Cynllun tŷ Bae Ceibwr, Sir Benfro yn 'ddolur i'r llygad'

  • Cyhoeddwyd
Bae Ceibwr
Disgrifiad o’r llun,

Byddai adeilad mwy na'r hyn sydd yna'n barod yn "tarfu ar brydferthwch naturiol" yr ardal, meddai rhai

Mae cynlluniau i ddymchwel tŷ ym Mae Ceibwr a chodi tŷ newydd sbon chwe ystafell wely yn ei le, wedi cael eu disgrifio fel "dolur i'r llygad" ac fel "carbyncl" gan y cyngor cymuned leol.

Mewn llythyr di-flewyn ar dafod at Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Cyngor Cymuned Nanhyfer yn dweud ei fod yn "gwrthwynebu'r cynlluniau" ar gyfer Pencastell yn gryf.

Fe ddisgrifir y golygfeydd fel rhai "eiconig", ac fel un o lefydd mwyaf prydferth Sir Benfro.

Bwriad yr ymgeisydd Andrew Hebard ydy dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ eco gyda chwe ystafell wely ar safle Pencastell.

Yn ôl penseiri'r ymgeisydd, y nod yw creu "tŷ newydd modern ac arloesol" fydd yn "asio gyda'r tirlun".

Ffynhonnell y llun, Kinver Kreations
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r datblygiad newydd posib ym Mae Ceibwr

Mae pobl leol yn pryderu y bydd caniatáu'r datblygiad yn amharu ar brydferthwch naturiol Bae Ceibwr rhwng Trefdraeth ac Aberteifi.

Mae Richard George yn ffermio ar dir cyfagos: "Cafodd Pencastell ei adeiladu rhyw 170 o flynyddoedd yn ôl fel pedwar bwthyn bach i bobl oedd yn gweithio ar ffermydd lleol.

"Mae e wedi cadw yr un siâp a proffil achos mae e mor agos at ochr y graig. Mae e wedi cael ei addasu rhyw 30 mlynedd 'nôl.

"Dwi'n meddwl bod teimladau yn gryf achos mae Ceibwr yn lle unigryw. Mae fe'n rhywbeth sydd ddim wedi newid o gwbl.

"Mae'n naturiol ac mae rhoi rhywbeth fel 'na ar ben y graig yn bach yn hurt, a bod yn onest."

Mae Hedydd Lloyd yn aelod o Gyngor Cymuned Nanhyfer, sydd wedi ysgrifennu llythyr cryf o wrthwynebiad at Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

"Maen nhw wedi 'neud cynllun i gael tŷ dau lawr ac un llawr sydd yna yn barod", meddai.

"Mae'n adeilad isel a chi ddim yn sylwi bod e yna a ddyle fe cael ei gadw yn isel fel mae fe. Bydd e'n tarfu ar brydferthwch naturiol Bae Ceibwr."

Fe ofynnodd BBC Cymru am ymateb gan asiant yr ymgeisydd, Kinver Kreations, ond doedd y cwmni ddim am wneud sylw am ei bod "hi'n rhy gynnar yn y broses gynllunio".

Mae disgwyl i'r cais gael ei drafod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod y misoedd nesaf.