Ceffyl yn atal traffig Sul y Pasg ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Horse on the carriagewayFfynhonnell y llun, Traffig Cymru - Gogledd a Chanolbarth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Traffig Cymru wedi rhybuddio y byddai gyrwyr yn wynebu oedi i'r ddau gyfeiriad

Roedd yna gryn sioc yn wynebu gyrwyr a oedd yn teithio ar ffordd yr A55 yng Ngwynedd ar Sul y Pasg wrth iddynt weld ceffyl ynghanol y lôn.

Bu'n rhaid i blismyn gau'r ffordd rhwng Llandygái a Thal-y-bont wedi i gerbyd perchennog y ceffyl dorri lawr.

Mae llun a gafodd ei rannu ar gyfrif Twitter Traffig Cymru Gogledd-Canolbarth yn dangos y ceffyl yn sefyll ar ganol y ffordd.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad oddeutu 15:30 am gyfnod.

Nid dyma'r tro cyntaf i geffyl amharu ar yrwyr yng Nghymru - y llynedd bu'n rhaid i fws fynd â cheffyl i le diogel wedi iddo fod yn crwydro ffordd yr A48 ger Caerdydd.

Pynciau cysylltiedig