Ymgyrch Cwpan y Byd 2022: Gwlad Belg 3-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Thorgan HazardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Peniad Thorgan Hazard roddodd Gwlad Belg ar y blaen

Am gyfnod a'r ddechrau'r gêm roedd Cymru unwaith eto yn bygwth sioc yn y byd pêl-droed ar ôl mynd ar y blaen yn erbyn Gwlad Belg, y tîm sydd ar frig y detholion y byd.

Hon oedd eu gêm gyntaf yn y rowndiau rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022.

Aeth Cymru ar y blaen o'u hymosodiad cyntaf, gyda Connor Roberts a Gareth Bale yn cyfuno cyn rhyddhau Harry Wilson i sgorio ar ôl symudiad bendigedig.

Ar ôl hawlio'r meddiant am gyfnodau hir, llwyddodd y tîm cartref i ddod yn gyfartal gydag ergyd Kevin De Bruyne yn curo Ward.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Harry Wilson yn dathlu wrth roi Cymru ar y blaen

Aeth Gwlad Belg ar y blaen wrth i Connor Roberts lithro gan adael Thorgan Hazard yn rhydd i benio i gefn y rhwyd.

Er i Romelu Lukaku ychwanegu cic o'r smotyn, fe wnaeth Cymru ddangos mwy o awydd i ymosod yn yr ail hanner, a bydd Robert Page, sydd yng ngofal y tîm dros dro, yn hapus gyda'r perfformiad os nad y canlyniad.

Fe fydd Cymru nawr yn paratoi ar gyfer gêm gartref ddydd Mawrth nesaf yn erbyn y Weriniaeth Siec wnaeth sicrhau buddugoliaeth 6-2 oddi cartref yn erbyn Estonia yng Ngrŵp E.

Mwy na thebyg bydd yn rhaid i Gymru fod heb Joe Allen a fu'n rhaid gadael y cae gydag anaf ar ôl dim ond saith munud.