'Styc mewn paradwys heb feirws': Cymry Seland Newydd
- Cyhoeddwyd
Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio a dim ond tri achos newydd o Covid-19 mewn pythefnos, mae bywyd yn Seland Newydd yn dechrau dod yn ôl i drefn a'r wlad yn cael ei chanmol am y ffordd mae wedi mynd i'r afael â'r argyfwng. Dwy Gymraes sy'n sôn am eu rhyddhad - a'u pryder am eu teuluoedd a ffrindiau nôl yng Nghymru.
"O, roedd gallu rhoi cwtch i bobl eto mor lyfli!"
Ar ôl wythnosau o fyw o dan gyfyngiadau llym, mae Delyth Morgan-Coghlan yn bendant beth oedd yr uchafbwynt iddi hi pan gafodd y rheolau eu llacio yn Seland Newydd.
Fythefnos yn ôl fe wnaeth y wlad symud i 'lefel 2' o reoli'r feirws gan ail agor ysgolion a'r gweithle, agor siopau, ail ddechrau gemau rygbi a gadael i bobl gyfarfod mewn grwpiau o 10. Doedd dim angen esgus arall ar Delyth i fynd am goffi efo ffrind sy'n byw ar yr un ynys a hi.
"Cymraes gafodd y cwtch gynta' gen i! Mae merch o Abertawe o'r enw Lizzie Blosch yn byw ar Waiheke - ni'n gwario lot o amser efo'n gilydd yn mynd i gerdded a gwylio rygbi, a wnaeth hi gysylltu pan oedde ni'n mynd i gyfyngiadau lefel 2 a gofyn 'are you free for a coffee and a cwtch tomorrow?'.
"Roedd yn lyfli ond roeddwn i'n emosiynol iawn yn rhoi'r cwtch - mae'n rhywbeth naturiol i wneud a rhywbeth mor gyfarwydd i ni i ddangos i rywun bod ni'n caru nhw. Mae mor bwysig.
"Ac wedyn ges i text gan ffrind arall yn gofyn os oeddwn i adre a gai ddod rownd i roi cwtch - nes i ddweud 'wrth gwrs' a drodd hi lan. Efallai bod y cyfnod yma am ddangos i bobl beth sydd wir yn bwysig i ni."
Roedd Delyth, sy'n byw ar yr ynys oddi ar y tir mawr ger Aukland ers 13 mlynedd, wedi bwriadu ymweld â Chymru mis Mai ond wedi gorfod canslo oherwydd pandemic Covid-19.
Mae'r ffaith ei bod yn gallu rhoi 'cwtch' i'w ffrindiau yn arwydd o ba mor wahanol ydi ei bywyd hi ar hyn o bryd yn Seland Newydd o'i gymharu gyda'i theulu a'i ffrindiau nôl yng Nghymru.
Dim ond 21 marwolaeth sydd wedi bod yn Seland Newydd a dim ond tri pherson sydd wedi cael cadarnhad eu bod wedi dal y feirws yn y bythefnos ddiwethaf, mewn poblogaeth o bum miliwn. O nos Wener, 29 Mai, ymlaen bydd hawl i hyd at 100 o bobl ddod at ei gilydd mewn priodasau, angladdau a phartïon preifat.
Y feirws 'wedi mynd'
"Os allwn ni gael bythefnos heb achos arall fe fydd y feirws wedi mynd o Seland Newydd - fydd o wedi mynd - sy'n sefyllfa anhygoel i fod ynddo," meddai Delyth.
Draw yn Christchurch, ar Ynys y De, mae Dr Rhian Roberts hefyd yn dod i arfer gyda'r drefn newydd. Mae hi'n barod wedi mwynhau penwythnos i ffwrdd gyda ffrindiau ers i'r wlad llacio'r cyfyngiadau ac wedi mwynhau mynd i fwytai - gan gadw at y rheolau presennol o aros mewn grwpiau o 10.
Fe wnaeth y meddyg teulu ddychwelyd i Seland Newydd bedair blynedd yn ôl, gyda'i gŵr a'u dwy o ferched, ar ôl cyfnod o fyw yng Nghymru.
Y gwahaniaeth mwyaf rŵan o'i gymharu gyda dechrau'r pandemig ydi lefel y straen iddi hi a'i chyd-weithwyr.
"Ar hyn o bryd dwi'n teimlo'n ddiogel iawn yma," meddai.
"Does dim clusters newydd ac oherwydd hynny 'da ni'n siŵr bod yr ymlediad yn y gymuned yn non-existent felly mae'n bywydau ni fel meddygon yn llawer llai stressful.
"Roeddwn i'n bryderus tu hwnt ar y cychwyn, roeddwn i'n gallu gweld beth oedd implications y peth ac roeddwn i'n gwybod mod i'n mynd i fod yn front line yn reit sydyn a dyma fyddai'r tro cynta' ers graddio i mi fod mewn sefyllfa ddifrifol - put our necks on the line am y tro cynta', mewn ffordd. Roeddwn i'n pryderu hefyd achos fyddai'r wlad na'r system methu dygymod petai ni wedi bod yn yr un sefyllfa a Phrydain."
Ddigwyddodd hynny ddim a Phrif Weinidog y wlad Jacinda Ardern a'i chabinet sydd wedi cael y clod am hynny, yn cynnwys gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Fe gafodd cyfyngiadau llym eu cyflwyno yn gynnar iawn yn ystod ymlediad y feirws - pan roedd 102 o achosion yn y wlad a dim un farwolaeth. Caewyd y ffiniau gyda gweddill y byd, gofynnwyd i bawb aros gartref ac fe wnaed gwelliannau i'r system o brofi a chysylltu gyda unrhywun oedd wedi bod yn agos at berson oedd efo'r feirws.
Arafodd yr ymlediad a hyd yma, mae 1,500 wedi dal y feirws, 21 o bobl wedi marw a neb yn yr ysbyty.
"Mae hi'n amazing," meddai Delyth. "Tydi hi ddim eisiau gweld un person yn marw achos mae hi'n teimlo hynny yn ei chalon ac felly gan fod hynny'n bwysig iddi di - bod pob person yn cyfrif - mae hynny'n ganolog i'r penderfyniadau mae hi a'i chabinet wedi gwneud.
"Dwi'n teimlo mor lwcus i fod yma ar y funud ond dwi'n meddwl lot am fy nheulu a ffrindiau adre a dwi'n torri fy nghalon dros rheiny sydd wedi colli eu bywydau achos doedd eu llywodraeth ddim digon dewr i ddweud 'ni'n mynd i wneud hyn'.
"Wrth gwrs da ni am ddiodde' yn economaidd - ond mae pob gwlad yn mynd i ddiodde' boed nhw'n dod lawr yn galed ar y feirws neu beidio."
Ond barn fwy amwys sydd gan Rhian gan rybuddio ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i weld y darlun llawn.
Wrth ganmol llywodraeth Seland Newydd am eu penderfyniadau pendant sydd wedi achub bywydau a'u galluogi i ddysgu mwy am y feirws, mae hi'n dweud y gallai'r wlad fod mewn sefyllfa gwan unwaith fydd rhaid ail-agor ffiniau.
"Dwi ddim yn gwybod os mai ffordd Seland Newydd ydi'r ffordd gywir ymlaen yn y pen draw," meddai. "Mae rhai yn siarad am drio cael herd immunity o fewn gwlad ac yn bersonol alla i weld ella wrach bod hynny'n wir. Ryda ni'n fan yma yn herd efo non-immunity - a dwi'n gofyn weithia os yda ni'n byw mewn rhyw fath o fools paradise yma ar hyn o bryd."
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf heddiw [link]
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Mae'r ddwy Gymraes yn sicr yn gytûn ar ddau beth: pryder am eu teulu a'u ffrindiau nol adref - a phendroni pa bryd fydden nhw yn eu gweld nhw eto.
Aeth Rhian a'i theulu i weld ei rhieni ar Ynys Môn dros y Nadolig - ond mae'r byd yn le gwahanol iawn erbyn hyn.
Methu dychwelyd i Gymru
"Mae'n od achos mae o fel ein bod ni'n edrych o'r tu allan ar ffilm dystopian a pan dwi'n siarad efo mam a dad dwi'n gorfod rhoi fy hun yn eu sefyllfa nhw gan ein bod ni'n swnio mor blase yma," meddai.
"Dwi'n hiraethu - dwi'n iawn o ddydd i ddydd, ond mae gen i hiraeth. Petai nhw'n mynd yn sâl neu rywbeth yn digwydd iddyn nhw, fyddwn i'n cael mynd adra? Mae'n siŵr na fyddwn i. Dwi'n gorfod ynysu hynny yn fy meddwl achos alla i ddim effeithio hynny, ac mae'n rhy boenus i feddwl am y peth.
"Felly mae gen i fy mhryder ar ochr bersonol ond hefyd fel meddyg dwi'n ymwybodol o faint o mor straen oedden nhw danodd cyn hyn dwi ddim yn gwybod sut fydden nhw'n gallu parhau. 'Da ni'n siarad yn aml am burnout yn y byd meddygol ac mae'n bryder."
I Delyth, mae angen bod yn ofalus o effaith seicolegol yr argyfwng yn y ddwy wlad.
"Dwi'n meddwl mai rŵan mae impact y lockdown a'r effaith seicolegol yn dechrau dod i'r wyneb - a ni wedi bod mor lwcus yn fan yma, felly rwy'n becso cymaint am yr effaith nol adre ar deulu a ffrindiau achos mae pawb yno wedi diodde' cymaint mwy achos mae allan o reolaeth yno ac mae cymaint o bobl wedi marw.
"Dwi'n teimlo mor lwcus mod i yma, weithiau dwi'n teimlo'n ddrwg am hynny pan yn meddwl am fy ffrindiau a theulu. Fi'n methu gadael yma, dwi'n styc - ond yn styc mewn paradwys heb feirws."
Hefyd o ddiddordeb: