Trefnu etholiad mewn pandemig yn 'her ychwanegol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae trefnu etholiad wastad yn gosod heriau i awdurdodau lleol.

Mae'r gwaith o'u staffio, cludo'r pleidleisiau ac o drefnu'r adnoddau priodol yn drylwyr.

Ond eleni mi fydd swyddogion etholiadau ar draws Cymru yn wynebu her ychwanegol wrth sicrhau fod y blychau pleidleisio yn ddiogel ac yn atal Covid-19 rhag lledaenu.

Er mwyn gwneud hyn mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi £1.5m o arian ychwanegol ar gyfer cyfarpar diogelwch ac adnoddau i sicrhau fod ymbellhau cymdeithasol yn bosib.

Er yn her amlwg mae 'na rai awdurdodau lleol sydd wedi cael y cyfle i ymarfer y systemau dan gyfyngiadau Covid-19, gyda sawl isetholiad wedi ei gynnal yng Nghymru ym mis Mawrth.

Yn eu plith roedd isetholiad ward Llanrug ar gyfer Cyngor Gwynedd.

Dyma un o'r etholiadau cyntaf i gael eu cynnal dan y drefn newydd, gan gynnig cipolwg ar sut fydd y blychau pleidleisio yn edrych ar 6 Mai 2021.

Masgiau, hylif diheintio ac ymbellhau cymdeithasol

Wrth gerdded drwy ddrws Sefydliad Coffa Arwyr Llanrug, yr orsaf bleidleisio ar gyfer y ward, mae'r adnoddau newydd yn amlwg.

Mae'n rhaid defnyddio hylif diheintio i olchi dwylo ac mae'n rhaid gwisgo gorchudd wyneb oni bai am reswm meddygol.

Wrth gerdded wedyn tuag at y bwrdd lle mae'r staff etholiadol yn eistedd mae 'na arwyddion ymbellhau cymdeithasol ar y lloriau ac ar waliau yn dangos yn glir y system un ffordd sydd ar waith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae awdurdodau lleol yn annog pobl i ddod a phensiliau eu hunain i'r blwch pleidleisio

Yng Ngwynedd, mae'r cyngor sir wedi cynyddu maint yr ysgrifen ar y cardiau cofrestru fel bod modd dangos i staff eich cyfeiriad ac enw yn rhwydd ac yn glir.

Mae'r staff fydd yn cynnig cymorth hefyd yn derbyn cyfarpar diogelwch i wisgo i'w cadw'n ddiogel, ac mae sgriniau yn eu gwahanu.

Wrth fynd tuag at y blwch pleidleisio mi fydd pensiliau ar gael ond mae awdurdodau lleol yn annog pobl i ddod a rhai eu hunain er mwyn lleihau pwysau gwaith.

Ar ôl rhoi croes yn y blwch mi fydd angen dilyn y llwybr un ffordd tuag at y bwlch pleidleisio ac wedi hynny yn gadael yr adeilad drwy'r allanfa.

'Bob elfen o'r etholiad yn lot mwy o waith'

Y gŵr sy'n gyfrifol am sicrhau fod popeth yn ei le ar draws Gwynedd ydy'r Swyddog Etholiadau, Raymond Harvey.

"Roedd yr isetholiad yn Llanrug yn ymarferiad defnyddiol", meddai.

"Mae'r etholiad ei hun wedi bod yn her yn amlwg, fel bob dim arall 'efo'r pandemig.

"Nid yn unig 'efo'r gorsafoedd ond 'efo bob elfen o'r etholiad yn parhau i olygu lot mwy o waith i'r tîm ond 'da ni'n delio 'efo hynny yn y ffordd gorau posib", meddai.

Mi fydd y drefn o sut yn union fydd y cynghorau sir yn cyfri'r pleidleisiau yn cael ei gadarnhau dros yr wythnosau nesaf ond am y tro, ar draws Cymru mi fydd y paratoadau at etholiadau'r Senedd 2021 yn parhau.