Pum munud gyda'r bardd Gwenallt Llwyd Ifan
- Cyhoeddwyd
Mae o'n fab fferm, yn gyn-athro gwyddoniaeth a phennaeth ysgol, yn brifardd ac wedi pysgota dros Gymru.
A mis Ebrill, Gwenallt Llwyd Ifan ydi Bardd y Mis Radio Cymru.
Oedd barddoniaeth yn rhan ganolog o'ch magwraeth - ac ai dyna pam galwyd chi'n Gwenallt?
Ces fy magu ar fferm Penrallt, Tregaron ac roedd digon o lyfrau ar yr aelwyd, gan gynnwys llawer o gyfrolau barddoniaeth.
Mae fy nhad yn ddarllenwr brwd a gall adrodd llawer o gerddi hirion ar ei gof. Wrth reswm, D. Gwenallt Jones oedd ei hoff fardd. Darllenais i'r un llyfrau a dechrau gwerthfawrogi barddoniaeth Waldo, Gwenallt, Gerallt, Dic Jones a beirdd Saesneg.
Rwy'n cofio adrodd cerddi yn uchel a chael fy swyno gan sŵn barddoniaeth. O hynny y dechreuodd fy niddordeb yn y gynghanedd.
Cafodd y diddordeb hwnnw ei feithrin gan brifathro Ysgol Uwchradd Tregaron, Glyn Ifans, a dreuliodd amser gyda fi yn trafod barddoniaeth. Mae'n ddiddorol dyfalu a fyddai genyn y bardd (os oes na'r fath beth) wedi dod yn amlwg heb y fagwraeth honno.
Aethoch chi i'r byd gwyddonol i ennill eich bara menyn, oedd y penderfyniad i beidio mynd lawr y llwybr celfyddydol yn un anodd?
Rwyf wedi mwynhau chwarae â geiriau erioed. Astudiais ddrama a Lladin ochr yn ochr â'r gwyddoniaethau yn yr ysgol. Roedd rhaid dewis llwybr gyrfa wedyn ac yn anffodus roeddwn i'n actor sâl ond yn well gwyddonydd a mathemategydd.
Ar ôl graddio mewn bioleg macromolecwlaidd (cangen o fiocemeg) a chymhwyso fel athro, cwrddais â Delyth, fy ngwraig, a hi a ailgynnodd fy niddordeb mewn llenyddiaeth.
Rwy'n cofio'r eiliad i fi godi cyfrol Anghenion y Gynghanedd Alan Llwyd o'r silff lyfrau a phenderfynu mynd ati i ddysgu'r cynganeddion.
Cwrddais â John Glyn Jones tra oeddwn yn byw yn Ninbych, a daeth ef yn athro barddol i mi. Eto, digwyddiadau allweddol a ddylanwadodd arnaf ac a amlygodd y reddf naturiol oedd ynof.
I fod yn wyddonydd da, oes angen bod yn berson creadigol gyda dychymyg?
Mae'n gwbl hanfodol bod gan wyddonwyr ddychymyg ac athrawon gwyddoniaeth yn arbennig. Buaswn ni heb lawer o ddatblygiadau technolegol, meddygol ac amgylcheddol oni bai am y gwyddonwyr hynny â dychymyg.
Rwyf wedi cael y fraint o addysgu nifer o wyddonwyr ifanc sydd wedi mynd ymlaen i gyfrannu ar y lefel uchaf yn eu maes. Yn ddieithriad, mae pob un o'r rheiny wedi bod yn bobl alluog a chreadigol iawn.
Rwy'n hyfforddi darpar athrawon gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn awr, a'r neges bob tro yw bod angen dychymyg i feithrin gwyddonwyr y dyfodol.
Ers rhai blynyddoedd mae'r byd addysg gynradd ac uwchradd wedi gweld pwyslais ar wyddoniaeth a thechnoleg. Ydy hynny ar draul y celfyddydau - ac felly beirdd y dyfodol?
Pan oeddwn yn bennaeth ysgol roeddwn yn teimlo weithiau bod newidiadau cwricwlaidd y gorffennol mewn ysgolion wedi tueddu i gulhau profiadau pobl ifanc. Er hynny, fy mhrofiad i oedd gweld addysg Gymraeg yn darparu profiadau allgyrsiol eang i gau'r bwlch hwnnw.
Peth calonogol iawn yw gweld cymaint o feirdd ifanc yn ysgrifennu yng Nghymru ar hyn o bryd a'r gynghanedd yn ei hanterth.
Un peth rwyf wedi sylwi arno pan yn dysgu eraill am y gynghanedd yw'r cysylltiad rhwng gallu mewn gwyddoniaeth neu fathemateg a gallu i gynganeddu. Rhywbeth i wneud â'r ffordd mae'r ymennydd wedi ei weiro, efallai?
Rydych chi'n hoff iawn o bysgota - ydy'r awen yn dod wrth i chi fyfyrio ar lan llyn neu afon, neu ydy'r elfen gystadleuol yn lladd creadigrwydd?
Yn rhyfedd iawn, ni fyddaf yn barddoni tra'n pysgota! Mae'n ddiddordeb sy'n dod â llonyddwch mawr i mi ac rwy'n dueddol o ganolbwyntio ar ddal y pysgodyn nesaf neu ar y rheswm fy mod i'n methu dal dim byd!
Beth sydd wedi fy nharo yw bod y tawelwch hwnnw'n esgor ar gywydd neu englyn wedi imi gyrraedd adref. Mae'r broses o greu fel petai'n digwydd rhywle yn yr isymwybod.
Mae'r awen fel Rhiannon yn y Mabinogi. Rhaid gadael iddi benderfynu dod atoch chi. Anaml y daw hi os ydych yn rhedeg ar ei hôl.
Mae'r elfen gystadleuol o'r gamp pysgota yn rhywbeth sy'n ddiddorol am fod angen tipyn o feddwl a gwybodaeth am fyd natur i lwyddo. Rwy'n falch iawn dweud bod cadwraeth yn rhan bwysig o bysgota cystadleuol erbyn hyn.
Petai chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Www! Cwestiwn diddorol. Hoffwn fod yn Dafydd ap Gwilym - nid yn unig am ei ddawn fel bardd ond oherwydd ei fod yn swnio'n strab!
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu a pham?
Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen sy'n dod i gof o hyd, yn arbennig y dyddiau hyn gyda'r galw am annibyniaeth i Gymru yn cynyddu.
Roeddwn yn edmygu Gerallt fel bardd ac fel meuryn y Talwrn a'r Ymryson. Un o'r trysorau pennaf sydd gennyf yw llythyr ganddo yn fy llongyfarch ar ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Rwy'n disgwyl copi o gasgliad o fy ngherddi dan y teitl DNA i gyrraedd unrhyw ddiwrnod o'r wasg. Mae lansiad y gyfrol yn digwydd ar 9 Ebrill ac rwyf fel tad yn disgwyl geni ei blentyn cyntaf.
Hefyd o ddiddordeb: