Ymgyrch i godi cerflun Cranogwen yn Llangrannog
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi ei sefydlu i godi cerflun i'r forwraig, bardd, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen.
Wedi ei geni yn 1839 a'i magu yn Llangrannog, mae grŵp o fenywod o'r ardal wedi dechrau'r ymgyrch er mwyn dathlu ei gyrfa arloesol.
Bydd lansiad cyhoeddus Cerflun Cranogwen trwy gyfrwng y we.
"Y Gymraes fwyaf eithriadol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac arloeswraig" - mae sawl disgrifiad am yr hyn a gyflawnodd Cranogwen.
Wedi ei geni wrth y môr, daeth yn brif forwraig a dysgu'r grefft i eraill.
Roedd hi'n brifathrawes yn Ysgol Gynradd Pontgarreg gerllaw. Hi oedd y ddynes gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod.
Wedi iddi gyrraedd rhestr fer pleidlais ddiweddar gan y BBC i godi cerflun i arwres o Gymru, penderfynodd rhai o fenywod ardal Llangrannog a Phontgarreg bod angen parhau â'r fenter i anrhydeddu Cranogwen.
"Wrth gwrs, ro'n i eisie i Cranogwen i ennill pleidlais y BBC," meddai Carys Ifan, un o drefnwyr yr ymgyrch, "ond eto, o'n i ddim eisie cerflun o Cranogwen yn Nghaerdydd.
"O'n i eisie cerflun ohoni fan hyn yn Llangrannog. Ac ry'n ni'n lwcus iawn fod aelodau o Monumental Welsh Women wedi dechrau codi arian yn barod i gael cerflun o Cranogwen, ac ry'n ni'n cydweithio'n agos â nhw nawr er mwyn gneud yn siŵr fod hyn yn dod yn wirionedd."
'Hollol ffyddiog y daw hwn i'r fei'
Y nod yw codi £10,000 ac mae Carys Ifan yn hyderus y bydd cefnogaeth i'r fenter.
"O'dd Cranogwen mor arloesol - yr hyn wnaeth hi mewn gymaint o feysydd amrywiol. O'dd hi wir yn arwres.
"O fod yn fardd i fod yn forwraig i newyddiadurwraig - o'dd hi'n gwneud y cyfan mewn cyfnod pan nad oedd menywod yn gwneud y pethe yma. Dwi'n hollol ffyddiog y daw hwn i'r fei."
Gyda Gwersyll Yr Urdd Llangrannog gerllaw, byddai cerflun Cranogwen yn cyfoethogi teithiau cerdded y gwersyllwyr yn ôl cyfarwyddwraig y ganolfan, Lowri Jones.
"Ni fel gwersyll wastad yn annog gwersyllwyr ac ysgolion wrth iddyn nhw ymweld â'r pentref, i ymweld â'r fynwent a gweld bedd Cranogwen a chael pwt o'i hanes hi.
"A dwi'n meddwl y bydd e'n wych o beth fod plant a phobol ifanc ar draws Cymru yn dod i 'nabod a gweld Cranogwen drwy'r cerflun hwn. Mae'n holl bwysig i Langrannog a Chymru gyfan mewn gwirionedd."
Ac mae Carys Ifan yn gobeithio y bydd y prosiect yn agor sawl drws.
"Mae'n ddiddorol iawn y pethe sydd wedi cael eu gadael ar ei hôl hi fan hyn. Ry'n ni'n meddwl bod ei llawysgrifen hi yn rhai o'r tai yn y pentre' hefyd. Felly mae'n ddiddorol iawn ar ddechrau'r prosiect yma, beth falle gaiff ei ddatgelu hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019