Joe Allen i fethu gemau Mecsico a'r Weriniaeth Siec

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images

Fydd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen ddim yn holliach i wynebu Mecsico na'r Weriniaeth Siec yn dilyn anaf yn erbyn Gwlad Belg nos Fercher.

Gadawodd Allen y cae ar ôl ychydig funudau o'r ornest, wrth i'r crysau cochion golli eu gêm gyntaf yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022.

Honno oedd ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers 2019, ar ôl treulio'r rhan fwyaf o llynedd yn gwella o anaf i'w sawdl.

"Rydyn ni wedi colli Joe, sy'n siom enfawr i ni," meddai'r rheolwr dros dro, Robert Page.

Canfed i Chris

Bydd Cymru'n croesawu Mecsico i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm gyfeillgar nos Sadwrn, tra bod y Weriniaeth Siec yn wynebu Gwlad Belg mewn gêm ragbrofol ar yr un pryd.

Bydd y Weriniaeth Siec wedyn yn teithio i Gaerdydd ar gyfer gêm ragbrofol arall nos Fawrth, wrth i Gymru geisio sicrhau eu pwyntiau cyntaf yn yr ymgyrch.

Mae'r chwaraewr canol cae Aaron Ramsey a'r amddiffynwyr Ben Davies, Tom Lockyer a James Lawrence eisoes wedi gorfod gadael y garfan, tra bod Brandon Cooper wedi cael ei ychwanegu o'r tîm dan-21.

Cadarnhaodd Page y bydd Chris Gunter yn gapten ar y tîm yn erbyn Mecsico, gan ennill ei 100fed cap yn y broses.

"Mae'n chwaraewr mor broffesiynol ac yn llawn haeddu 100 o gapiau, a'r clod fydd yn dod o hynny," meddai.