Cyngor i gysgodi rhag Covid-19 yn dod i ben i filoedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Woman wearing face mask looking out of windowFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd miloedd o bobl gyda phroblemau iechyd yn cael rhywfaint o ryddhad o ddydd Iau ymlaen, wrth i'r cyngor i gysgodi rhag Covid gael ei godi.

Ers cyn y Nadolig mae 138,470 o bobl yng Nghymru gyda chyflyrau meddygol penodol, wedi cael eu cynghori i aros yn eu cartrefi oherwydd y pandemig.

Mae'r rhai dan sylw yn cael eu cynghori i gadw pellter cymdeithasol, peidio cymdeithasu'n ormodol, a gweithio o gartref os yn bosib.

Daw'r cyngor newydd i rym wrth i achosion Covid a mynediadau ysbyty ostwng.

Cyngor i hunan ynysu

Mae Ant Evans, 33, o Gaernarfon yn dioddef o hydroseffalws, neu ddŵr ar yr ymennydd, ac ym mis Mawrth y llynedd - yn ystod apwyntiad blynyddol yng Nghanolfan Walton, Lerpwl - cafodd gyngor gan arbenigwyr i gysgodi rhag yr haint.

"Mae gen i 'shunt' sy'n arallgyfeirio hylif o fy ymennydd i fy stumog, a dywedodd yr arbenigwr eu bod yn cynghori pob un o'u cleifion efo 'shunt' i hunan ynysu," meddai.

Dywedodd Mr Evans ei fod wedi aros adref ers hynny fwy neu lai, er iddo ddechrau mynd allan i nôl manion o'r siop o fis Awst ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Ant Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ant Evans y bydd yn braf cael mwy o ryddid, ond na fydd llawer o newid i'w fywyd pob dydd

"Mi ges i fygydau gan gyfaill yn yr haf, ac roeddwn i'n mynd allan ychydig i wneud siopa bwyd wedyn, am bethau fel bara a llefrith," meddai.

"Dwi'n gwneud y rhan fwyaf o fy siopa bwyd arlein fel arfer beth bynnag, a dwi'n gweithio o gartref hefyd ers blwyddyn.

"Y peth anoddaf i mi yn y cyfnod pan nad oeddwn yn gadael y tŷ, oedd gorfod dibynnu ar gymorth ffrindiau a chymdogion.

"Dwi'n berson annibynnol o ran natur ac roedd yn anodd i mi ofyn i bobl os oeddan nhw'n meindio nôl llefrith a bara i mi, ond chwarae teg iddyn nhw, roeddan nhw'n cynnig p'run bynnag.

"Ar wahân i hynny, mae teithio allan o Gaernarfon wedi bod yn anodd, a dwi'n dal ddim yn teimlo'n hyderus i wneud hynny ar hyn o bryd, rhag ofn."

Ynglŷn â chodi'r cyngor i gysgodi, dywedodd y bydd yn braf cael ychydig mwy o ryddid.

"Ond fydd 'na ddim llawer o newid yn y ffordd dwi'n byw fy mywyd pob dydd," meddai.

"Dwi'n cael fy ail frechlyn ar 15 Mai a gawn ni weld sut mae pethau - gobeithio y byddaf yn teimlo'n fwy hyderus erbyn hynny."

Mae'r cyngor i gysgodi rhag y Covid yn dod i ben yn Lloegr ddydd Mercher hefyd, lle mae tua 3.8m o bobl yn aros yn eu cartrefi.

Mae disgwyl i'r cyngor gael ei godi yn Yr Alban a Gogledd Iewerddon yn ddiweddarach ym mis Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images