'Arhoswch adre': Apêl gan deulu menyw fu farw â Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ar ôl methu ymweld â hi yn yr ysbyty, mae teulu Undeg Lewis wedi rhoi teyrnged iddi.

"Rai misoedd yn ôl, fydden i byth wedi dychmygu y byddai Covid-19 yn cyrraedd Cymru - heb sôn am bentre' bach Efailwen - ac yn cipio ein mam oddi wrthon ni."

Geiriau torcalonnus wrth i ardal Crymych a thu hwnt gael ei llorio gan y newyddion am farwolaeth un o heolion wyth y gymuned.

Yn 59 oed, roedd Undeg Lewis yn wraig, yn fam i dri o blant, yn ferch, chwaer a modryb.

A than yr wythnosau diwethaf, roedd hi'n gweithio yn garej Siop y Frenni, Crymych.

Roedd hi hefyd yn glerc Cyngor Cymuned Crymych ac yn ysgrifennydd papur bro Y Cardi Bach.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu Lewis ar ddiwrnod graddio Rhodri

"Dda'th dad adre o'r gwaith yn dechre' peswch, a'r diwrnod wedyn o'dd mam yn peswch," meddai mab hynaf Undeg a Tudur Lewis, Rhodri.

"Buodd mam yn y gwely am ryw 12 diwrnod, ac yna dydd Llun, a'th hi'n brin o anadl, ac a'th dad â hi lawr at y doctor."

Cafodd Mrs Lewis ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ar 6 Ebrill.

A 36 awr yn ddiweddarach, cafodd bywyd y teulu ei chwalu.

'Methu bod yna iddi'

"Na'th popeth ddigwydd mor glou," meddai Rhodri wrth raglen Newyddion.

"Fel arfer pan ma' rhywun yn yr ysbyty, byddech chi'n gallu bod yna gyda nhw nes yr eiliadau ola', ond achos y cyfyngiade, o'n i methu bod yna iddi hi."

Mae'r teulu Lewis yn hynod ddiolchgar i'r gymuned gyfan am eu caredigrwydd, ac yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth a'r tristwch wrth i berthnasau a ffrindiau orfod cadw draw o'u haelwyd yn Efailwen.

"Dwi wastad yn gwybod bo' ni'n byw mewn cymuned glos a ma' teulu anhygoel 'da ni, ond mae wedi bod yn galed i beidio gweld pobl," meddai Rhodri.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gwyndaf, Rhodri, Nia, Tudur ac Undeg Lewis ar ddiwrnod graddio Nia

Mae Nia, chwaer Rhodri, yn byw yn ardal Bangor ac oherwydd y cyfyngiadau, dyw hi ddim wedi medru dychwelyd at ei thad a'i brodyr yn Efailwen.

Mae hi bellach gyda pherthnasau yn yr ardal gyfagos.

"Dyw Nia ddim yn medru aros 'da ni fyn hyn, a ma' hynny 'di bod yn ofnadw o galed," meddai Rhodri.

"A dy'n ni ddim yn medru gweld mam-gu a dad-cu chwaith, na chwiorydd mam."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae gŵr Undeg Lewis, Tudur yn erfyn ar bobl i ddilyn y cyngor i aros adref

Mae neges Rhodri Lewis yn boenus o glir i unrhyw un sy'n ystyried gadael ei gartref pan nad yw'r daith yn angenrheidiol.

"Arhoswch adre - plîs gwrandewch ar y llywodraeth," meddai.

"Cerwch nôl fis, fydden i byth wedi meddwl y bydde'r feirws yma yn cyrra'dd Cymru - heb sôn am bentre' bach fel Efailwen - ond mae e wedi, felly plîs arhoswch adre.

"Yn yr wythnose ddiwetha', o'n i, dad, Gwyndaf, Nia a mam wedi bod yn sôn bo' ni ddim yn nabod neb sy' wedi marw o Covid-19, ond wythnose wedyn, ni yn y sefyllfa hon."

'Er mwyn eich hunain a phawb arall'

Mewn teyrnged ddirdynnol ar y cyfryngau cymdeithasol, mae gŵr Undeg Lewis, Tudur yn apelio ar bawb i aros adref

Ysgrifennodd: "Er mwyn eich hunain a phawb arall. ARHOSWCH ADRE ER MWYN CAEL MWY O GYFLE I AROS YN FYW.

"Gyda chymorth Rhodri, Gwyndaf a Nia, sydd yn profi i fod yn graig o nerth i mi chwarae teg iddynt, yn ogystal â'm teulu hoff a ffrindiau lu - yng ngeiriau dau arwr a ffrindiau oes i mi, sef Tecwyn Ifan a Dafydd Iwan - mae ysbryd Rebecca yn fyw yn yr Efailwen ac er gwaetha' pawb a phopeth rydym yma o hyd."

Bydd mwy ar y stori yma ar Newyddion, S4C am 17:50 ddydd Sul.