Blwyddyn gohebydd: Colled a charedigrwydd cefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Flwyddyn ers y cyfnod clo cyntaf, dyma gofnod Iola Wyn o'i blwyddyn yn gohebu ar gyfer Cymru Fyw yng nghymunedau'r de-orllewin.
"Cerwch nôl fis, bydde ni byth 'di meddwl y bydde'r feirws 'ma wedi cyrraedd Cymru, heb sôn am bentre' bach Efailwen... ond mae e wedi."
Roedd geiriau torcalonnus Rhodri Lewis yn Ebrill 2020, rai dyddiau wedi iddo golli ei fam, Undeg, i Covid-19 yn gyllell trwy galon pob cymuned wledig.
Dyna'r eiliad frawychus pan sylweddolwyd, nid yn unig bod y feirws yn ymledu'n gyflym trwy gymunedau bychain, ond fod ganddo'r gallu i chwalu bywydau teuluoedd, cymdogion a ffrindiau.
Y Gymraeg yw'r llinyn euraidd sy'n rhedeg drwy bob cymuned yn yr ardal - pawb yn adnabod ei gilydd, a phawb yn adnabod Undeg.
A gyda tharddiad tebygol y feirws 6,000 o filltiroedd tua'r dwyrain, dyna oedd mor anodd i'w amgyffred.
Roedd Covid-19 wedi sleifio i mewn i gymunedau gwledig diarffordd hyd yn oed, a'r cymunedau hynny yn profi creulondeb y feirws yn ddyddiol, ac yn dal i ddioddef hyd heddiw.
Yn y cymunedau hyn, roedd straeon i'w hadrodd. Y cyfan o bellter, yn y modd mwyaf diogel. Roedd nerfusrwydd i'w deimlo.
'Dieithr, ac ofnus'
Yng ngeiriau'r cynghorydd lleol Jean Lewis ar ei fferm rhwng Meidrim a Threlech fis Hydref diwethaf.
"Dwi'n nabod nifer sydd ddim wedi bod i unman poblog, dwi'n un ohonyn nhw - dwi ddim wedi bod i'r dre'."
Bum mis yn ddiweddarach, ac mae pobl yn dal i ddweud wrtha' i nad ydyn nhw wedi mentro i dref Caerfyrddin ers mis Mawrth diwethaf.
Mewn ardal wledig, mae cymysgu â phobl eraill bellach yn brofiad dieithr, ac ofnus.
Ac mae'n anodd rhagweld pryd y daw'r hyder yn ôl, i fod yng nghwmni eraill mewn torf unwaith eto, neu mewn neuadd bentref o dan ei sang.
Gydag eira yn amgylchynu ei chartref yng Nghrymych fis Ionawr, doedd Winnie James-Phillips ddim yn or-awyddus i fentro allan i ddigwyddiad torfol yn y dyfodol agos.
"Gobeithio y byddwn ni o'r hyn i'r Dolig yn medru cael rhyw gonsert," meddai.
"Dwi'n credu y bydde hynny'n well na bo' ni'n mynd i gal pryd o fwyd, achos o leia' bydde 'da ni fwgwd dros ein pennau."
A'r frawddeg sydd wedi ei serio yn fy nghof: "O'ch chi arfer cal cwtsh a chal cusan - 'na deimlad neis o'dd e. Ond ma' popeth wedi mynd dan y drws. Ni fel 'se ni ddim yn ffrindie i'n gilydd rhagor."
A blwyddyn o ddiflastod fu hi i nifer, yn enwedig i'r unigolion a oedd wedi arfer bod yn brysur, yn cyfrannu i amrywiol gymdeithasau a gweithgareddau.
"O'r blaen o'n i'n twyllo fy hunan bo' fi ddim yn hen am 'y mod i'n galafantan i bobman," dywedodd Margarette Hughes o Hendy-gwyn ar Daf wrtha'i fis Ebrill.
"Ond nawr bo' fi ddim, a bod amser 'da ni i feddwl am y peth, ni'n sylweddoli, wel ni YN hen."
'Bywyd yn ddiflas iawn'
Mewn cymunedau gwledig, mae gwahanol genedlaethau yn cyd-gymdeithasu ac yn cefnogi ei gilydd.
Fis Hydref, ar drothwy cyfnod cymdeithasol hynod o brysur fel arfer, rhwng y capel a'r Ffermwyr Ifanc, Dawnswyr Talog ac Aelwyd Hafodwenog, roedd dyddiadur Lili Thomas o blwyf Penybont yn arfer bod yn llawn.
A hithau'n hyfforddi a chynorthwyo pobl ifanc, roedd hi'n colli cwmnïaeth y genhedlaeth iau.
"Gyda'r bobl ifanc - 'na beth yw mywyd i 'di bod erioed, cefnogi popeth yn yr ardal. O'n nhw'n tonic. Ac ma' bywyd hebddyn nhw yn ddiflas iawn iawn."
Wrth i'r genhedlaeth hŷn orfod hunan-ynysu fis Ebrill, daeth caredigrwydd y genhedlaeth iau yn amlwg.
"Ma' nhw wedi'n cefnogi ni dros y blynyddoedd," meddai Elliw Dafydd o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro'r Dderi, wrth iddi gludo bwyd i Janet Evans yn Llanbed.
"Y peth lleia' ellwn ni 'neud yw rhoi rhwbeth yn ôl, a'u cefnogi nhw nawr."
'Ffaelu mynd i siarad, i gwrdd, i gwtsho'
Yn clymu pob cymuned, roedd yr awydd i ddiolch i weithwyr allweddol. Fe daeth hi'n arferiad i glapio bob nos Iau.
Fe dreuliais i noson braf fis Mai ym mhentref Blaenycoed rhwng Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn, wrth i'r gymeradwyaeth wythnosol atseinio drwy'r cwm am 8 o'r gloch.
10 mis yn ddiweddarach, a thaith yn ôl i Flaenycoed i asesu'r teimladau wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws lacio'n raddol unwaith eto.
Yn wahanol i Fai diwethaf, dyw Sioned Page Jones a'i mam Elsbeth Page ddim yn gorfod cadw ar wahân bellach.
Mae hynny'n gysur, ond mae effaith y flwyddyn ddiwethaf yn boenus o glir: "Y golled fwya' i fi yw'r capel", meddai Elsbeth.
"Ni'n gweld ishe cyd-aelodau a'r cymdeithasu. Ac un peth ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hyn yn y pentre' - fe gollon ni fam ifanc a ninne ffaelu mynd i siarad, i gwrdd, i gwtsho, dim byd - ma hwnna di bod yn greulon."
Mae Sioned yn dawel hyderus y daw pethau'n ôl i'r arfer, pan fydd hynny'n bosibl.
"'Wi 'di bod yn meddwl am hyn dipyn yn ddiweddar", meddai.
"Fi'n credu y bydd pobl yn edrych m'laen i fynd 'nôl. Falle bydd bach o ansicrwydd gydag ambell un yn meddwl a ydy pethe'n mynd i fod yr un peth. Ond pwyll pia'i.
"Ma' ishe i ni ddefnyddio bach o synnwyr cyffredin a mynd 'nôl pan mae'n iawn i fynd 'nôl."
Mae ei mam yn llai hyderus: "Ni 'di colli hyder yn dy'n ni, am y rheswm bo' ni ddim yn gallu gweld beth yw'r feirws hyn.
"'Den ni ddim yn gallu dweud 'O, mae e arno ti,' neu, 'Dyw e ddim fan hyn'. Mae e'n cwato yn dyw e, a bydd rhaid i ni benderfynu yden ni'n mynd mas, neu yw hi'n well i ni aros adre."
A phryder mwyaf Elsbeth yw effaith blwyddyn o bandemig ar blant a phobl ifanc.
"I rywun fel fi, mae e 'di bod eitha da i fod gatre - ma' 'da fi fwy yn fy mhoced! Ond i ieuenctid a phlant - cha' nhw fyth y dyddie hyn 'nôl eto."
Fel mam fy hun, mae'r geiriau hynny yn un o wirioneddau mawr yr argyfwng hwn. A hyd a lled y golled honno, eto i'w mesur.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020