Ymestyn prydau bwyd am ddim i blant ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
prydau ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd plant nawr yn cael prydau am ddim yn ystod gwyliau ysgol hyd at Pasg 2021

Bydd prydau bwyd am ddim yn cael eu darparu i blant Cymru yn ystod gwyliau ysgol hyd at Pasg 2021, medd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y byddai'n gwario £11m ar y cynllun er mwyn ei ymestyn.

Mae dros 75,000 o blant rhwng pump a 15 oed o aelwydydd incwm isel yn gymwys i dderbyn prydau am ddim yng Nghymru.

Bydd y cynllun hefyd yn agored i blant iau sydd mewn meithrinfa am ddyddiau llawn, a disgyblion chweched dosbarth.

Dywedodd Ms Williams ei bod yn gobeithio y byddai hyn yn "rhoi peth sicrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd".

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan y pêl-droediwr Marcus Rashford.

Mae seren Manchester United a Lloegr wedi bod yn ymgyrchu ar y mater yn Lloegr, ac fe gafodd yr MBE yn ddiweddar am ei waith yn y maes.

Dywedodd fod mwy o waith i wneud i warchod y genhedlaeth nesaf, ond fe groesawodd yr "ymateb cyflym i'r angen dirfawr yma".