd yn effeithio sut ry'n ni'n gweithio, ein hagwedd at ein gwaith ac at ein cydweithwyr.

Yn y tymor byr i ganolig, rwy'n meddwl bydd na gryn flinder, yn gorfforol ac yn emosiynol."

Mae'r gwasanaeth ar gael drwy ffonio 0800 058 2738, ymweld â https://www.hhpwales.co.uk/ neu drwy e-bostio HHPCOVID19@cf.ac.uk