Plaid Cymru: Ffrae yn arwain at ymddiswyddiad ymgeisydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ashley Drake
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ashley Drake fod sefyll yn sedd Gogledd Caerdydd ble mae'r ganolfan ganser ddadleuol fod cael ei hadeiladu

Mae ffrae fewnol dros bolisi Plaid Cymru ar ganolfan drin canser newydd wedi arwain at ymddiswyddiad un o'i hymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd.

Mae Ashley Drake wedi sefyll i lawr fel ymgeisydd gan gyhuddo'r blaid o frad am benderfynu glynu wrth benderfyniad llywodraeth Cymru i roi sêl bendith i safle Canolfan Ganser Felindre.

Mewn neges breifat at gydweithwyr cyn i'r blaid gyhoeddi'r newid polisi ynglŷn â'r ganolfan, dywedodd eu cyn-arweinydd, Leanne Wood, y gallai gwrthwynebu'r cynlluniau niweidio ei hymgyrch etholiadol yn Y Rhondda, gan fod Llafur yn ymgyrchu'n galed ar y mater.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod y blaid yn cefnogi'r ganolfan ac y byddant "yn parhau i ofyn y cwestiynau sy'n mynnu atebion".

Mae safle'r ganolfan arbenigol newydd ar y dolydd gogleddol yng Nghaerdydd wedi profi'n ddadleuol, gan arwain at brotestiadau ynghylch ei heffaith amgylcheddol, a gan godi "gofid dwfn" ymhlith arbenigwyr canser sy'n dadlau y dylai'r ganolfan gael ei lleoli ochr yn ochr â'r ysbyty presennol.

Ond penderfynodd llywodraeth Lafur Cymru roi sêl bendith i'r cynllun ym mis Mawrth, gyda disgwyl y bydd y ganolfan yn agor yn 2025.

Mae Ashley Drake, a oedd yn sefyll dros Blaid Cymru yn etholaeth Gogledd Caerdydd lle mae'r safle wedi'i leoli, wedi galw'n gyson am ymchwiliad annibynnol.

Ond yn gynharach yr wythnos hon, penderfynodd Plaid Cymru'n swyddogol na fyddent yn gwrthdroi'r penderfyniad pe bai nhw mewn grym, gan annog Ashley Drake, ei reolwr ymgyrchu, a'i asiant i ymddiswyddo o'r blaid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Leanne Wood nad yw hi erioed wedi gwrthwynebu'r cynlluniau i adeiladu ysbyty newydd yn Felindre

Mewn ymateb i drafodaeth ymhlith ymgeiswyr y blaid ar Whatsapp ddydd Llun ynglŷn â pholisi Plaid Cymru ar y mater, dywedodd Leanne Wood: "Mae penderfyniad wedi cael ei wneud ar Felindre.

"Siaradais gydag Adam [Price, arweinydd y blaid] amdano heddiw a chadarnhaodd nad ydym yn mynd i wyrdroi'r penderfyniad."

Mewn ymateb i'r grŵp Whatsapp, dywedodd Ashley Drake: "Er eglurder. Rydym ni (yng Ngogledd Caerdydd) yn ymgyrchu ar yr alwad am ymchwiliad annibynnol. Dyna fe. Dyna fu ein safbwynt ers amser hir."

"Mae dweud ein bod yn 'derbyn' y penderfyniad heb ymgynghori gyda Gogledd Caerdydd yn annerbyniol," meddai.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod polisi'r blaid ar y ganolfan wedi cael ei benderfynu ddydd Mawrth, mewn cyfarfod o grŵp presennol y blaid yn y Senedd.

'Siomedig' defnyddio'r mater yn wleidyddol

Mewn sylw ar Facebook nos Fawrth dywedodd Leanne Wood nad oedd hi erioed wedi gwrthwynebu adeiladu ysbyty newydd yn Felindre.

"Mae ymgyrch leol wedi codi cwestiynau am hynny ac mae yna gwestiynau o hyd sydd angen eu gofyn a'u hateb o bersbectif cynllunio ac yn nhermau'r gofid dwfn y mae rhai clinigwyr wedi eu mynegi am y model sy'n cael ei ddefnyddio ac rydym wir yn cymryd ein rôl sgriwtini o ddifri.

"Ond mae penderfyniad wedi cael ei wneud a byddai llywodraeth Plaid Cymru, os caiff ei ethol ar 6 Mai, yn anrhydeddu'r penderfyniad yna, ac nid yn ei wyrdroi.

"Rwyf yn siomedig bod fy ngwrthwynebwyr gwleidyddol wedi dewis defnyddio'r mater mewn ffordd wleidyddol yn Y Rhondda ac i gamliwio fy safbwynt i.

"Mae defnyddio canser fel pêl-droed boliticaidd braidd yn sâl," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Ganser Felindre
Disgrifiad o’r llun,

Argraff dylunydd o ganolfan trin canser newydd Felindre, yn yr Eglwys Newydd

Mae Ashley Drake, ei reolwr ymgyrchu, Phil Nifield, a'i asiant Dan Allsobrook oll wedi ymddiswyddo o'r blaid mewn protest yn erbyn y polisi.

Mewn llythyr yn amlinellu ei benderfyniad dywedodd Mr Drake bod y blaid wedi bradychu ei hegwyddorion amgylcheddol, arbenigwyr canser a chleifion gyda'i hymateb "byrbwyll a byrdymor".

Mewn sylw ar Facebook, dywedodd fod egwyddorion wedi cael eu bwrw o'r neilltu "yn enw hwylustod gwleidyddol - yr union beth sy'n rhoi enw drwg i wleidyddiaeth".

"Mae hi hefyd yn glir bod y cysylltiad rhwng grŵp cefnogi Felindre a'r Blaid Lafur yn gryf iawn a bod Llafur yn ddigywilydd wedi defnyddio'r mater hwn fel arf er eu budd politicaidd eu hunain, ac yn targedu Leanne yn arbennig.

"Cefais fy nysgu erioed i sefyll i fyny i fwlïaid. Biti na fyddai gan arweinyddiaeth Plaid Cymru'r asgwrn cefn i wneud yr un fath."

Gwrthododd Y Blaid Lafur Cymreig a gwneud unrhyw sylw.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru: "Mae'n siomedig iawn bod Ashley Drake unwaith eto wedi dewis camliwio digwyddiadau trwy rannu dyfyniadau dethol o sgyrsiau preifat.

"Mae nifer o sgyrsiau wedi digwydd dros sawl diwrnod gydag Ashley Drake, ac mae'n siomedig ei fod wedi dewis peidio trafod mewn ffordd adeiladol.

"Mae Plaid Cymru wedi gosod allan ein cefnogaeth i'r ganolfan ganser newydd i dde-ddwyrain Cymru a byddwn yn parhau i ofyn y cwestiynau sy'n mynnu atebion er mwyn sicrhau'r gwasanaeth gorau posib i bobl y rhanbarth."

Mae'r ymgeiswyr y mae disgwyl iddynt sefyll yng Ngogledd Caerdydd yn cynnwys:

Llafur - Julie Morgan

Ceidwadwyr - Joel Williams

Democratiaid Rhyddfrydol - Rhys Taylor

Gwyrddion - Debra Cooper

Plaid Diddymu'r Cynulliad - Lawrence Gwynn