'Pawb dros 50 i gael cynnig brechlyn erbyn dydd Sul'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd targedau brechu yn cael eu cyrraedd cyn yr hyn yr oedd wedi'i obeithio'n wreiddiol.

Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Iau, dywedodd Mark Drakeford y bydd pawb dros 50 oed, pawb gyda chyflyrau iechyd a gofalwyr di-dâl wedi cael cynnig brechlyn erbyn ddydd Sul, 4 Ebrill.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyrraedd y targed yma erbyn canol mis Ebrill.

Mae mwy na 57% o oedolion Cymru (1,443,885) wedi derbyn un dos o frechlyn Covid-19, ac mae bron i un mewn pump (449,538) wedi cael y cwrs llawn o ddau ddos.

"Mae'r nifer sy'n derbyn y cynnig am frechlyn yn ardderchog - mewn dros hanner y grwpiau rydyn ni'n eu cyfrif, mae'n fwy na 90%," meddai Mr Drakeford.

"Mae hon yn ymdrech wirioneddol ryfeddol ac mae i lawr i waith caled miloedd o bobl sy'n gweithio'n ddiflino ar reng flaen y GIG ledled Cymru i wneud i hyn ddigwydd. Rwyf am ddiolch i bob un ohonyn nhw.

"Ac oherwydd yr ymdrechion hynny y gallaf ddweud heddiw y byddwn yn cwrdd â'n carreg filltir brechlyn nesaf yn gynnar.

"Erbyn dydd Sul byddwn wedi cynnig brechlyn i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf - dyna bawb dros 50 oed; pob oedolyn â chyflwr iechyd sylfaenol a llawer iawn o ofalwyr di-dâl.

"Erbyn dydd Sul, bydd o leiaf 75% o'r rhai ym mhob grŵp blaenoriaeth wedi derbyn brechiad cyntaf."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amserlen ar pryd fydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio.

Rhybudd am y sefyllfa yn Ewrop

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton fod sefyllfa iechyd y wlad yn "parhau'n sefydlog".

Mae cyfradd yr achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth dros gyfnod o saith diwrnod bellach yn 35.

Ond rhybuddiodd fod clystyrau o achosion - fel yn Ynys Môn a Merthyr Tudful - yn peri pryder a bod hynny'n digwydd oherwydd fod pobl yn cymdeithasu dan do.

"Yn anffodus, pryd bynnag y mae pobl yn cymysgu, yn enwedig y tu mewn, mewn ardaloedd nad ydyn nhw wedi'u hawyru'n dda, mae risg bob amser y bydd y feirws yn dod hefyd ac yn lledaenu," meddai Dr Atherton.

"Rydym yn delio â feirws llawer mwy heintus - amrywiolyn Caint.

"Mae'n symud yn gyflymach ac yn fwy trosglwyddadwy na ffurf y feirws yr oeddem yn delio ag ef flwyddyn yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na 1.4 miliwn o bobl wedi derbyn un dos o frechlyn Covid yng Nghymru erbyn hyn

"Mae hyn yn golygu bod y mesurau sylfaenol i amddiffyn ein hunain - pellhau cymdeithasol, golchi dwylo - a'r cyfyngiadau sy'n dal i fodoli - yn bwysig iawn i bob un ohonom, p'un a ydym wedi cael ein brechu ai peidio.

"Rydym i gyd yn gwybod pa mor gyflym y gall niferoedd achosion gynyddu, yn lleol ac yn genedlaethol, os ydym yn siomi ein gwarchod.

"A heddiw, rydyn ni wedi clywed y newyddion o Ewrop bod llawer o wledydd yn ailgyflwyno cyfyngiadau clo oherwydd lefelau uchel o heintiau.

"Nid wyf am weld hynny'n digwydd yma ac nid wyf am orfod cynghori'r Prif Weinidog bod angen iddo ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau oherwydd bod achosion yn codi eto yng Nghymru."

Atgoffodd bobl i hunan-ynysu os oes ganddyn nhw symptomau, ac i drefnu prawf Covid.

Ddydd Iau, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod dwy farwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 wedi'i chofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

Cafodd 188 o achosion newydd o'r haint eu cadarnhau hefyd yn yr un cyfnod.

Daw hyn â nifer yr achosion yng Nghymru ers dechrau'r pandemig i 209,532 gyda'r marwolaethau ar 5,509, yn ôl y system yma o gofnodi.

Pynciau cysylltiedig