'Dylai pob disgybl gael prydau bwyd am ddim'

  • Cyhoeddwyd
Adam JohannesFfynhonnell y llun, Adam Johannes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Johannes yn ymgyrchu wedi iddo weld ei fam yn cyfri'r ceiniogau pan yn blentyn

Mae dyn a gafodd ei fagu mewn tlodi yn ymgyrchu i bob disgybl ysgol yng Nghymru i dderbyn prydau bwyd am ddim.

Dywedodd Adam Johannes, 40 oed, bod gwylio'i fam yn cyfri'r ceiniogau a gorfod dileu pethau hanfodol o'r rhestr siopa wedi "aros yn y cof".

Mae'n deisebu er mwyn gweld Llywodraeth Cymru yn darparu prydau bwyd am ddim i deuluoedd ar fudd-daliadau ar unwaith, ac yna i bob plentyn o fewn blwyddyn.

Ar hyn o bryd mae'r cynllun ar gyfer teuluoedd sy'n ennill cyflog o £7,400 neu lai.

Dywedodd Mr Johannes fod llawer o deuluoedd sy'n byw ychydig dros y trothwy yna - sydd yn £14,000 yng Ngogledd Iwerddon - yn cael trafferth cael dau pen llinyn ynghyd.

"Rwy'n dod o gefndir eitha tlawd," meddai.

"Pan oeddwn i'n ifanc fe gollodd fy nhad ei waith, ac yn y 1980au roedden ni'n byw mewn tlodi ac wedi gorfod symud i fyw ar stad cyngor.

"Fe welais mam yn gwneud y siopa, yn cyfri bob ceiniog a dileu eitemau o'r rhestr, a weithiau doedd dim gwahaniaeth faint oedd hi'n ddileu, doedd dim digon o arian i dalu am bethau hanfodol.

"Dylai pobl ddim gorfod byw fel yna mewn gwlad gyfoethog. Arhosodd hynny yn y cof i mi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn Lloegr a'r Alban, mae prydau am ddim ar gael i blant dosbarth derbyn a blynyddoedd un a dau, ac mae Mr Johannes hefyd am weld Cymru i weithredu hynny ar unwaith. Ar hyn o bryd mae plant Cymru'n cael brecwast am ddim ond nid cinio.

Yn y pen draw - yn ddelfrydol o fewn blwyddyn - hoffai weld prydau bwyd maethlon i bob plentyn oed ysgol yng Nghymru, waeth beth yw incwm y teulu.

"Y prif wrthwynebiad yw ei fod yn costio gormod," meddai, "ond beth yw'r gost os oes cymaint o blant a theuluoedd yn stryffaglu?

"Mae pedair bwrdeisdref yn Llundain yn rhoi prydau am ddim i bob disgybl cynradd... Cymru yw'r wlad dlotaf yn y DU felly does bosib y gallwn ni wneud hynny yma? Dyw e ddim cymaint o arian â hynny yng nghyd-destun cyllideb Cymru."

Nododd Mr Johannes esiampl Y Ffindir, lle mae disgyblion yn derbyn prydau am ddim tan eu bod yn 16 oed, gyda'r budd i iechyd cyhoeddus yn gwneud yn iawn am gost y rhaglen.

"Mae yna fuddion yn nhermau gordewdra plant, gwell canolbwyntio yn y gwersi ac awyrgylch well yn yr ysgol," ychwanegodd.

Beth yw barn y pleidiau am ddeiseb Adam Johannes?

Dywedodd Llafur Cymru eu bod yn bwriadu adolygu'r trothwy i dderbyn prydau am ddim gan "ymestyn cymhwyster cyn belled ag y mae adnoddau'n caniatáu" ac y bydden nhw'n parhau i roi brecwast am ddim i bob disgybl cynradd.

Pwysleisiodd y blaid mai nhw oedd y llywodraeth gyntaf yn y DU i warantu prydau bwyd am ddim yn ystod gwyliau ysgol hyd at Pasg 2022.

Dywedodd Leanne Wood ar ran Plaid Cymru: "Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn codi'r trothwy fel bod pob plentyn ymhob aelwyd sy'n hawlio credyd cynhwysol yn cael pryd maethlon am ddim yn yr ysgol.

"Byddwn wedyn yn gosod amserlen i ymestyn y ddarpariaeth o fwyd am ddim i bob disgybl, gan ddechrau gyda'r babanod, yna disgyblion cynradd erbyn diwedd ein tymor cyntaf."

Dywedodd arweinydd Plaid Propel, Neil McEvoy: "Mae'n drasiedi bod plant yn newynog mewn gwlad mor gyfoethog â hon. Y peth cyntaf y bydden ni'n gwneud er mwyn sicrhau fod plant yn cael addysg dda yw sicrhau eu bod yn dechrau'r diwrnod gyda phryd da o fwyd. Mae Propel yn cefnogi'r ddeiseb yma."

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Rydym yn falch mai Kirsty Williams oedd y gweinidog cyntaf yn y DU i warantu prydau am ddim i ddisgyblion yn ystod gwyliau ysgol.

"Bydd ein maniffesto nesaf yn adeiladu ar hyn drwy addo i barhau gyda'r ddarpariaeth yna yn ystod bob gwyliau yn y dyfodol, tra hefyd yn buddsoddi mwy mewn rhaglenni haf i daclo newyn ac i gefnogi dysgu."

Dywedodd Laura Anne Jones o'r Ceidwadwyr y byddai ei phlaid yn ymestyn prydau am ddim i deuluoedd heb incwm a'r rhai oedd ddim yn gallu hawlio arian cyhoeddus, ynghyd â dysgwyr mewn addysg bellach.

"Ni ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru yn y 21ain ganrif fod yn mynd i'r ysgol yn newynog," meddai.

Nid oedd Reform UK am wneud sylw.