Alex Humphreys: Fy mywyd mewn gemau

  • Cyhoeddwyd
Alex Humphreys

A hithau'n wythnos Gŵyl Gemau Llundain a Gwobrau Gemau BAFTA, mae'n gyfle da i drafod y rôl mae gemau wedi'i chwarae yn fy mywyd.

Nid yw fy mhrofiad i o gemau fideo yn cyd-fynd â chred nifer o bobl eu bod yn ddrwg i'n hiechyd ac yn annog ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Mae profiad llawer o bobl o'r diwydiant yn seiliedig ar benawdau negyddol sy'n codi ofn arnynt.

Er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod Gaming Disorder fel cyflwr iechyd meddwl, mae llawer mwy i'r diwydiant os edrychwch chi o dan yr wyneb. Mae profiadau gwerthfawr i'w cael o fewn byd gêm.

Mae'r stigma yma a sylwadau fel "mae gemau fideo i blant" neu "maen nhw'n wastraff amser" wedi fy nal yn ôl rhag cyfaddef bod chwarae gemau fideo yn un o fy mhrif ddiddordebau.

Ffynhonnell y llun, Alex Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Alex yn blentyn: "Mae cymunedau'n ffynnu o fewn gemau, ac yn helpu pobl sy'n dioddef ag unigrwydd"

Dwi'n deall rŵan mai diffyg dealltwriaeth o gemau sydd wrth wraidd yr agwedd yma. Fe allech chi honni: onid yw treulio oriau'n binjo cyfres newydd Line of Duty yn wastraff amser yn yr un modd?

Er fy mod yn hoff iawn o Line of Duty, mae 'na rywbeth am chwarae gemau sy'n rhoi mwy i fi na jyst yr adloniant o wylio drama. Mewn gêm 'dach chi'n rheoli a rhyngweithio gyda'r stori ac mae'r daith honno yn gallu sbarduno diddordeb mewn maes cwbl wahanol.

Rheolaeth a rhyddid

Wythnos diwetha', cafodd ffigyrau newydd eu cyhoeddi oedd yn dangos bod 'na gynnydd mawr mewn gwerthiant gemau a chonsols. O ystyried y flwyddyn ddiwethaf, does dim syndod i mi bod gemau wedi helpu pobl. Credaf bod hynny oherwydd bod gemau fideo yn rhoi dau beth pwysig i ni: rheolaeth a rhyddid. Pan 'dan ni'n chwarae gêm, ni sy'n rheoli'r stori.

Pan aeth y wlad i mewn i'r cyfnod clo cyntaf, doedden ni ddim yn gallu rheoli lot o bethau yn ein bywydau, ond roedden ni'n gallu chwarae gêm a phrofi rheolaeth yn fanno - peth bach efallai, ond yn seicolegol bwysig.

Fe gollon ni ryddid dros nos, ond mewn gêm 'dan ni'n gallu mynd i le bynnag dan ni eisiau, pryd bynnag dan ni eisiau. Er enghraifft, un o'r gemau wnaeth fy helpu i ymdopi gyda phwysau'r cyfnod clo oedd Zelda: Breath of the Wild.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae fy swydd yn cyflwyno teledu byw yn dod ag adrenalin dyddiol, ac mae gemau fideo yn fy helpu i ymlacio"

Roedd carlamu ar gefn ceffyl dros gaeau gwyrddlas rhithiol fel therapi i fi. Yn yr un modd roedd rasio car yn Forza Horizon 4 yn ymlaciol, yn enwedig gyda Zadok the Priest gan Handel neu Symffoni rhif 40 Mozart ar orsaf radio'r car!

Caniataodd y gêm boblogaidd, Minecraft, i chwaraewyr ail-greu ac 'ymweld â' llefydd go iawn nad oedd modd teithio iddynt: Chicago; y Taj Mahal; hyd yn oed Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn.

Yn ogystal â rhoi'r cyfle i ni ddianc i fyd gwahanol, mae gemau'n rhoi'r rhyddid i ni gwrdd â'n ffrindiau heb adael y tŷ. Mae plant wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd, ond mae nifer fawr o oedolion wedi gweld gwerth yn hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cymunedau'n ffynnu o fewn gemau, ac yn helpu pobl sy'n dioddef ag unigrwydd.

Rhai o fy hoff gemau

Leander(Traveller's Tales / Psychosis)

Gêm syml lle mae'r marchog Leander yn teithio trwy fydoedd gwahanol i achub tywysoges, gan brynu arfwisgoedd o wahanol liw a chleddyfau gwell ar y ffordd. Y gerddoriaeth oedd y prif reswm o'n i'n caru'r gêm yma. Ar gyfrifiadur yr Amiga Commodore o'n i'n ei chwarae hi, yn nhŷ Nain a Taid. O'n i tua 9 neu 10 oed ac mae'r gerddoriaeth wedi aros hefo fi. Ro'n i'n teimlo bod y gerddoriaeth yn adrodd stori heb eiriau.

Ffynhonnell y llun, Leander
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm Leander

Dyma un o'r rhesymau pam mae gen i gariad mawr at gerddoriaeth ac fy mod wedi astudio'r pwnc yn y brifysgol. Rhyw flwyddyn yn ôl, nes i chwilio am fwy o wybodaeth am y gerddoriaeth yma arlein, a darganfod mai Cymro oedd yn byw yn y Wirral gyfansoddodd hi - Tim Wright! Treuliais ran o fy mhlentyndod yn chwarae'r gêm hudolus yma, heb syniad bod y cyfansoddwr yn byw ychydig o filltiroedd lawr y lôn!

Grim Fandango (LucasArts)

Fy hoff gêm, heb os, yw'r gêm antur point and click o'r 90au. Y stori wnaeth fy nenu at y gêm: mae fel cyfuniad o'r ffilm Casablanca, stori fytholeg o fyd yr Asteciaid, ac elfennau o draddodiadau Mecsico. 'Dach chi'n chwarae fel dyn o'r enw Manny Calavera. Mae o wedi marw ac yn chwilio am ferch o'r enw Mercedes Colomar ac mae'r ddau ohonyn nhw'n ceisio cyrraedd lle o'r enw Ninth Underworld (creda'r Asteciaid fod yna naw lefel mae'n rhaid i bobl deithio trwyddi cyn cyrraedd y Gorffwys Tragwyddol.)

Ffynhonnell y llun, Grim Fandango

Mi wnaeth chwarae'r gêm hon yn fy arddegau sbarduno diddordeb mawr mewn gwaith celf art deco a film noir. Defnyddiais elfennau o waith celf Grim Fandango fel ysbrydoliaeth i fy ngwaith cwrs Lefel A Celf. Yn ogystal â hyn, y gêm hon sy'n gyfrifol am fy niddordeb mewn mytholeg.

Roedd cerddoriaeth y gêm yn syfrdanol. Mae soundtrack Peter McConnell wedi'i hysbrydoli gan jazz a cherddoriaeth draddodiadol Mecsico. Mae 'na un rhan o'r gêm lle mae cân sy'n defnyddio offerynau traddodiadol fel y charango a pan-flutes. Dwi'n cofio stopio chwarae'r gêm yn y fan a'r lle er mwyn gwrando ar y gerddoriaeth.

Tim Schafer yw'r dyn sy'n gyfrifol am greu Grim Fandango. Ges i'r fraint o'i gyfweld yn San Francisco yn 2019, ar gyfer rhaglen ar gemau fideo i BBC Radio 4, What's in a Game? Un o uchafbwyntiau fy nghyrfa.

Worldof Warcraft (Blizzard Entertainment)

Yn ystod gwyliau haf fy nyddiau prifysgol, es i nôl adre i Sir y Fflint a threulio lot o amser yn chwarae World of Warcraft, sef gêm ffantasi fyd agored lle ti'n dewis ac addasu dy gymeriad dy hun (o'n i'n Night Elf Priest o'r enw Lupé) a theithio trwy fyd lliwgar, hudolus o'r enw Azeroth yn cwblhau heriau. Mae'n gêm arlein, felly mae'n bosib cwrdd â chwaraewyr eraill o fewn y gêm, ac un ai chwarae ar ben dy hun neu gydweithio gyda grwpiau wrth symud drwy'r gêm.

Dwi'n cofio chwarae gyda merch o'r Almaen ar un adeg. Doedd gen i ddim syniad sut oedd hi'n edrych yn y byd go iawn, ond dyna oedd rhan o'r hwyl: cael cyfeillgarwch gyda rhywun am gyfnod byr, cyn symud ymlaen ar daith o fewn y gêm. Roedd y gêm hon yn rhoi escapism i fi fel dim byd arall.

Mae fy swydd yn cyflwyno teledu byw yn dod ag adrenalin dyddiol, ac mae gemau fideo yn fy helpu i ymlacio'n well nag unrhyw lyfr neu raglen deledu achos rhyngweithio gyda'r gêm yw'r unig beth sy'n bwysig ar y pryd.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig