'Does dim arian i brynu pethau neis' ers Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
lletygarwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 78% o weithwyr y diwydiant lletygarwch wedi bod ar ffyrlo

Mae'r pandemig wedi ymestyn anghydraddoldeb ariannol yng Nghymru, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Tra bod mwy o bobl sydd ar gyflogau uchel wedi medru arbed arian dros y flwyddyn ddiwethaf, mae effaith ariannol y pandemig wedi bod yn fwy i'r rhai sydd ar gyflogau isel.

Prin mae cyflogau mewn swyddi sy'n talu'n dda, fel gwaith swyddfa i'r sector cyhoeddus, wedi eu heffeithio o gwbl gan y cyfnod clo, a dim ond 1% o swyddi fel yma sydd wedi bod ar ffyrlo.

Mae'r sefyllfa'n wahanol yn y sector lletygarwch - diwydiant lle mae swyddi yn talu llai. Yn y sector yma mae 78% wedi bod ar ffyrlo gyda gweithwyr yn cael 80% o'u cyflog arferol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae swyddi mewn swyddfeydd yn y sector cyhoeddus yn talu £680 yr wythnos ar gyfartaledd, tra bod y rhai sy'n gweithio'n llawn amser yn y diwydiant lletygarwch yn ennill oddeutu £360 yr wythnos.

Ddiwedd Gorffennaf roedd mwy na hanner miliwn o bobl yng Nghymru - y rhai oedd dal yn gweithio - yn byw ar lai o arian.

Faint sydd wedi bod ar ffyrlo?

Roedd cyfanswm 400,800 o bobl ar ffyrlo, ac roedd 108,000 o bobl yn derbyn cefnogaeth i bobl hunangyflogedig, yn ôl ffigyrau'r trysorlys. Mae hynny'n cynrychioli 30.6% o swyddi yng Nghymru.

Yn ôl ffigyrau swyddogol roedd 125,000 ar ffyrlo erbyn 30 Tachwedd, a 158,700 ar 31 Rhagfyr.

Roedd hynny'n cymharu â 183,400 o bobl yng Nghymru ar ffyrlo ar 31 Ionawr.

Yn ôl yr amcangyfrif ar gyfer 28 Chwefror, roedd 175,200 ar y cynllun, gyda 13% o holl ddynion a chyfartaledd o 14% o fenywod.

Roedd y canrannau uchaf i'w gweld yn siroedd Conwy, Gwynedd a Phenfro - sef 19% - erbyn 31 Ionawr.

Mae Mai Jones o'r Fenni yn un o'r rhai sydd wedi gweld pethau'n anodd yn ddiweddar.

Cyn y pandemig roedd hi newydd ddechrau swydd newydd rhan amser mewn meithrinfa, ond ers mis Rhagfyr mae hi wedi bod ar ffyrlo.

Mae Mai, sydd ddim yn bwyta allan yn aml, fel arfer yn arbed arian trwy'r flwyddyn er mwyn cael teithio neu brynu dillad, ond mae byw ar 80% o'i chyflog am fisoedd bellach yn golygu blaenoriaethu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mai Jones wedi bod ar ffyrlo ers mis Rhagfyr

"Yn gyntaf, ni ddim yn gallu teithio. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus pan 'dan ni'n prynu bwyd - does dim arian i brynu pethau neis ac mae'n rhaid i ni beidio defnyddio gormod o drydan.

"Mae gen i ddau o blant hŷn adre' ac mae'n nhw hoffi mynd ar yr iPad ac ar gemau a pethau ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio defnyddio gormod ar y wi-fi.

"Mae'n anodd iawn achos ti mo'yn popeth i dy blant yn dwyt ti, ac mae gorfod tynnu pethau'n ôl oddi wrthyn nhw ddim yn beth da."

Wrth i gyflogau'r rhai sy'n cael eu talu orau aros yr un peth yn ystod y pandemig, mae nifer wedi gallu arbed arian gan nad ydyn nhw'n gwario ar wyliau na phrydau bwyd mewn bwytai.

Mae adroddiad gan Fanc Lloegr wedi darganfod bod 42% o o aelwydydd incwm uchel wedi arbed mwy o arian na'r arfer yn ystod y pandemig - o'i gymharu â 22% o aelwydydd sydd ar incwm isel.

Yn wahanol i ddirwasgiadau yn y gorffennol, mae prisiau tai wedi codi'n sylweddol - cynnydd o 8.5% yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Nifer yn adnewyddu tai

Dywed un cwmni teuluol, Quality Carpets Direct, sy'n gwerthu carpedi yn ne Cymru eu bod nhw wedi gallu manteisio ar y cynnydd yn y nifer sy'n diweddaru eu tai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni carpedi Jamie a Richard Price wedi elwa wrth i bobl adnewyddu eu tai

Yn ôl Richard Price o'r busnes, mae cwsmeriaid wedi "arbed arian drwy beidio mynd ar wyliau, drwy beidio mynd allan gymaint ac mae nhw'n hapus i wario ychydig o'r arian yna yn gwella eu cartrefi, ar baent ac ar garpedi".

"Pan mae pobl yn eu tai drwy'r amser maen nhw eisiau iddo edrych yn neis a gwneud y gorau ohono ac mae hynny wedi bod o fantais i ni."

Mae ymchwil gan y Nuffield Trust a Phrifysgol UCL, dolen allanol yn Llundain yn cefnogi'r canfyddiad bod gwahaniaeth ym mhrofiadau y sawl sydd ar incwm isel ac ar incwm uchel.

Yn ôl eu hadroddiad, Astudiaeth Cymdeithasol Covid-19, mae bron i hanner (47%) o bobl Cymru oedd yn ei chael hi'n anodd yn ariannol cyn y cyfnod clo cyntaf yn ei chael hi'n anoddach fyth nawr.

Mae 29% yn dweud nad yw eu sefyllfa ariannol wedi gwella na gwaethygu.

Mae profiad y rhai oedd yn gyfforddus yn ariannol cyn y pandemig yn wahanol iawn.

O'r grŵp yma, dim ond 21% sydd â llai yn eu pocedi, tra bod 29% â mwy yn eu pocedi nag oedd ganddynt y llynedd.

'Gwasgu gwirioneddol'

Yn ôl Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan, mae'r rhai sydd ar y cyflogau isaf yn fwy tebygol o fod wedi gweld pethau'n anodd yn ariannol oherwydd y pandemig.

Dywedodd: "Mae hynny'n golygu torri'n ôl ar hanfodion fel gwresogi'r tŷ, bwyd i oedolion, neu orfod benthyg arian neu mynd i ddyled.

"Mae nifer o bobl ar y cyflogau isaf wedi cael eu heffeithio yn galed iawn gan y cyfnod clo. Maen nhw wedi bod yn fwy tebygol o beidio gallu gweithio o adref, mae nifer wedi cael eu rhoi ar ffyrlo ac felly yn cael 80% o gyflog oedd yn isel yn barod, neu o bosib ddim yn cael incwm o gwbl ar ôl colli swydd.

"Ar yr un pryd mae costau byw wedi cynyddu yn sylweddol i nifer yn y grwpiau yma. Wrth i weithio o adref olygu gwario mwy ar gynhesu ein tai ac ar drydan dyw'r rhai sydd ar gyflogau isel ddim wedi gallu arbed arian drwy beidio mynd ar wyliau neu beidio bwyta allan.

"Doedd nifer o'r bobl yma ddim yn gallu cymdeithasu, beth bynnag, ar y penwythnos.

"Mae'r cyfuniad o'r ddau ffactor yna yn golygu bod 'na wasgu gwirioneddol wedi bod ar y grŵp yna oedd yn ei chael hi'n anodd yn barod."