Sut brofiad ydy bod ar ffyrlo am 12 mis?
- Cyhoeddwyd
 hithau'n flwyddyn ers y cyfnod clo cyntaf, i Sian Griffiths mae hi hefyd yn flwyddyn ers i'w gweithle gau.
Roedd Sian, sy'n byw yn Rhyd-y-clafdy, Gwynedd, yn gweithio mewn gwesty yng Nghricieth pan gafodd ei rhoi ar ffyrlo 12 mis yn ôl.
Yn ogystal â'r her ariannol, dywedodd bod y cyfnod wedi ei heffeithio'n feddyliol hefyd.
"Aeth y lle mewn i lockdown. Aeth yr hotel lle dwi'n gweithio cau lawr a mi aethon ni gyd ar ffyrlo," meddai Sian.
"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, stressful hefyd. 'Da chi ddim yn gwybod be sy'n mynd i fod o un wythnos i'r llall.
"Mae'n dda bod y gŵr yn gweithio - mae hynna wedi helpu."
Ychwanegodd: "'Da ni wedi gorfod iwsio ein savings a bob dim i fyw ac mae o yn anodd.
"Da chi chi jyst byw ar gardiau, cyflog y gŵr na'r oll sydd gennoch chi i fyw ar. Da ni'n trio talu'r cardiau yn ôl ond mae'n anodd."
"Mae o yn cael fi lawr yn aml," ychwanegodd Sian.
"Mae 'na ambell i ddiwrnod lle dwi yn stryglo a meddwl dwi isio codi yn bore cario mlaen i wneud yr un peth.
"Mynd i 'ngwely yn nos, 'da chi'n mynd i godi y diwrnod wedyn i wneud yr un peth.
"Mae'n braf gwybod bod 'na olau yn mynd i ddod yn y diwedd, a mae'r vaccine i weld yn helpu yn tydi.
"Dwi'n gobeithio cael dechra'n ôl yn gwaith ym mis Ebrill ond mae'n dibynnu sut mae pethau yn mynd eto dydi.
"Edrych ymlaen i gael mynd yn ôl i realiti."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021