Apêl am wybodaeth ar ôl ymosodiad rhyw yn y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
e-ffitFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi llun e-ffit o ddyn maen nhw am siarad ag ef mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw yn y Drenewydd.

Roedd dynes ar y gamlas rhwng y Pump House ac Eglwys Llanllwchaiarn, pan ddaeth dyn ati ac ymosod arni tua 16:50 ar ddydd Mawrth, 23 Mawrth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andy Evans, sy'n arwain ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys, fod ei dîm yn ddiolchgar am yr holl alwadau ac eu bod wedi cael "ymateb da i apêl y wasg".

"Ond rydyn ni'n obeithiol y bydd yr e-ffit hwn, yn ogystal â lleoliad mwy manwl gywir, yn helpu i atgoffa pobl yn yr ardal ar y pryd," meddai.

Fe wnaeth y dyn, a oedd wedi cerdded o gyfeiriad Llanllwchaiarn cyn ymosod ar ei ddioddefwr, fynd tuag at y Drenewydd.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel rhywun gwyn, maint canolig, yn ei 20au hwyr neu ei 30au cynnar, ac roedd tua 5 troedfedd 7 modfedd.

Roedd yn gwisgo hwdi zip-up du, trowsus du a esgidiau ymarfer du gyda gwadnau gwyn.

Siaradodd ag acen Saesneg ac roedd ganddo lais arbennig o ddwfn.

Gofynnir i unrhyw un sy'n credu eu bod yn adnabod y dyn yn y ddelwedd neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai fod o ddefnydd gysylltu â'r heddlu, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig