Etholiad Senedd Cymru 2021: Barn pobl Sarn ger Pen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Wrth i etholiad Senedd Cymru ddod yn nes mae Garry Owen, gohebydd arbennig Dros Frecwast, ar daith etholiadol o gwmpas Cymru. Ei fwriad yw ymweld â mannau sy'n dechrau â'r llythrennau sy'n ffurfio y gair SENEDD ac mae ei daith wedi cychwyn fore Llun yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Wrth iddo holi pa bynciau a ddylai gael sylw yn ystod yr ymgyrch ac wedyn - dyma rai o'r atebion.
Barn disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Lleucu: "Un or pethe amlwg sy'n bwysig yw y GIG. Mae y pandemig wedi uwcholeuo lot o brobleme sylfaenol yn y GIG, a dylen nhw fod wedi cael ei sortio mas cyn y pandemig. Fi'n edrych mas i weld be neuth y pleidiau i ddatrys y problemau sylfaenol yna."
Arwen: "Mae'n gyfle i ni gael llais [fel pobl ifanc sy'n cael pleidleisio]. Mae e'n beth newydd a phetai ni ddim yn cymeryd y cyfle hwn i bleidleisio fe fyddai hynny yn wastraff.
"Mae angen mwy o fuddsoddiad a staff ar y gwasanaeth iechyd ac angen iddo fe fod yn fuddsoddiad dros amser, ond mae angen dechre nawr."
Joseph: "Ar ôl y pandemig mae pawb yn gobeithio y gallwn ni ddod nôl ar ein traed. Rwy'n gobeithio yn y dyfodol y gallai i gyfrannu i'r economi fel bod yr economi a gwasanaethau ar gael wedyn i helpu pawb."
Layla: "Gobeithio bydd mwy o ymchwil i farn pawb o bob oedran a rhyw a gobeithio y bydd e'n 'neud gwahaniaeth mawr o ran sut i ni i gyd yn byw yn y dyfodol."

Barn myfyriwr prifysgol
Gruff Edwards - Myfyriwr gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd: "Bydd angen i iechyd gymryd canol y llwyfan yn yr etholiad yma gan edrych ar effaith y pandemig ar bawb nid jyst y gwasanaethau, er enghraifft bydd angen trafod y backlog o ran triniaethau sy angen delio â nhw . Bydd angen ymateb ariannol a strwythurol i ailadeiladu y GIG.
Barn Robert Evans sy'n byw ym Maesteg
"Mae Covid wedi taro Cwm Llynfi a Phen-y-bont yn galed iawn. Mae angen r'wbeth arno ni er mwyn ailadeiladu yn gryfach nawr i'r dyfodol mewn sawl maes.
"Mae lot o bobol yn pendroni o lle ddaw yr arian i ardal fel hon i helpu, yn enwedig yn sgil Brexit.
"Mae trafod iechyd yn bwysig yn yr etholiad. Mae hon yn ardal ddifreintiedig ac yn hen ardal y diwydiant a'r pyllau glo, ac mae'r etifeddiaeth hynny wedi gadael ei ôl ar iechyd pobl fan hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021